Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Pennod newydd a chyffrous yn hanes y Pafiliwn Mawr

Wrth i’r llenni ostwng ar ôl perfformiad olaf Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr o We Will Rock You ddydd Sul 4 Chwefror, bydd pennod newydd sbon yn dechrau yn hanes cyfoethog y Pafiliwn Mawr sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 92 eleni.

O 5 Chwefror 2024, bydd yr adeilad Gradd II ar gau i’r cyhoedd fel y gellir paratoi ar gyfer ei ailddatblygu. Mae’r gwaith ailddatblygu hwn yn bosibl yn sgil cais llwyddiannus a gyflwynwyd i raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Bydd y gwaith ailddatblygu’n diogelu’r theatr boblogaidd hon am genedlaethau i ddod a bydd yn helpu i gynnig profiad llawer mwy cynhwysol a phleserus i gynulleidfaoedd ac artistiaid fel ei gilydd, gan gadarnhau bod y Pafiliwn Mawr yn rhywle lle gall pobl o bob oed gysylltu ac ymgysylltu â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth.

Ar ôl i’r adeilad gau, bydd cyfnod datgomisiynu’n cael ei roi ar waith a bydd y cyfarpar, y dodrefn, y gosodiadau a’r ffitiadau’n cael eu symud ymaith. Yna, bydd nenfydau nad ydynt yn hollbwysig i adeiladwaith yr adeilad yn cael eu tynnu, yn ogystal â’r plastrfyrddau a’r deunyddiau eraill y tu ôl i’r llenni, cyn i’r prif gontract ddechrau ar y safle yn ddiweddarach yn 2024.

Bydd mis Chwefror 2024 yn garreg filltir bwysig yn hanes maith yr adeilad eiconig hwn.

Rydym wrth ein bodd ein bod bellach yn gallu rhoi’r cynlluniau datblygu uchelgeisiol hyn ar waith.

Er y bydd y gwaith yn golygu na ellir defnyddio’r adeilad am sbel, rydym ar dân eisiau gweld y lleoliad celfyddydol poblogaidd hwn yn cael ei drawsnewid yn fan diwylliannol, modern y gall trigolion ac ymwelwyr Porthcawl ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.

Cynghorydd Rhys Goode, Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio

Bydd Awen yn parhau i ddiddanu cynulleidfaoedd yn ystod y gwaith ailddatblygu gyda rhaglen o ddigwyddiadau mewn ‘Pafiliwn dros dro’ yng Nghanolfan Gymunedol Awel-y-Môr, Porthcawl, a hefyd mewn mannau eraill yn y gymuned. Bydd y digwyddiadau misol hyn yn cynnwys jazz, nosweithiau comedi, dawnsfeydd amser te, sinema, theatr amser cinio a sioeau i deuluoedd.

Ewch i https://awenboxoffice.com/?lang=cy neu dilynwch y Pafiliwn Mawr ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.

Chwilio A i Y