Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cofrestru marwolaeth

Mae marwolaethau’n cael eu cofrestru drwy apwyntiad yn unig. Cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru i wneud apwyntiad gan ddefnyddio’r manylion isod.

Dylid cofrestru marwolaeth o fewn pum diwrnod, oni bai bod crwner wedi'i hysbysu, neu os oes angen hysbysu crwner. Nid oes modd cofrestru unrhyw farwolaeth yr hysbyswyd y crwner amdani nes cael cadarnhad y cofrestrydd. Gall hyn achosi oedi o ran cyflwyno tystysgrif er mwyn claddu neu amlosgi.

Bydd marwolaethau fel arfer yn cael eu cofrestru gan berthynas. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gallu cofrestru’r farwolaeth, cysylltwch â ni.

Mae cofrestru marwolaethau yn broses dau gam. Bydd yr ysbyty neu’r feddygfa yn e-bostio'r dystysgrif feddygol wedi'i chwblhau i’r cofrestrydd yn nodi achos y farwolaeth a dylai hon gynnwys manylion cyswllt ar gyfer y berthynas agosaf. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw bryderon bod yr wybodaeth hon yn anghywir. Yna bydd y Cofrestrydd yn cysylltu â'r berthynas agosaf i drefnu i gwblhau'r cofrestriad. Bydd rhan gyntaf y cofrestriad yn cael ei gwneud dros y ffôn a byddwn yn casglu'r holl wybodaeth a nodir isod i ymgymryd â'r cofrestriad. Yna byddwch yn cael cynnig apwyntiad i fynd i'r swyddfa gofrestru i gwblhau'r cofrestriad a bydd modd i chi brynu copïau o'r dystysgrif marwolaeth.

Gwybodaeth sydd ei hangen arnom

Bydd angen y wybodaeth ganlynol:

  • enwau llawn a chyfenw, gan gynnwys enwau blaenorol os yw'n berthnasol
  • dyddiad a man geni
  • swydd
  • cyfeiriad
  • a oeddynt yn derbyn pensiwn llywodraeth neu fudd-daliadau eraill
  • enw, dyddiad geni a swydd unrhyw briod neu bartner sifil os oedd yr ymadawedig wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
  • cerdyn meddygol GIG os yw'n bosibl

Prynu tystysgrifau marwolaeth

Gallwch brynu tystysgrifau marwolaeth pan fyddwch yn cofrestru marwolaeth. Rydym yn derbyn taliad drwy arian parod, siec neu gerdyn debyd/credyd.

Lle i gofrestru marwolaeth

Mae angen cofrestru marwolaeth yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth. Os bu farw'r person mewn ysbyty neu gartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd angen i chi gofrestru’r farwolaeth yn un o’r lleoliadau canlynol:

Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Llun - Dydd Gwener
9.30am - 4pm

Apwyntiad yn unig. Cysylltwch â’r swyddfa gofrestru i wneud apwyntiad.

Cyswllt

Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642392/93/94
Cyfeiriad: Ty'r Ardd, Sunnyside, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AR.

Dywedwch Wrthym Unwaith

Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wasanaeth am ddim a gynigir gan y Llywodraeth EM.

Pan fydd rhywun wedi marw, mae llawer o bethau y mae angen eu gwneud, ar adeg pan mae'n debyg  na fyddwch yn teimlo fel eu gwneud.

Mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn wirfoddol i'w ddefnyddio ac yn ddefnyddiol iawn. Mae'n eich galluogi i roi gwybod am farwolaeth unwaith yn unig, gan ddweud wrth wasanaethau llywodraeth ganolog a lleol yn ddiogel ac yn gyfrinachol heb orfod rhoi gwybod iddynt yn unigol.

