Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr

Nod prosiect Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr yw cefnogi lleoliadau gwaith cyflogedig, tymor byr ar draws y fwrdeistref sirol gyda golwg ar sicrhau bod cyfranogwyr yn derbyn swydd barhaol o fewn y busnes sy’n cynnal y lleoliad ar ddiwedd y cyfnod hwnnw. Bydd hyfforddiant i gyfranogwyr hefyd yn cael ei gefnogi yn ystod y cyfnod hwn.

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cadarnhau manylion terfynol y prosiect newydd, cyffrous yma a disgwyliwn y bydd yn rhedeg rhwng Mai 2024 ac Ionawr 2025.

Amodau

  • Bydd y lleoliadau am o leiaf 25 awr yr wythnos.
  • Ni ddylai’r swyddi gymryd lle swyddi sy’n bodoli eisoes neu rai sydd wedi’u cynllunio; ni ddylent fod yn dymhorol, a/neu yn achosi i weithwyr, prentisiaid neu gontractwyr presennol golli gwaith neu gael eu horiau gwaith wedi eu lleihau.
  • Mae angen i’r lleoliadau fod yn 16 wythnos a mwy a hyd at 24 wythnos a bod wedi dod i ben erbyn 31 Ionawr 2025. 
  • Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer y lleoliad gwaith cyflogedig fod dros 18 oed ond nid oes uchafswm oedran.  
  • Yr isafswm cyflog o 1 Ebrill 2024 ar gyfer rhai 21 oed a throsodd yw £11.44 ac ar gyfer rhai sydd rhwng 18 a 20 oed, £8.60.  
  • Bydd y cyflogau yn cael eu talu fel ôl-daliad drwy broses hawlio felly bydd angen i’r cwmnïau sy’n gysylltiedig â hyn fod â’r llif arian er mwyn talu allan cyn iddynt gael eu digolledu ac i dalu’r cyfraniadau perthnasol i CThEF cyn cael eu digolledu gan brosiect Quickstart Pen-y-bont ar Ogwr. 

Byddwn yn ystyried, yn bennaf, gwmnïau sy’n cyflogi o 10 i 250 o weithwyr ar hyn o bryd, ac mewn achosion eithriadol byddwn yn ystyried y busnesau hynny sy’n cyflogi llai na 10 yn ddibynnol ar allu boddhau yr amod o gyflogaeth barhaus debygol ar ddiwedd y lleoliad gwaith cyflogedig.  

Ein dyhead yw y bydd cyflogwyr yn gallu cyfweld ystod o wahanol ymgeiswyr a dewis yr un sy’n gweddu orau i’w cwmni gan ddefnyddio eu prosesau arferol.  Fodd bynnag, bydd yr holl ymgeiswyr yn cael eu cyfeirio drwy Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn er mwyn i’r ymgeiswyr gael eu cefnogi cyn y cyfweliad, ac os oes gofyn, yn ystod ac wedi’r lleoliad gwaith, fel bod y cyfle hwn yn rhoi’r profiad gorau iddynt yn ystod eu hamser gyda’r cyflogwr sy’n cynnal y lleoliad gwaith. 

Cofrestru diddordeb

Fel rhan o’n paratoadau, rydym am ddeall faint o ddiddordeb sydd yna gan gyflogwyr ar draws y fwrdeistref sirol.

Gall cyflogwyr yn awr gofrestru eu diddordeb i gynnal lleoliad gwaith drwy ein ffurflen Mynegiant Diddordeb ar-lein:  

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw cwblhau’r Mynegiant o Ddiddordeb yma yn gwarantu y byddwch yn gallu cynnal lleoliad gwaith gan ein bod yn disgwyl llawer o ddiddordeb.  

Cyflawnir y prosiect hwn mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Chwilio A i Y