Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Mynd i’r llys

Y llys, a dedfrydau cymunedol a dedfrydau o garchar

Os cewch eich galw i fynd i'r llys, fe'ch cynghorir i gyrraedd yno'n gynnar fel eich bod yn gallu gweld i ble mae angen i chi fynd. Ar ôl cyrraedd y llys, rhaid i chi adrodd i dywysydd y llys a'ch cyfreithiwr (neu’r cyfreithiwr ar ddyletswydd) a bydd swyddog llys BYJS yn bresennol hefyd i gynnig cymorth.

Yn aml iawn, mae ynadon yn gofyn am ysgrifennu adroddiad cyn dedfrydu i'w helpu i ddod i benderfyniad am y ffordd orau o ddelio â throsedd. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd eich achos yn cael ei ohirio am gyfnod o amser er mwyn caniatáu i reolwr achosion BYJS ymweld â chi a pharatoi'r adroddiad.

Gan ddibynnu ar ganlyniad ymddangosiad llys gall yr ynad benderfynu ar un o'r camau gweithredu canlynol:-

  • rhyddhau diamod
  • rhyddhau amodol
  • dirwy
  • gorchymyn atgyfeirio
  • gorchymyn gwneud iawn
  • gorchymyn adsefydlu ieuenctid
  • gorchymyn cadw a hyfforddi
  • Adran 90/91 *

* Rhoddir dedfrydau Adran 90/91 yn Llys y Goron.  Os yw person ifanc yn cael ei gyhuddo o drosedd ddifrifol, gellir trosglwyddo'r achos o'r llys ynadon i lys y goron.

Mae’r person ifanc yn cael ei ryddhau’n ddiamod pan fydd yn cyfaddef euogrwydd neu'n cael ei ganfod yn euog ond ni chymerir unrhyw gamau pellach yn ei erbyn.

Nid yw person ifanc sy'n cael ei ryddhau'n amodol yn cael unrhyw gosb ar unwaith. Pennir cyfnod o hyd at dair blynedd ac, ar yr amod nad yw’r person ifanc yn cyflawni trosedd bellach yn ystod y cyfnod hwn, ni osodir cosb. Fodd bynnag, os bydd y person ifanc yn cyflawni trosedd arall yn ystod y cyfnod hwn, gellir dod ag ef yn ôl i'r llys. Wedyn bydd yn cael ei ddedfrydu am y drosedd wreiddiol y cafodd ei ryddhau'n amodol amdani, ac unrhyw drosedd newydd.

Mae maint y ddirwy’n adlewyrchu difrifoldeb y drosedd a gyflawnwyd ac amgylchiadau ariannol y troseddwr.

Ar gyfer person ifanc o dan 16 oed, cyfrifoldeb ei riant/gofalwr yw talu dirwy. Bydd yr amgylchiadau ariannol yn cael eu hystyried pan fydd lefel y ddirwy’n cael ei phennu. 

Fel rheol, mae gorchymyn atgyfeirio’n cael ei roi i berson ifanc sy'n pledio'n euog i drosedd pan mae yn y llys am y tro cyntaf.

Yr unig eithriadau i hyn yw:

  • pan fo'r drosedd yn ddifrifol a bod angen dedfryd o garchar
  • pan fo'r drosedd yn gymharol fach a gellir rhoi dirwy neu ryddhau’n ddiamod
  • o dan amgylchiadau eithriadol, gall y llys roi ail orchymyn atgyfeirio os oes cyfnod sylweddol o amser wedi mynd heibio ers i'r gorchymyn atgyfeirio diwethaf ddod i ben.

Pan roddir gorchymyn atgyfeirio i berson ifanc, mae'n ofynnol iddo fynychu panel troseddwyr ifanc. Mae'r panel yn cynnwys dau wirfoddolwr o'r gymuned leol a chynghorydd panel o'r YJS. Mae'r panel, gan ymgynghori â'r person ifanc, ei rieni/gofalwyr a'r dioddefwr (os yw hynny’n briodol) yn cytuno ar gontract sydd â'r nod o wneud iawn am y niwed sydd wedi'i achosi a rhoi sylw i achosion yr ymddygiadau troseddol.

