Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Eiddo gwag

Eiddo preswyl sector preifat sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy yw eiddo gwag. Nid yw pob adeilad yn cyd-fynd â’r diffinaid hwn, ond maent yn rhan o hyd o’r strategaeth i leihau eiddo gwag a chynyddu argaeledd tai.

Maent yn cynnwys:

  • eglwysi
  • capeli
  • eiddo di-breswyl arall y gellir ei drawsnewid yn llety preswyl fel eiddo masnachol

Mae’n bosib ailddechrau defnyddio eiddo gwag drwy ei rentu, ei werthu neu ei arwerthu, neu drwy i’r perchnogion eu hunain symud i mewn. 

Ni ddylid defnyddio'r ffurflen hon at ddibenion y Dreth Gyngor. Gellir cael mynediad i ffurflenni'r Dreth Gyngor drwy Fy Nghyfrif.

Mae llawer o resymau pam gall eiddo fod yn wag ac mae rhai o’r rhesymau mwyaf cyffredin wedi’u nodi isod:

  • eiddo sy’n aros am newid perchnogaeth
  • does gan y perchnogion ddim gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer gwneud defnydd o’r eiddo unwaith eto
  • yr eiddo wedi cael ei adael yn wag am fod y perchennog wedi symud i ofal preswyl
  • oedi neu anghydfod wrth weinyddu'r ystâd pan mae'r perchennog wedi marw
  • problemau ymddangosiadol gyda rhentu'r eiddo
  • perchennog yn aros am gynnydd pellach yn y farchnad cyn gwerthu
  • gall costau adnewyddu fod yn uwch mewn eiddo hŷn sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir
  • nid yw’r perchnogion yn ymwybodol eu bod yn berchen ar eiddo neu maent yn byw yn rhywle arall

Fel rheol, mae’n hawdd adnabod eiddo sydd wedi bod yn wag yn y tymor hir gan ei fod mewn cyflwr gwael neu wedi cael ei esgeuluso o bosib. Dyma rai pethau i sylwi arnynt efallai:

  • llawer iawn o bost heb gael ei gasglu y tu mewn i’r drws ffrynt.
  • yr ardd heb gael ei chynnal a’i chadw neu sbwriel wedi cael ei daflu a heb ei glirio.
  • arwyddion o ddadfeilio a difrod allanol heb gael eu trin. Er enghraifft; ffenestri wedi torri, graffiti neu do wedi’i ddifrodi.
  • mae’r eiddo wedi cael ei fordio. Er enghraifft; griliau pren neu fetel wedi cael eu gosod ar y drysau a’r ffenestri.
  • golau heb ei ddiffodd a neb yn ymweld â’r eiddo.
  • efallai bod y cymdogion yn gwybod rhywbeth am yr eiddo. Mae’n werth gofyn i’r cymdogion beth maent yn ei wybod am yr eiddo a’i berchennog ac ers faint maent yn cofio’r eiddo yn wag.
  • efallai bod y cyngor yn gwybod am yr eiddo gwag. Cysylltwch â’r awdurdod lleol y mae’r eiddo wedi’i leoli ynddo. Gall y cyngor edrych i weld a yw’r eiddo wedi’i restru yn ei gofnodion fel eiddo gwag tymor hir.

Os ceir cyfuniad o’r ffactorau uchod, y siawns yw bod yr eiddo’n eiddo gwag yn y tymor hir.

Does dim amheuaeth bod eiddo gwag yn ased sy’n wynebu risg gynyddol.

Mae’n bosib bod perchnogion eiddo gwag yn colli arian pan mae ganddynt ased a ddylai fod yn creu arian.

Gall bod yn berchennog ar eiddo gwag greu problemau fel y canlynol:

  • premiymau yswiriant uwch neu gwmnïau’n gwrthod rhoi yswiriant
  • taliadau treth gyngor parhaus heb gyfraddau gostyngiad ar gael
  • risg o sgwatwyr a ffïoedd cyfreithiol i gael gwared arnynt
  • dim incwm rhent
  • dadfeilio tra mae’n wag
  • mwy o risg o fandaliaeth
  • mwy o risg o dân
  • costau bordio’r adeilad
  • costau diogelwch parhaus
  • cwynion cyson gan gymdogion

Gall yr awdurdod lleol roi help a chyngor i chi os ydych chi’n berchen ar eiddo gwag. Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i chi i sicrhau’r potensial gorau o’r eiddo. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol ac opsiynau gwerthu neu rentu.

