Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyflogaeth

Ydych chi’n barod i fynd â’ch cyflogaeth i’r lefel nesaf? Gall Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr helpu.

Mae ein Swyddogion Cyswllt Cyflogwyr yn cysylltu â chyflogwyr, ac yn nodi swyddi gwag, gan eu hysbysebu’n uniongyrchol i geiswyr gwaith fel chi. Mae ein Swyddogion Cyswllt Cyflogwyr yn eich cefnogi drwy gydol y broses recriwtio. O fireinio eich ceisiadau a’ch CV i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau. Byddwn yn teilwra eich chwiliad am swydd yn arbennig i chi.

Rydym yn hysbysebu cyfleoedd ar-lein, yn uniongyrchol i ymgeiswyr ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallwn weithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr i hwyluso’r broses recriwtio.

Am fwy o wybodaeth neu am gymorth i ddod o hyd i swydd neu gyda’r broses recriwtio:

Ffôn: 01656 815317

Swyddi gwag

Mae nifer o swyddi gwag yn y cyngor ac mewn ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol. 

I weld y swyddi gwag diweddaraf, ewch i’n tudalen swyddi:

Chwilio A i Y