Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwaith adeiladu Pafiliwn y Grand Porthcawl ar fin mynd allan i dendr

Mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno i waith adeiladu Pafiliwn y Grand Porthcawl fynd allan i dendr ar ôl cwblhau’r broses ddylunio.

Bydd y prosiect yn gwella cyflwr yr adeilad rhestredig Gradd II drwy fynd i’r afael â chanser concrid a chreu ystafelloedd digwyddiadau, swyddfeydd a chyfleusterau caffi newydd. Bydd gwelliannau mawr eu hangen hefyd yn cael eu gwneud i’r awditoriwm, ac mae cynlluniau hefyd yn cynnwys cyfleuster “mannau newid” hygyrch.

Yn gynharach eleni, dyfarnwyd £18m o Gyllid Ffyniant Bro i’r Cyngor gan Lywodraeth y DU, ar ôl i'r cyngor gyflwyno cais llwyddiannus, mewn partneriaeth agos ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

Mae’r gwaith dylunio wedi symud ymlaen at gam uwch, ac mae’r prosiect yn gweithio tuag at “oedi dylunio” ym mis Rhagfyr er mwyn gwerthuso’r gwaith hyd yn hyn. Mae cynghorydd costau hefyd wedi cael ei benodi’n ddiweddar i gefnogi’r broses gaffael ac i weithio ochr yn ochr â’r tîm dylunio.

Bydd y broses dendro bellach yn pennu cost a rhaglen y gwaith, a fydd yn llywio penderfyniad y Cabinet i gyflwyno unrhyw gontract. Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet a’r Cyngor i nodi goblygiadau ariannol y gwaith ailddatblygu.

“Mae’n galonogol gweld bod cynlluniau i ailddatblygu Pafiliwn eiconig y Grand ym Mhorthcawl yn parhau i ddatblygu. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu’r adeilad am genedlaethau i ddod, ac yn helpu i gyflwyno’r cyfleusterau gorau posibl i’n cymuned leol.

Mae caffael yn rhan hanfodol o brosiect ar y raddfa hon, ac mae’n bwysig ein bod yn cymryd gofal yn ystod y broses fanwl hon er mwyn sicrhau ‘gwerth am arian’ cyn cyflwyno unrhyw gontract.

Oherwydd yr amserlenni tynn a nodwyd yn y dyfarniad grant ac oedi gweinyddol gan Lywodraeth y DU, rydym hefyd wedi cael sgyrsiau rhagweithiol gyda thîm Monitro’r Gronfa Ffyniant Bro er mwyn dod at gytundeb anffurfiol i ehangu cyllid a darpariaeth y prosiect at fis Mawrth 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Goode, yr Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio:

Chwilio A i Y