Mae gwerthu eiddo gwag yn gyfle proffidiol iawn i’r perchennog. Mae sawl ffordd y gallwch werthu eich eiddo:

  • gwerthu drwy asiant tai
  • gwerthu mewn arwerthiant
  • gwerthu’r eiddo gwag eich hun

Mae gwerthu eiddo gan ddefnyddio asiant tai yn gwneud y broses yn haws gan fod yr asiant yn gyfrifol am y canlynol:

  • prisio’r eiddo a’i hysbysebu yn y ffordd orau er mwyn targedu prynwyr addas.
  • trefnu ymweliadau â’r eiddo a dangos yr eiddo i ddarpar brynwyr.
  • derbyn a thrafod cynigion gan ddarpar brynwyr.
  • eich cynghori am unrhyw welliannau y gellid eu gwneud er mwyn sicrhau gwerthiant.

Sut i benderfynu pa asiant tai i’w ddefnyddio

Mae nifer o asiantau tai yn gweithredu yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Pan fyddwch yn cysylltu ag asiantau tai, dylech sicrhau eu bod yn aelodau o Gymdeithas Genedlaethol yr Asiantau Tai (NAEA).

Gellir cael gwybodaeth am wasanaethau asiantau tai ar wefan Cymdeithas Genedlaethol yr Asiantau Tai.

Y peth doethaf i’w wneud yw cael mwy nag un asiant tai ag enw da i ddod i weld yr eiddo a rhoi pris i chi, yn ogystal â’u barn proffesiynol am ei werthu.

Ffïoedd asiantau tai

Mae ffïoedd asiantau tai yn amrywio. Yn gyffredinol, byddech yn disgwyl talu rhwng 1% a 3% o bris gwerthiant yr eiddo mewn comisiwn am eu gwasanaeth.

Mae gan arwerthiannau gynulleidfa darged sy’n cynnwys datblygwyr, prynwyr arian parod, buddsoddwyr a landlordiaid portffolio. Yn wahanol i werthu trwy asiant tai, ar ôl taro’r morthwyl, mae’r prynwr wedi ymrwymo’n gyfreithiol i gwblhau gwerthiant yr eiddo.

Mae hyn yn cael gwared ar y cymhlethdod o ddarpar brynwr yn tynnu’n ôl o’r gwerthiant. Mae hyn yn gallu digwydd pan fyddwch wedi gwerthu eiddo yn amodol ar gytundeb drwy asiant tai.

Hefyd, mae mantais ychwanegol o gyflymder y gwerthiant wrth werthu mewn arwerthiant. Unwaith y byddwch wedi cytuno ar y gwerthiant, dim ond 20 diwrnod gwaith sydd ei angen ar gyfer cwblhau fel rheol. Gyda chanllaw-brisiau realistig, dyma’r ffordd orau o sicrhau pris gwerthiant da hefyd. Er mai’r arwerthwr fydd yn penderfynu beth fydd y canllaw-bris, mae’n bosib i’r gwerthwr osod isafswm ar gyfer y pris gwerthu.

Pa arwerthwr i’w ddefnyddio

Mae dewis yr arwerthwr cywir yn bwysig. Nid yw ceisio gwerthu eiddo sydd mewn cyflwr gwael mewn arwerthiant sy’n arbenigo mewn eiddo o safon yn syniad da. Mae gwahanol dai arwerthu’n denu grwpiau o wahanol gleientiaid a mae dewis yr un sydd fwyaf tebygol o fod â diddordeb yn eich eiddo chi’n ffordd dda o ddewis.

