Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Uwchgynllun Adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Uwchgynllun Adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr (2021) yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer lle cyfannedd a bywiog.

Mae’r weledigaeth yn cyfuno menter, cyflogaeth, addysg, byw yn y dref, siopa, diwylliant, twristiaeth a llesiant mewn lleoliad hanesyddol.

Mae’r cynllun yn nodi cyfres o brosiectau sy’n uchelgeisiol ac y gellir eu cyflawni. I wireddu’r weledigaeth ar y cyfan ac adfywio Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr dros y deng mlynedd nesaf, mae pedair thema eang wedi cael eu hadnabod:

  • Twf
  • Cydnerthedd
  • Llesiant
  • Hunaniaeth
  • Parthau datblygu

Parthau datblygu

Mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau, sy’n sail i wyth parth datblygu, y mae 23 o brosiectau perthnasol wedi cael eu hadnabod ynddynt, a nifer o brosiectau safle cyfan hefyd.

Mae’r parthau datblygu’n cynnwys:

  1. Ardal yr Orsaf Reilffordd
  2. Bracla, Nolton a Hen Gastell
  3. Y Craidd Manwerthu
  4. Ardal Caffis a Diwylliannol
  5. Y Porth Gogleddol
  6. Glan yr Afon
  7. Castellnewydd
  8. Sunnyside

 

Mae prosiectau allweddol yn yr uwchgynllun yn cynnwys:

  • Mynedfa newydd i’r orsaf reilffordd o Heol Tremaen a Lôn Llynfi
  • Cyswllt teithio llesol o’r orsaf reilffordd i Stryd Bracla
  • Gwelliannau i’r Porth Gogleddol – i greu porth eglur a deniadol i ganol y dref.
  • Adleoli Coleg Pen-y-bont i ganol y dref
  • Creu hyb diwylliannol fel man cynnal digwyddiadau dan do
  • Sgwâr y dref newydd
  • Mwy o fyw yn y dref
  • Mynediad gwell at ganol y dref
  • Cryfhau’r craidd manwerthu
  • Gwelliannau o fewn ac ar hyd Afon Ogwr

Dogfen gynllunio hirdymor ddeinamig sy’n cynnig cynllun damcaniaethol i roi arweiniad ar gyfer adfywio a thwf yn y dyfodol ac sy’n creu’r cysylltiad rhwng adeiladau, lleoliadau cymdeithasol a’r amgylcheddau o’u cwmpas yw uwchgynllun.

Mae uwchgynllun yn cynnwys dadansoddiad, argymhellion a chynigion ar gyfer y boblogaeth, yr economi, tai, trafnidiaeth, cyfleusterau cymunedol a defnydd tir ar safle. Mae’n seiliedig ar fewnbwn gan y cyhoedd, arolygon, mentrau cynllunio, datblygiadau presennol, nodweddion ffisegol ac amodau cymdeithasol ac economaidd.

Mae’r uwchgynllun ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi gweledigaeth ar gyfer cymuned gyfannedd a bywiog. Mae’n nodi cyfres o brosiectau sy’n uchelgeisiol ac y gellir eu cyflawni ar gyfer y 10 mlynedd nesaf a fydd yn cefnogi twf economaidd yn y dyfodol ac yn sicrhau mwy o fanteision a chyfleoedd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd yr uwchgynllun yn cael ei ddefnyddio fel offeryn cynllunio i wella canol y dref a bydd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau cyllid yn y dyfodol i gyflawni prosiectau a adnabuwyd.

Dull cynhwysfawr o gynllunio, dylunio a rheoli mannau cyhoeddus yw creu lleoedd. Mae’n manteisio ar asedau, ysbrydoliaeth a photensial lleol, gyda’r bwriad o greu mannau cyhoeddus sy’n hybu iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl.

Datblygwyd Siarter Creu Lleoedd Cymru gan Lywodraeth Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Mae’r siarter yn adeiladu ar y ffocws cryfach ar Greu Lleoedd mewn polisi ac arfer yng Nghymru a’i nod yw darparu dealltwriaeth gyffredin am yr ystod o ystyriaethau sy’n rhan o greu lleoedd.