Gellir rhoi gwybod i lawer o wasanaethau ac mae'r rhain yn cynnwy:

  • y cyngor lleol - i ddiweddaru gwasanaethau fel Tai Cyngor, Budd-dal Tai, Treth Cyngor, Bathodyn Glas a dileu manylio y person o'r Gofrestr Etholiadol
  • Cyllid a Thollau EM (CThEM) - i ddelio â threth bersonol ac i ddiweddaru ceisiadau Budd-dal Plant a Chredydau Treth (cysylltwch â CThEM ar wahân ar gyfer trethi busnes, fel TAW
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) - i ddiweddaru gwybodaeth am fudd-daliadau, er enghraifft: Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Cynhwysol
  • Y Swyddfa Basbort - i ganslo pasbort Prydeinig
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - i ganslo trwydded yrru ac i ddileu manylion y ceidwad cofrestredig, o bosibl ar gyfer hyd at bum cerbyd
  • Cynlluniau Pensiwn y Sector Cyhoeddus neu'r Lluoedd Arfog - i ddiweddaru cofnodion pensiwn

Sut wyf yn defnyddio’r gwasanaeth?

Ar ôl i chi gofrestru'r farwolaeth gyda'r Cofrestrydd, os cynigir y gwasanaeth wyneb yn wyneb, byddant yn cwblhau'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith gyda chi yr un pryd.

Fel arall, bydd y Cofrestrydd yn rhoi cyfeirnod unigryw Dywedwch Wrthym Unwaith i chi, a fydd yn eich galluogi i gael mynediad i'r gwasanaeth Ar-lein.

Os ydych wedi cael Ffaith o Farwolaeth gan Grwner (Tystysgrif Farwolaeth Dros Dro), efallai y gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth o hyd a bydd y Cofrestrydd yn eich cynghori ar sut i wneud hynny.

Bydd yn eich helpu i gael yr holl wybodaeth berthnasol a restrir isod am y person cyn defnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith:

  • dyddiad geni
  • cyfeiriad yr ymadawedig
  • rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif trwydded yrru
  • rhif cofrestru cerbyd
  • rhif pasbort

Bydd hefyd angen arnoch:

  • manylion unrhyw fudd-daliadau neu hawliau roeddent yn eu cael, er enghraifft Pensiwn y Wladwriaeth, Credyd Cynhwysol
  • manylion unrhyw wasanaethau cyngor lleol roeddent yn eu cael, er enghraifft, Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Bathodyn Glas, tocyn teithio
  • enw a chyfeiriad eu perthynas agosaf
  • enw a chyfeiriad unrhyw briod neu bartner sifil sy'n goroesi
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y person neu'r cwmni sy'n delio â'u hystâd (eiddo, ac arian), a elwir yn ‘ysgutor’ neu ‘gweinyddwr’
  • manylion unrhyw gynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus neu'r lluoedd arfog roeddent yn eu cael neu'n talu i mewn iddynt

Gwybodaeth Bwysig

- Mae angen caniatâd gan y perthynas agosaf, yr ysgutor, y gweinyddwr ac unrhyw un a oedd yn hawlio budd-daliadau neu hawliau ar y cyd â'r person a fu farw, cyn i chi roi eu manylion.

- Nid oes angen cyswllt dilynol ar ôl i chi ddefnyddio Dywedwch Wrthym Unwaith, oni bai na fyddwch yn cael cadarnhad gan yr adran berthnasol ar ôl cyfnod rhesymol o amser, yn y rhan fwyaf o achosion fis calendr.

- Unwaith y bydd yr asiantaethau amrywiol a hysbyswyd gan Ddywedwch Wrthym Unwaith wedi derbyn gwybodaeth o'r farwolaeth, byddant yn cysylltu ymhellach â'r teulu mewn profedigaeth os oes angen.

- Nid yw Dywedwch Wrthym Unwaith yn gais am fudd-dal, felly cysylltwch â GOV.UK/cymraeg neu'r adran berthnasol am gyngor.

- Nid yw Dywedwch Wrthym Unwaith yn hysbysu unrhyw sefydliadau masnachol o'r farwolaeth ac ni all drefnu i ailgyfeirio post.

Chwilio A i Y