Gall gorchymyn atgyfeirio bara rhwng 3 a 12 mis. Mae’r euogfarn yn 'dod i ben' unwaith bydd y contract wedi'i gwblhau'n llwyddiannus. Mae hyn yn golygu, o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau, na fydd raid i'r person ifanc ddatgelu'r drosedd wrth wneud cais am waith. Fodd bynnag, bydd y drosedd yn parhau i ymddangos ar gofnod troseddol y person ifanc ac archwiliad manwl y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Nod gorchmynion gwneud iawn yw helpu troseddwyr ifanc i ystyried canlyniadau eu troseddu ac ysgwyddo cyfrifoldeb am eu hymddygiad. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i'r person ifanc wneud iawn am y niwed a achoswyd gan y drosedd naill ai'n uniongyrchol i'r dioddefwr neu'n anuniongyrchol i'r gymuned. Mae gorchymyn gwneud iawn yn para am dri mis a gall gynnwys hyd at 24 awr o wneud iawn.

Mae'r gorchymyn adsefydlu ieuenctid (YRO) yn orchymyn cymunedol a all bara hyd at dair blynedd. Bydd gorchymyn adsefydlu ieuenctid yn cynnwys un neu fwy o ofynion, fel cwblhau gwaith i wneud iawn neu waith di-dâl, cydymffurfio â chyrffyw neu weithgaredd, neu fyw yn unol â chyfarwyddyd y llysoedd.

Mae nifer yr elfennau a gyflwynir i fod yn ofynion y gorchymyn adsefydlu ieuenctid yn seiliedig ar anghenion a dangosyddion risg pob person ifanc. Bydd hyn hefyd yn pennu amlder y cyswllt â'r YJS.

Hefyd gellir atodi elfen Goruchwyliaeth ac Arolygaeth Ddwys (ISS) wrth orchymyn adsefydlu ieuenctid. Mae ISS yn orchymyn cymunedol dwys sy'n para chwe mis. Yn ystod tri mis cyntaf yr ISS, mae'n ofynnol i berson ifanc gael cyswllt dyddiol â'r YOS am o leiaf 25 awr yr wythnos. Yn ystod y 3 mis olaf mae llacio ar y cyswllt.

Mae'r gorchymyn cadw a hyfforddi (DTO) yn dedfrydu person ifanc i gystodaeth. Gellir rhoi DTO i bobl ifanc 12 i 17 oed ac mae'n para rhwng 4 mis a 2 flynedd. Mae hanner cyntaf DTO yn cael ei dreulio mewn cystodaeth ac mae'r ail hanner yn cael ei dreulio yn y gymuned o dan oruchwyliaeth yr YOS.

Os caiff person ifanc ei ganfod yn euog o drosedd y gallai oedolyn gael o leiaf 14 mlynedd yn y carchar am ei chyflawni, gellir ei ddedfrydu o dan Adran 90/91.

Os yw'r euogfarn ar gyfer llofruddiaeth, mae'r ddedfryd yn dod o dan Adran 90  Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000. Dedfryd oes yw hon a bydd y llys yn pennu tymor isafswm i'w dreulio yn y carchar, ac ar ôl hynny gall y person ifanc wneud cais i’r bwrdd parôl am ei ryddhau.

Os caiff person ifanc ei ganfod yn euog o drosedd y gallai oedolyn gael o leiaf 14 mlynedd yn y carchar am ei chyflawni, gellir ei ddedfrydu o dan Adran 91 Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000. Gall hyd y ddedfryd fod yn unrhyw beth hyd at yr uchafswm i oedolyn am yr un drosedd, a all fod yn ddedfryd oes ar gyfer rhai troseddau.

Os ydych chi i fod i ymddangos yn y llys ac os hoffech gael mwy o help neu wybodaeth, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 657243

Chwilio A i Y