Ceir rhagor o wybodaeth am Siarter Creu Lleoedd Cymru yma: http://cy.dcfw.org/creu-lleoedd/siarter-creu-lleoedd/

Mae’n bwysig cofio gyda’r Uwchgynllun mai union hynny ydyw, sef cynllun sy’n cynnig man cychwyn ar gyfer y broses benderfynu a fydd yn dilyn. Ni fydd unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud heb ymgysylltu’n llawn a bydd ymgynghoriad helaeth yn cael ei gynnal gyda pherchnogion eiddo a busnesau. Mae nifer o adeiladau gwag yng nghanol y dref a allai gael eu defnyddio i adleoli unrhyw fusnesau sydd mewn eiddo sy’n rhan o gynnig ar gyfer ailddatblygu neu ddymchwel.

Bydd y prosiectau adfywio a nodir yn Uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu rhoi ar waith mewn camau amrywiol dros y 10 mlynedd nesaf. Er mwyn defnyddio dull wedi’i gynllunio ar gyfer eu cyflawni, mae cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu i roi cymorth i lunio llinell amser ar gyfer prosiectau, gan flaenoriaethu a chynllunio prosiectau ac, ar ben hynny, adnabod pa adnoddau neu fewnbynnau y mae eu hangen i gyflawni prosiectau unigol.

 

Bydd cyflawni’r uwchgynllun yn llwyddiannus yn ddibynnol ar ddull partneriaeth weithredol rhwng rhanddeiliaid allweddol o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Bydd dull strategol o gyflawni prosiectau’n cael ei ddefnyddio, gyda CBSP yn gweithredu fel hwylusydd allweddol i ddod â galluogwyr prosiectau allweddol ynghyd i gyflawni prosiectau sy’n rhan o’r weledigaeth ar y cyfan ar gyfer adfywio canol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Bydd ceisiadau am gyllid yn cael eu cyflwyno i nifer o gyrff cyllido i gyflawni prosiectau, y mae rhai ohonynt yn cynnwys:

  • Llywodraeth y DU
  • Llywodraeth Cymru
  • Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Buddsoddiadau Preifat
  • Ac amryw gyllidwyr eraill

Cafodd Uwchgynllun blaenorol Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ei fabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yn 2011. Roedd wedi’i seilio ar adfywio seiliedig-ar-fanwerthu a gweledigaeth drosfwaol ar gyfer y cyfnod hyd at 2020.

Y weledigaeth ar y cyfan oedd ‘sicrhau bod canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ehangu ei arlwy fanwerthu ac yn cyflawni potensial y dref fel tref farchnad ffyniannus, fywiog a hygyrch’.

Mae’r uwchgynllun newydd ar gyfer canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn un â ffocws ar adfywio. Mae’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer cymuned gyfannedd a bywiog. Mae’n nodi cyfres o brosiectau sy’n uchelgeisiol ac y gellir eu cyflawni ar gyfer y deng mlynedd nesaf a fydd yn cefnogi twf economaidd yn y dyfodol ac yn sicrhau mwy o fanteision a chyfleoedd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ystyr Gorchymyn Prynu Gorfodol yw pan fo gan y Llywodraeth, Cynghorau neu Gwmnïau Cyfleustodau dan rai amgylchiadau Hawl Statudol i brynu eiddo neu gymryd hawl drosto. Er mwyn arfer hawliau o’r fath rhaid i’r corff fodloni meini prawf penodedig a nodir mewn statud, yn arbennig rhaid o’r awdurdod brofi bod prynu’r eiddo’n rhywbeth sydd er lles y cyhoedd.

Cynhyrchwyd uwchgynllun canol tref Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer rheoli datblygu yng nghanol y dref dros y 10 mlynedd nesaf. Gweledigaeth sy’n seiliedig ar ddyhead ydyw ac mae yn y cam ymgynghori. Pan fydd y cam cynllunio prosiectau’n dechrau, dyma pryd y gallai Gorchymyn Prynu Gorfodol gael ei gynnal o bosibl er mwyn mynd â phrosiectau i’r cam datblygu.

Cyswllt

Tîm Adfywio CBSP
Cyfeiriad: Civic Offices, Angel Street, CF31 4WB.

Chwilio A i Y