Mae nifer o arwerthwyr sy’n gwerthu eiddo yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r rhan fwyaf o’r arwerthwyr yn gweithredu ledled De Cymru, neu Gymru gyfan, ac maent yn cynnal arwerthiannau bob mis neu bob 3 mis mewn gwahanol leoliadau.

Manylion am ddyddiadau a lleoliadau’r arwerthiannau yn eich ardal leol chi yn y dyfodol.

Ffïoedd

Fel rheol, mae arwerthwyr yn codi rhwng 2% a 3%, a TAW, o’r pris gwerthiant a gall hyn ddibynnu ar isafswm ffï. Mae rhai arwerthwyr yn gofyn am ffï catalog/mynediad ymlaen llaw sydd rhwng £200 a £300 a TAW.

Mae’r gwerthwr yn gyfrifol hefyd am dalu am baratoi pecyn cyfreithiol cyn yr arwerthiant. Gall hyn gostio tua £300 a TAW.

Gall gwerthu eiddo heb ddefnyddio asiant tai fod yn opsiwn rhatach. Bydd angen llawer mwy o ymdrech ar ran y gwerthwr. Er bod arian yn cael ei arbed ar ffïoedd asiant tai, mae’n ofynnol bod gweithiwr cyfreithiol proffesiynol yn cyflawni’r broses gyfreithiol o werthu’r eiddo.

Bydd rhaid i’r eiddo gael ei brisio. Mae’n bosib prisio eiddo mewn nifer o ffyrdd:

  • gan syrfëwr proffesiynol fydd yn codi tâl.
  • gan asiant tai. Mae asiantau tai’n prisio eiddo yn seiliedig ar bris eiddo tebyg, o’r un maint a math, sy’n gwerthu yn yr ardal.
  • drwy amcangyfrif gwerth. Gwnewch waith ymchwil a darganfod beth yw prisiau eiddo tebyg yn yr ardal. Gall hyn roi syniad i chi o werth eich eiddo. Yr unig berygl gyda defnyddio’r dull yma yw, os yw’r gwerth yn anghywir, bydd yn effeithio ar werthiant yr eiddo.

Mae’n bwysig hyrwyddo’r eiddo sydd ar werth yn eang er mwyn sicrhau gwerthiant cyflym a didrafferth. Gallwch farchnata eich eiddo mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys gosod hysbyseb mewn papurau newydd a defnyddio arwyddfyrddau ‘ar werth’. 

Mae defnyddio’r rhyngrwyd i hysbysebu yn ddull cyffredin. Ceir nifer o wefannau eiddo sy’n barod i farchnata’r eiddo ar eich rhan.

Mae gosod eiddo gwag yn cynnig nifer o fanteision, gan gynnwys y canlynol;

  • mae’n galluogi i chi gadw eich eiddo a’i ddefnyddio mewn ffordd fuddiol.
  • mae’n rhoi incwm misol i chi.
  • mae’n darparu cartref ar gyfer teulu sydd ei angen.
  • mae’n codi gwerth yr eiddo.

Fodd bynnag, ni ddylid penderfynu bod yn landlord ar chwarae bach. Mae mwy a mwy o gyfrifoldeb yn cael ei roi i landlordiaid i sicrhau bod yr eiddo’n ddiogel ar gyfer y tenantiaid.

Mae gan bob landlord ddyletswydd i sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol o’i gyfrifoldebau.

Os ydych chi’n ystyried gosod eich eiddo gallwch gysylltu â thîm tai’r sector preifat ar 0300 123 6696. Gallwch drafod y gofynion cyfreithiol ar gyfer gosod eich eiddo.

Mae nifer o ffyrdd o osod a rheoli eich eiddo. Mae’n bwysig eich bod yn ystyried faint o gysylltiad hoffech chi ei gael gyda’r eiddo cyn dewis sut i barhau.

Efallai eich bod eisiau bod yn landlord eich hun. Mae’r gyfraith yn nodi bod hawliau a rhwymedigaethau penodol ynghlwm â bod yn landlord. Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r amodau hyn wrth osod eich eiddo.

