Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg

Gan arwain ar ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Knox and Wells Ltd, Purcell Architects a Mace Ltd i gyflawni un o’r buddsoddiadau mwyaf ym Maesteg ers degawdau.

Wedi’i hadeiladu ym 1881, Neuadd y Dref Maesteg yw calon gymdeithasol cymuned Maesteg ac mae’n adeilad o bwysigrwydd pensaernïol yn ogystal – sy’n adrodd hanesion gafaelgar am hanes gweithredol a diwylliannol ei dyffryn, ac am dde Cymru ddiwydiannol yn fwy cyffredinol. Fodd bynnag, roedd angen gwelliannau sylweddol er mwyn diogelu'r adeilad hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd y gwaith ailddatblygu yn gweld yr adeilad rhestredig Gradd II yn cael ei adfer yn ôl i'w ogoniant blaenorol a'i ymestyn ar un ochr (Talbot Street) gydag atriwm gwydr newydd, theatr stiwdio a gofod sinema, caffi a bar mesanîn, ynghyd â llyfrgell fodern. Bydd yn cael ei drawsnewid yn adeilad cynaliadwy a hygyrch; yn gymdeithasol, yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gorfforol.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar y prosiect ailddatblygu hwn sydd werth tua £8 miliwn, gyda thîm y prosiect yn sicrhau bod yr adeilad rhestredig Gradd II yn cadw ei nodweddion gwreiddiol yn ogystal ag ychwanegu rhai gwelliannau modern y rhoddwyd ystyriaeth lawn iddynt.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan yr awdurdod lleol, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, Cyngor Tref Maesteg, Sefydliad Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth Davies.

Gallwch ddilyn hynt yr ailddatblygu ar wefan Neuadd y Dref Maesteg neu ar eu tudalen Facebook.

Cyswllt

Tîm Adfywio CBSP
Cyfeiriad: Civic Offices, Angel Street, CF31 4WB.

Chwilio A i Y