Partneriaethau sifil
Mae cyplau un-rhyw wedi gallu bod mewn partneriaethau sifil ers mis Rhagfyr 2004. Mae hyn yn rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol iddynt a’r un cyfrifoldebau a hawliau â chyplau priod, er enghraifft, o ran pensiynau, yswiriant bywyd ac etifeddiaeth. Cymeradwyodd a lluniodd y Senedd Reoliadau Partneriaethau Sifil (Cyplau o Wahanol Ryw) 2019 ar 5 Tachwedd 2019. Mae’r rhain yn ymestyn cymhwysedd ar gyfer partneriaethau sifil i gyplau o wahanol ryw, a daethant i rym ar 2 Rhagfyr 2019.
Mae modd trosi partneriaethau sifil yn briodasau, ac ers mis Mawrth 2014 gall cyplau un-rhyw briodi hefyd.
Mae’n rhaid i gyplau sydd am ddod yn bartneriaid sifil roi ‘rhybudd’ i’r cofrestrydd yn yr ardal y maen nhw'n byw ynddi. Byddant yn cymryd eich manylion ac yn eu rhoi nhw yn ystafell aros y swyddfa gofrestru am 28 diwrnod. Mae hyn yn ofyn cyfreithiol, a dim ond ar ôl gwneud hyn y mae modd cofrestru’r bartneriaeth sifil.
Gallwch gofrestru un ai mewn swyddfa gofrestru neu mewn lleoliad trwyddedig. Gall fod yn syml iawn neu’n rhan o seremoni fwy llawn. Mae cyfnewid addunedau yn ddewisol, ond bydd angen i’r cwpl a dau o dystion arwyddo atodlen y bartneriaeth sifil.
Mae’n rhaid i gyplau sydd am fod yn bartneriaeth sifil fod dros 16 oed. Os ydynt o dan 18 oed mae’n rhaid iddynt gael cydsyniad eu rhieni neu warcheidwaid. Ni allent fod wedi priodi'n barod neu mewn partneriaeth sifil arall.
Ffioedd presennol ar gyfer partneriaethau sifil