Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl (2022)

Mae Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl (2022) yn darparu fframwaith i arwain datblygiad defnydd cymysg o ansawdd uchel ar draws Ardal Adfywio Glannau Porthcawl. Mae Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl yn adeiladu ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) a’r dyraniad Cynllun Datblygu Lleol Newydd arfaethedig ar gyfer Ardal Adfywio Glannau Porthcawl.

Lluniwyd y Strategaeth Creu Lleoedd er mwyn sicrhau bod datblygiad Ardal Adfywio Glannau Porthcawl yn y dyfodol yn cyd-fynd â dyheadau’r Cyngor i gyflawni datblygiad o’r ansawdd uchaf ac yn ymateb i anghenion eang y gymuned bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.

Porthcawl

Ymgynghoriad

Roedd paratoi’r Strategaeth Creu Lleoedd a’r ymgynghoriad cysylltiedig yn gyfle i aelodau’r cyhoedd ddeall a dylanwadu ar y fframwaith a’r egwyddorion arweiniol ar gyfer datblygu o fewn Ardal Adfywio Glannau Porthcawl.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Creu Lleoedd dros gyfnod o dair wythnos rhwng 24 Tachwedd 2021 a 17 Rhagfyr 2021.  Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys arddangosfa gyhoeddus ddeuddydd ym Mhafiliwn Porthcawl a fynychwyd gan dros 1,000 o aelodau'r cyhoedd. Dilynwyd yr arddangosfa hon gan arddangos y deunydd ymgynghori ar hysbysfwrdd safle Cosy Corner am 3 wythnos a'i roi ar-lein ar wefan y Cyngor.

Amlinellwyd canlyniad y broses ymgynghori cyhoeddus yn llawn yn yr adroddiad ymgynghori a gynhwyswyd fel rhan o adroddiad 8 Mawrth 2022 i’r Cabinet a arweiniodd at gymeradwyo’r Strategaeth Creu Lleoedd.      

Mewn ymateb i’r meysydd pryder a nodwyd drwy’r ymgynghoriad, gwnaed y diwygiadau craidd a ganlyn i’r cymysgedd dangosol a dosbarthiad y defnyddiau a nodwyd yn Ardal Adfywio Glannau Porthcawl:

  • Creu parc unionlin tua 200m o hyd a 70m o led ar hyd glan môr Salt Lake.
  • Ardal ehangach o fannau agored ger yr estyniad i gerddwyr i Dock Street a'r piazza cyfagos.
  • Gostyngiad o tua thraean yn arwynebedd y tir yn ardal Salt Lake a glustnodwyd ar gyfer tai.

Cyflwynodd y diwygiadau a grybwyllwyd uchod i’r fframwaith ar gyfer datblygu a amlinellwyd yn y fersiwn gymeradwy o’r Strategaeth Creu Lleoedd newidiadau sylweddol i ffurf y datblygiad a gynigiwyd yn flaenorol ar draws Ardal Adfywio Glannau Porthcawl yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys cyflwyno mannau agored ychwanegol y gellir eu defnyddio'n hyblyg gan y gymuned.

Yn ogystal â’r diwygiadau hyn mae’r Strategaeth Creu Lleoedd yn cynnwys cynigion ar gyfer ffordd fynediad newydd i Sandy Bay ynghyd â llwybrau teithio llesol integredig ac estyniad sylweddol i Barc Griffin a fyddai’n cysylltu drwodd i’r twyni creiriol a Thraeth Sandy Bay. Mae darparu’r seilwaith mynediad a mannau agored gwell hwn yn dibynnu ar y neilltuad arfaethedig gan fod angen i’r tir gael ei freinio at ddibenion cynllunio er mwyn cyflawni’r gwaith priffyrdd a’r datblygiad cysylltiedig.

