Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trawsgrifiad fideo Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yma i gefnogi, arbed.

Mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ffynnu o fewn eu cartrefi, teuluoedd, cymunedau ac ysgolion.

Ond mae nifer fach o blant a phobl ifanc sydd o bosib wedi profi bywydau a sefyllfaoedd heriol gartref, neu wedi gwneud y dewisiadau anghywir.
Gall plant neu bobl ifanc yn y sefyllfaoedd hyn ddod i sylw'r heddlu yn yr ardal, a'u hychwanegu i'w system gyfiawnder ieuenctid.

Ynghlwm â Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr mae gwasanaethau cyhoeddus, addysg, yr heddlu, gwasanaeth prawf, asiantaethau iechyd a gwirfoddol.

Y plentyn neu berson ifanc sy'n ganolbwynt i'n cymorth, o'r cychwyn i'r diwedd.

Rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc drwy:

• Wrando wrth eu cefnogi a'u hannog nhw
• Gweithio gyda phartneriaid mewn atal ac ymyrraeth gynnar i leihau nifer.
• Darparu cymorth llesiant a gwytnwch i sicrhau eu bod nhw'n ymatal rhag droseddu
• Gweithio gyda phobl ifanc a dioddefwyr eu troseddau
• Darparu cymorth i wneud camau cadarnhaol wrth iddynt gael eu rhyddhau o'r ddalfa

Gyda'n gilydd, byddwn yn cefnogi plant a phobl ifanc i atal ymddygiad troseddol...

...drwy eu galluogi nhw i gyfrannu'n gadarnhaol i'w cymunedau a chyflawni hyd at eu gallu.
Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth, cysylltwch â'n tîm neu ewch i'n gwefan:

E-bost: yjs@bridgend.gov.uk
Ffôn: 01656 815420
Gwefan: www.bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y