Peidiwch â meddwl bod rheoli eiddo yn waith hawdd. Mae’n bwysig eich bod chi’n deall bod dod yn landlord yn gyfle busnes a bod angen ei ystyried yn y cyd-destun yma.

Os nad oes gennych unrhyw brofiad busnes, a dim llawer o amser ar gael, dylech ystyried a yw bod yn landlord yn opsiwn addas.

Mae cyfrifoldebau landlord yn cynnwys y canlynol:

  • gwneud yn siŵr bod yr eiddo sy’n cael ei rentu’n ddiogel, heb unrhyw beryglon i iechyd.
  • gwneud yn siŵr bod yr holl offer trydan a nwy rydych chi’n eu cyflenwi’n cael eu gosod a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel.
  • dilyn rheoliadau diogelwch tân.
  • darparu Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer yr eiddo.
  • diogelu blaendal eich tenantiaid mewn cynllun wedi’i gymeradwyo gan y llywodraeth.
  • sicrhau eich bod wedi’ch cofrestru a’ch trwyddedu i fod yn landlord.

Am fwy o wybodaeth am eich rhwymedigaeth gyfreithiol i gael eich cofrestru / trwyddedu, ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Diogelu Blaendaliadau, Cytundebau Tenantiaeth, Gyrru Tenantiaid Allan, Tystysgrifau Perfformiad Ynni a Chanllaw i Rentu eich Eiddo.

Os yw bod yn landlord yn swnio fel gormod o waith, efallai yr hoffech chi ystyried cael asiant gosod i reoli’r eiddo ar eich rhan. Mae’n syniad doeth cysylltu â nifer o asiantaethau i drafod eu harferion a’u ffïoedd cyn ymrwymo.

Gall asiant gosod gynnig y gwasanaethau cynlynol:

  • eich cynghori ar lefel y rhent
  • dod o hyd i denantiaid a gwirio geirda
  • casglu rhent a chadw’r arian mewn cyfrif cleient ar wahân
  • darparu datganiad misol
  • trefnu archwiliadau diogelwch ar gyfleustodau a gwaith cynnal a chadw rheolaidd
  • trefnu arolygiadau rheolaidd o’r eiddo
  • delio â’r holl waith papur cyfreithiol a gweinyddol rhwng y tenant a’r landlord.

Ceir nifer o asiantau gosod yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr a all eich helpu chi i osod a rheoli tenantiaeth rentu breifat. Nid oes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr  gysylltiad gyda unrhyw asiantau gosod preifat.

Bydd asiantau gosod sydd wedi cofrestru ar gyfer cynllun yn darparu gwasanaeth o safon broffesiynol ar gyfer y landlord a’r tenant. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys Rhentu Doeth Cymru, y Cynllun Gosod Cymeradwy Cenedlaethol (NALS) neu’r Gymdeithas o Asiantaethau Gosod Preswyl (ARLA).

Mae’n syniad da bob amser gwirio a yw’r asiant gosod wedi cofrestru ar gyfer unrhyw rai o’r cynlluniau hyn a chynlluniau perthnasol eraill. Gwirio a yw asiant wedi’i drwyddedu drwy Rhentu Doeth Cymru a theipio enw’r Asiant.

Mae ffïoedd asiantaethau’n amrywio ond mae’r rhan fwyaf yn codi ffï o 10% i 15% o’r incwm rhentu (a TAW). Fel landlord, chi fydd yn gyfrifol o hyd am yswirio’r adeilad ac atgyweirio a chynnal a chadw.

Cost y gwaith adnewyddu yw un o’r prif rwystrau sy’n atal perchnogion rhag ailddechrau defnyddio eu heiddo gwag unwaith eto. Mae gan yr Awdurdod Lleol nifer o becynnau ariannol ar gael i gynorthwyo perchnogion eiddo gwag i wneud y gwaith adnewyddu a gwneud yn siŵr bod yr eiddo’n cyrraedd y safon sydd ei hangen er mwyn ei ddefnyddio. Mae’r opsiynau hyn yn cynnwys y canlynol:

Benthyciadau eiddo gwag

Mae cynllun Troi Tai’n Gartrefi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig benthyciad di-log i berchnogion eiddo gwag i’w cynorthwyo i ailddechrau defnyddio’r eiddo gwag.

