Ailddatblygiad Pafiliwn y Grand Porthcawl
Yn dilyn cais llwyddiannus gan yr awdurdod lleol, dyfarnwyd £18m o Gyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU i Bafiliwn y Grand Porthcawl.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella ac ailddatblygu’r adeilad rhestredig Gradd II, yn cynnwys mynd i’r afael â chyflwr ei strwythur concrid, gan amddiffyn ei dreftadaeth unigryw yn ogystal â bodloni anghenion a dyheadau’r gymuned o ran ehangu a gwella gwasanaethau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth.
Newyddion diweddaraf
Pennod newydd a chyffrous yn hanes y Pafiliwn Mawr
26/01/2024
Wrth i’r llenni ostwng ar ôl perfformiad olaf Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr o We Will Rock You ddydd Sul 4 Chwefror, bydd pennod newydd sbon yn dechrau yn hanes cyfoethog y Pafiliwn Mawr sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 92 eleni.