Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cofnodion genedigaethau, marwolaethau a phriodasau

Mae gan Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr nifer o gofrestrau sy’n cofnodi genedigaethau, marwolaethau a phriodasau lleol er 1837.

Efallai y bydd angen copïau o dystysgrifau arnoch am sawl rheswm, megis:

  • gwneud cais am basbort
  • ceisio cael benthyciad myfyrwyr
  • atodi dogfennau at CV
  • cyflwyno hawliad yswiriant
  • dangos tystiolaeth o brofiant

Ymhlith defnyddiau arall o gofnodion swyddfa mae creu coeden deulu neu ymchwilio i hanes leol. Gall Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr eich helpu gyda hyn ac yn aml bydd yn derbyn ymholiadau o bob cwr o’r byd.

Archebu copïau o dystysgrifau

Bydd angen y dystiolaeth ganlynol arnom:

  • enw’r person, ac yn achos priodas, enw’r partner
  • dyddiad y digwyddiad
  • lleoliad yr enedigaeth neu'r farwolaeth
  • mewn achos priodas, enw’r eglwys neu’r lleoliad trwyddedig y cafodd ei gynnal

Cliciwch yma i weld y ffioedd diweddaraf.

Cyswllt

Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642391
Cyfeiriad: Tŷ’r Ardd, Sunnyside, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AR.
Oriau agor:
Dydd Llun hyd at Dydd Gwener 9.30am hyd at 4pm

Chwilio A i Y