Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adfywio

Mae tîm Prosiectau Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o'r grŵp Adfywio Strategol, ynghyd â'r timau Cadwraeth a Dylunio ac Ariannu Adfywio ac Ymgysylltu Rhanbarthol.

Mae gan y tîm Prosiectau Adfywio gyfoeth o brofiad o gyflawni prosiectau adfywio uchelgeisiol a chymhleth ledled y fwrdeistref sirol, yn unol â blaenoriaethau Llywodraethau lleol, Cymru a'r DU. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu rhaglen adfywio rhanbarthol hirdymor sy’n gweithio fel un o 10 awdurdod lleol de-ddwyrain Cymru, ac mae’n ymwneud â’r gwaith hwnnw.

Mae’r Tîm yn mabwysiadu agwedd gynhwysfawr at gynllunio, dylunio a rheoli prosiectau, gan fanteisio ar asedau lleol, gwella mannau cyhoeddus, gwella eiddo masnachol a phreswyl a chyflwyno ymyriadau seilwaith gwyrdd yn unol â pholisïau ac arferion creu lleoedd. Mae hyn yn gofyn am lefel uchel o integreiddio rhwng fframweithiau polisi trawsbynciol a chyrff gwneud penderfyniadau, i sicrhau bod canlyniadau prosiect effaith uchel yn cael eu cyflawni.

Mae'r Tîm hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod canol ein trefi’n cael eu rheoli’n llwyddiannus. Y tri phrif canol tref yn y fwrdeistref sirol yw Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg ac mae’r tîm wedi bod yn ymwneud â dylunio a gweithredu ystod o raglenni adfywio a gefnogir gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf gyda’r nod o wella canol ein trefi. Bydd rhaglen tair blynedd newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer Trawsnewid Trefi 2022-2025 yn parhau â’r ffocws hwn. 

Mae rhai enghreifftiau eraill o brosiectau a mentrau diweddar a gyflawnwyd gan y tîm Prosiectau Adfywio ar draws y fwrdeistref sirol yn cynnwys:  

  • Uwchgynllun Adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr
  • Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg
  • Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl
  • Cronfa Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd
  • Cronfa Adfer yr Awyr Agored Covid-19 Cyngor Bwrdesitref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Canolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay

Pen-y-Bont ar Ogwr

Mae Uwchgynllun Adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr (2021) yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer lle cyfannedd a bywiog.

Porthcawl

Mae Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl (2022) yn darparu fframwaith i arwain datblygiad defnydd cymysg o ansawdd uchel ar draws Ardal Adfywio Glannau Porthcawl.

Maesteg

Wedi’i hadeiladu ym 1881, Neuadd y Dref Maesteg yw calon gymdeithasol cymuned Maesteg ac mae’n adeilad o bwysigrwydd pensaernïol yn ogystal.

GPG Porthcawl

Ar y 20fed o Orffennaf 2021, rhoddodd Cabinet y Cyngor gymeradwyaeth ffurfiol i wneud, hysbysebu, hysbysu a chynnydd â chadarnhad o Orchymyn Prynu Gorfodol i gaffael tir i gefnogi Cynllun Adfywio Glannau Porthcawl.

Grantiau Adfywio Strategol

Mae ein grantiau presennol yn cefnogi gwelliannau i eiddo masnachol a fydd yn adfywio ac yn gwella canol trefi (Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg) a chanolfannau’r ardal a’r canolfannau gwasanaethau lleol yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, cysylltwch â ni drwy e-bostio: regeneration@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y