Cyfleoedd ar gyfer Datblygu yn y Dyfodol

Yn ogystal â darparu fframwaith cyffredinol ar gyfer datblygu o fewn Ardal Adfywio Glannau Porthcawl mae'r Strategaeth Creu Lleoedd yn nodi cyfres o feysydd / cyfleoedd datblygu allweddol gan gynnwys y canlynol:

  • Parc Llinellol Promenâd y Dwyrain: Cyfle i symud ceir oddi ar bromenâd y dwyrain a darparu parc llinellol tua 200m
  • De Salt Lake: Cyfle ar gyfer datblygiad hamdden a mannau cyhoeddus newydd
  • Canol Salt Lake: Cyfle i ddarparu cartrefi newydd, pocedi o ddatblygiadau masnachol a mannau cyhoeddus.
  • Gogledd Salt Lake: Cyfle ar gyfer siop manwerthu bwyd newydd a datblygiad preswyl i'r dwyrain
  • Hillsboro: Cyfle i ddarparu maes parcio aml-lawr ar Hillsboro North, creu ardal newydd o ofod cymunedol hyblyg ar Hillsboro South ac estyniad i Dock Street i gerddwyr yn unig.
  • Gorllewin Sandy Bay: Cyfle i ymestyn Parc Griffin tua’r dwyrain a chyflawni datblygiad newydd ar dir yn Coney Beach, gan gynnwys ffryntiad gweithredol ar y llawr gwaelod yn wynebu’r môr, llwybr hamdden newydd, amddiffynfeydd môr gwell a datblygiad preswyl.
  • Dwyrain Sandy Bay: Cyfle i ddarparu cartrefi newydd yn ogystal â mannau agored cyhoeddus, llwybrau teithio llesol, estyniadau i Ysgol Gynradd Newton ac ysgol newydd.

Y Camau Nesaf

Yn dilyn cymeradwyo’r Strategaeth Creu Lleoedd gan Gabinet CBS Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2022, mae’r Cyngor wedi parhau i fwrw ymlaen â Gorchymyn Prynu Gorfodol Porthcawl a’r cynnig i neilltuo tir ym Mharc Griffin a Sandy Bay gan fod y rhain yn gamau rhagflaenol pwysig i ganiatáu datblygiadau ar draws Coney Beach a rhannau Sandy Bay o Ardal Adfywio Glannau Porthcawl.  Yn ogystal, ac fel yr amlinellwyd yn adroddiad cabinet mis Mawrth 2022, mae gwaith pellach yn cael ei wneud mewn cysylltiad â dod â chyfleoedd datblygu unigol ymlaen a bydd ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal mewn cysylltiad â’r prosiectau hyn ar yr adeg briodolYn ddiweddar, mae’r dyluniad cysyniad mannau agored wedi cael ei baratoi yn ddilyn dyweddiad agos gyda rhanddeiliad allweddol ac ymgumhoriad cyhoeddus eang

Dyluniad Cysyniad Mannau Agored

Roedd y Dyluniad Cysyniad Mannau Agored yn nodi uchelgeisiau’r Cyngor ar gyfer sut y gellid defnyddio mannau agored cyhoeddus yn Ardal Glannau Porthcawl, a pha gyfleusterau cymunedol newydd y bydd yn ceisio eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf fel rhan o adfywiad cyfredol y dref. Mae’r dyluniadau cysyniad yn adlewyrchu nodau ac amcanion Strategaeth Creu Lleoedd y cyngor ar gyfer Porthcawl yn ogystal â chipio gweledigaeth gyfrannol sydd wedi’i llywio gan ymgynghoriad cyhoeddus eang. Er bod y cynigion yn enghreifftiol ac yn dibynnu ar argaeledd ffynonellau cyllid yn y dyfodol, maent yn adlewyrchu uchelgeisiau hirdymor y cyngor ar gyfer Porthcawl a’r awydd i weithio’n agos ochr yn ochr â phobl leol wrth i’r cynlluniau adfywio symud ymlaen.

Cyswllt

Tîm Adfywio CBSP
Cyfeiriad: Civic Offices, Angel Street, CF31 4WB.

Chwilio A i Y