Grantiau Adfywio Strategol
Mae ein grantiau presennol yn cefnogi gwelliannau i eiddo masnachol a fydd yn adfywio ac yn gwella canol trefi (Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Maesteg) a chanolfannau’r ardal a’r canolfannau gwasanaethau lleol yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr.
Mae'r grantiau hyn yn cynnwys:
Pwrpas y gronfa:
Troi gofod llawr gwag ar y lloriau uchaf yn llety preswyl newydd. Isafswm y gofyniad ar gyfer pob cynllun yw 1 fflat hunangynhwysol gydag 1 ystafell wely.
Disgwylir i’r cynlluniau fod yn gymysgedd o unedau un a dwy ystafell wely gyda'r maint yn cael ei bennu gan y cynllun caniatâd adeiladu a chynllunio.
Dylai’r cynlluniau gydymffurfio â'r isafswm o arwynebedd llawr fel yr argymhellwyd yn y Safon Ansawdd Tai Cymru diweddaraf, sef: -
- 46m² i bob fflat un ystafell wely
- 59m² i bob fflat dwy ystafell wely
Nid yw llety myfyrwyr, fflatiau a stiwdios yn gymwys i gael cyllid grant.
Ardaloedd a gynhwysir:
Canol Trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl
Cyfradd y Grant:
Hyd at 70% mewn amgylchiadau eithriadol
Nodiadau Cyfarwyddyd – Rhaglen Trawsnewid Trefi
Mynegiant o Ddiddordeb - Rhaglen Trawsnewid Trefi
Cysylltwch â Regeneration@bridgend.gov.uk i ofyn am ffurflen gais lawn
Pwrpas y gronfa:
Mae'r Grant Gwella Eiddo ar gael i feddianwyr a pherchnogion adeiladau masnachol yng nghanol trefi. Ei bwrpas yw gwella tu blaen adeiladau ynghyd ag uwchraddio gofod llawr masnachol gwag i'w adfer i ddefnydd busnes buddiol
Ardaloedd a gynhwysir:
Canol Trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl
Cyfradd y Grant:
Hyd at 70% mewn amgylchiadau eithriadol
Nodiadau Cyfarwyddyd – Rhaglen Trawsnewid Trefi
Cysylltwch â Regeneration@bridgend.gov.uk i ofyn am ffurflen gais lawn.
Pwrpas y gronfa:
Darparu seddi awyr agored, blychau plannu, gorchuddion, ardaloedd gweini a chanopïau adeiladau.
Ardaloedd a gynhwysir:
Canol Trefi Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg a Phorthcawl
Cyfradd y Grant:
Hyd at 50% mewn amgylchiadau eithriadol
Nodiadau Cyfarwyddyd – Cymorth Masnachu Allanol Canol Trefi
Ffurflen Gais - Cymorth Masnachu Allanol Canol Trefi.
Cysylltwch â Regeneration@bridgend.gov.uk i ofyn am ffurflen gais lawn.
Pwrpas y gronfa:
Cynnig cyfle i ymgeiswyr gynnal arolygon cyflwr adeiladu/asesiadau pensaernïol a dyluniadau cysyniad er mwyn symud ymlaen i ailddatblygu eiddo masnachol gwag.
Ardaloedd a gynhwysir:
Canolfannau Ardaloedd a chanolfannau Gwasanaeth Lleol yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr (ac eithrio Canol Tref Maesteg. Gweler y Grantiau Trawsnewid Trefi sydd ar gael ym Maesteg).
Cyfradd y Grant:
Bydd y grant yn 100% o'r costau cymwys rhesymol:
- hyd at £2,000 ar gyfer Arolygon Cyflwr (yn dibynnu ar faint yr eiddo)
- hyd at £3,000 ar gyfer Asesiadau Pensaernïol a Dyluniadau Cysyniad.
Bydd hyn yn amodol ar adolygiad parhaus.
Nodiadau Cyfarwyddyd – Grantiau Arolygu Eiddo Gwag Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr
Ffurflen Gais - Grantiau Arolygu Eiddo Gwag Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr
Cysylltwch â Regeneration@bridgend.gov.uk am fwy o wybodaeth.
Pwrpas y gronfa:
Mae dwy elfen i hyn:
- Gwella tu blaen adeiladau a dod â gofod llawr masnachol gwag yn ôl i ddefnydd buddiol, trwy gefnogi gwelliannau i du blaen eiddo masnachol, ynghyd â gwaith allanol a mewnol arall.
- Troi gofod llawr uchaf gwag yn llety preswyl newydd uwchben unedau masnachol, gan gynnwys gwaith mewnol ac allanol i ddod â lle gwag yn ôl i ddefnydd at ddibenion preswyl.
Ardaloedd a gynhwysir:
Canolfannau Ardal a chanolfannau Gwasanaeth Lleol yng nghymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr (ac eithrio Canol Tref Maesteg. Gweler y Grantiau Trawsnewid Trefi sydd ar gael ym Maesteg).
Cyfradd y Grant:
Bydd y grant yn uchafswm o 80% o'r costau cymwys rhesymol, hyd at uchafswm grant o:
- £30,000 ar gyfer eiddo sydd â phobl yn byw ynddo
- £49,999 ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na 6 mis
Bydd hyn yn amodol ar adolygiad parhaus.
Nodiadau Cyfarwyddyd – Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr
Mynegiant o Ddiddordeb - Grant Gwella Eiddo Creu Lleoedd Cymoedd Pen-y-bont ar Ogwr
Cysylltwch â Regeneration@bridgend.gov.uk i ofyn am ffurflen gais lawn.