Mae’n rhaid i chi fod yn berchen ar eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf chwe mis er mwyn gwneud cais am fenthyciad. Gallwch wneud cais am hyd at £25,000 ar gyfer pob uned i gwblhau gwaith atgyweirio neu wneud gwelliannau a fydd yn eich galluogi i werthu neu rentu’r eiddo.

Bydd ffi gwneud cais am fenthyciad a bydd gofyn i chi ddangos eich gallu i ad-dalu'r benthyciad o fewn cyfnod penodol o amser. Mae hyd y cyfnod ad-dalu’n dibynnu ar sut mae’r eiddo’n mynd i gael ei ddefnyddio.

Os byddwch yn gwerthu’r eiddo, bydd rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad ar ddiwedd 2 flynedd. Os byddwch yn rhentu’r eiddo, bydd rhaid i chi ad-dalu’r benthyciad ar ddiwedd 5 mlynedd.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghanllaw eiddo gwag y Cyngor (.PDF 1836KB)

Grantiau eiddo gwag

Nod y Grant Eiddo ar gyfer Cartrefi Gwag yw helpu i sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio eto a bod cynnydd yn y cyflenwad o dai rhent fforddiadwy y mae eu gwir angen. Mae’n rhaid i chi fod yn berchen ar eiddo (sydd dros 10 mlwydd oed) ar gofrestr tai gwag y Cyngor er mwyn gwneud cais am grant.

Mae’n rhaid i chi gytuno i osod yr eiddo am gyfnod o 3 blynedd yn unol â pholisi gosod y Cyngor ac mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru erbyn i’r gwaith gael ei gwblhau.

Mae uchafswm y grant sydd ar gael yn dibynnu ar y gwaith sy’n cael ei wneud:

  • hyd at £10,000 neu 75% o gostau cymwys pob uned ar gyfer trawsnewid tebyg am debyg. Er enghraifft, tŷ dwy ystafell wely’n cael ei ddefnyddio eto fel tŷ dwy ystafell wely.
  • hyd at £15,000 neu 75% o gostau cymwys pob uned ar gyfer trawsnewid yn fwy o unedau. Er enghraifft, tŷ dwy ystafell wely’n cael ei ddefnyddio eto fel dau fflat un ystafell wely.
  • hyd at £9,000 neu 75% o gostau cymwys pob uned ar gyfer trawsnewid yn unedau sy’n rhannu cyfleusterau. Er enghraifft, unedau ar ffurf fflatiau sy’n rhannu cegin, ystafell ymolchi neu’r ddau.

Bydd y Cyngor yn asesu pa waith sydd angen cael ei wneud er mwyn ailddechrau defnyddio’r eiddo. Ni ddylai’r gwaith fod wedi dechrau cyn i’r cais gael ei gymeradwyo, ac mae’n rhaid i’r gwaith gael ei gwblhau o fewn chwe mis i gymeradwyo’r grant.

Grant Cartrefi mewn Trefi

Mae’r grant hwn yn annog pobl i fyw yng nghanol trefi’r Fwrdeistref Sirol. Mae’n helpu i fynd i’r afael â gofod gwag yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cynyddu’r cyflenwad o lety fforddiadwy.

Mae’n rhaid i chi fod yn berchen ar eiddo (dros 10 mlwydd oed) sy’n addas ar gyfer ei drawsnewid at ddefnydd preswyl er mwyn gwneud cais am grant.

Mae’n rhaid i chi gytuno i osod yr eiddo am gyfnod o 3 i 5 mlynedd yn unol â pholisi gosod y Cyngor ac mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru (dolen i Rhentu Doeth Cymru) erbyn i’r gwaith gael ei gwblhau.

