Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Addysg awyr agored

Mae addysg amgylcheddol yn allweddol i wella mynediad i ofod gwyrdd gwledig.

Cynlluniau gwersi

Mae’r cynlluniau gwersi yma’n ddelfrydol ar gyfer tripiau ysgol, dysgu yn ardal natur ysgol, neu ar gyfer astudio yn yr ardd gefn hyd yn oed.

Tripiau addysgol i Warchodfa Natur Cynffig

Gyda’r pecyn yma, gall tiwtoriaid gynnal gweithgareddau addysgol cyfoethog yng ngwarchodfa natur Cynffig heb warden. Mae pecyn gweithgarwch cysylltiedig i deuluoedd hefyd.

Mae’r pecyn athrawon yn cynnwys cynlluniau gwersi sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Mae am ddim ar gyfer athrawon a theuluoedd.

Mae gan Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig (GNG Cynffig) gyfleoedd da ar gyfer amrywiaeth o astudiaethau maes bioleg ar bob lefel. Gerllaw’r warchodfa mae maes parcio mawr. Mae gan Ganolfan y Warchodfa ystafell ddosbarth astudiaeth maes ac offer y gellir ei logi drwy gysylltu â Rheolwr y Warchodfa.

Cyswllt

Rheolwr Gwarchodfa Cynffig
Rhif Ffôn: 01656 743386.

Mae’r warchodfa yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae’n cael ei rheoli’n weithredol i gynnal y gwahanol gynefinoedd ynddi, fel:

  • glan y môr
  • traethlin greigiog a thywodlyd
  • y llyn dŵr croyw mwyaf yn Ne Cymru
  • twyni tywod o bwysigrwydd cenedlaethol
  • glaswelltir twyni
  • llaciau
  • prysgwydd
  • coetir
  • gwlybdir
  • dŵr agored

Mae blog Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig yn fan cychwyn defnyddiol cyn ymweld. Mae’n cynnwys map, nodiadau ar y cynefinoedd a hefyd rheolaeth ac ecoleg y warchodfa. Hefyd, mae eu tudalen ar Facebook yn cynnwys newyddion.

Chwilio A i Y