Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cofrestru genedigaeth

Mae apwyntiadau bellach ar gael yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr i rieni nad ydynt wedi gallu cofrestru genedigaeth eu babanod a anwyd yn ystod cyfnod y coronafeirws COVID-19.

Bydd yr apwyntiadau ar gael yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd eich bydwraig yn rhoi taflen ‘cofrestru genedigaeth babi’ sy’n egluro lle gallwch gofrestru eich plentyn a pha wybodaeth fydd angen i chi ddod â hi gyda chi.

Rhaid cofrestru genedigaeth eich babi yn yr ardal lle cafodd ei eni. Os cafodd eich babi ei eni yn Ysbyty Tywysoges Cymru neu gartref yn unrhyw le ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd rhaid i chi gofrestru’r enedigaeth yn Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr. 

Apwyntiad yn unig. 

Cysyllt

Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642392/93/94
Cyfeiriad: Ty'r Ardd, Sunnyside, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AR.
Oriau agor:
Llun - Gwener,  9.30am - 4pm

Chwilio A i Y