Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwneud eich ysgol yn ysgol werdd

Ewch ati i greu gofod gwyrdd ar dir eich ysgol. Bydd yn cynyddu bioamrywiaeth leol a gall gael dysgwyr i ymwneud â’r amgylchedd. Mae datblygu’r llefydd awyr agored hyn yn hawdd ac mae’r dogfennau isod ar gael i’ch arwain chi drwy’r gwaith.

Dogfennau cynllunio:

Dod yn ‘Ysgol Awyr Agored Pen-y-bont ar Ogwr’

Mae cael statws ‘Ysgol Awyr Agored Pen-y-bont ar Ogwr’ yn golygu cael cydnabyddiaeth am ddysgu eich disgyblion yn yr awyr agored. Mae addysg awyr agored yn bwysig, gan fod plant yn gallu bod yn fwy egnïol, sylwgar a chyfranogol wrth ddysgu yn yr awyr agored.  Hefyd mae dysgu ym myd natur yn annog plant i berchnogi eu hamgylchedd lleol ac mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ofod gwyrdd gwych ar gael.

Chwilio A i Y