Mae uchafswm y grant yn dibynnu ar y gwaith sy’n cael ei wneud:

  • 85% o’r gost, hyd at uchafswm o £10,000, i greu mynedfa ar wahân (os nad oes un eisoes) i’r eiddo preswyl;
  • 85% o unrhyw waith a nodir/argymhellir o ganlyniad i arolwg acwstig;
  • 60% o’r gost, hyd at uchafswm o £30,000 ar gyfer pob uned o lety, er mwyn trawsnewid gofod gwag yn uned breswyl.

Mae eiddo sydd mewn ardal menter treftadaeth treflun yn cael blaenoriaeth, ond gall adeiladau allweddol yn ardal ehangach canol y dref gael eu hystyried hefyd.

Bydd y Cyngor yn asesu pa waith sydd angen cael ei wneud er mwyn ailddechrau defnyddio’r eiddo. Ni ddylai’r gwaith ddechrau cyn i’r cais gael ei gymeradwyo. Mae’n rhaid i’r gwaith ddechrau o fewn chwe mis ac mae’n rhaid iddo gael ei gwblhau o fewn 12 mis i gymeradwyo’r grant.  Gellir cyfuno’r grant yma gyda grantiau eraill.

Gostyngiadau TAW ar gyfer eiddo gwag

Efallai eich bod yn gymwys i dalu TAW cyfradd is os yw’r canlynol yn berthnasol i’r eiddo:

  • mae wedi bod yn wag am ddwy flynedd yn union cyn i’r gwaith ddechrau, ac
  • mae wedi’i fwriadu ar gyfer defnydd preswyl perthnasol yn unig.

Os oes angen, gallwn ysgrifennu llythyr swyddogol at y datblygwr neu berchennog yr eiddo i gadarnhau ers faint mae’r eiddo wedi bod yn wag.

Dyma’r dystiolaeth ar eu cyfer os oes angen i Gyllid a Thollau EM wirio. Os oes angen hwn arnoch, cysylltwch â’r Cydlynydd Eiddo Gwag gan ddefnyddio’r manylion ar waelod y dudalon hon.

TAW eiddo preswyl sy'n wag

Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar Hysbysiad TAW 708: tudalen adeiladau ac adeiladu ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Gall prynu eiddo gwag fod yn ystyriaeth sy’n peri pryder i rai pobl. Fodd bynnag, gall fod yn gyfle gwych i ailddatblygu eiddo a’i rentu neu ei werthu’n ddiweddarach am elw.

Mae adnewyddu eiddo gwag yn sicrhau nifer o fanteision i’r gymuned leol hefyd, gan gynnwys y canlynol:

  • mwy o dai ar gael ar gyfer pobl sydd ar restr aros y cyngor, sy’n lleihau nifer y bobl sydd angen tai
  • bydd fandaliaeth, troseddu ac ofn troseddu yn y gymuned yn lleihau
  • llai o eiddo peryglus neu hyll sy’n peri risg i’r gymuned
  • bydd yr ardal yn dod yn fwy atyniadol gan gynyddu masnach i fusnesau lleol a chodi prisiau a gwerthiant tai

Yn amlach na pheidio, bydd eiddo gwag angen dipyn o waith er mwyn gallu ei ddefnyddio eto. Mae’n bwysig bod gennych ddigon o gyllid i gwblhau’r gwaith cyn prynu’r eiddo.

Drwy brynu eiddo gwag, gallwch gael bargen. Fodd bynnag, mae’n bosib y bydd angen llawer o benderfyniad a gweledigaeth i fynd i’r afael â phrosiect sylweddol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prynu eiddo gwag, mae’n syniad doeth cysylltu â’r canlynol:

Asiantau Tai

Ceisiwch gysylltu â’ch asiant tai lleol i weld a oes ganddo fanylion am unrhyw eiddo gwag. Efallai nad yw lluniau’r eiddo yma yn ffenestr y siop felly mae’n werth gofyn i gael gwybod beth sydd ar gael.

Tai Ocsiwn

Mae catalogau arwerthiannau’n llefydd da i ddod o hyd i eiddo gwag ar werth hefyd. Gwybodaeth am ddyddiadau a lleoliadau arwerthiannau yn eich ardal leol chi yn y dyfodol.

Cofiwch, er bod gan yr awdurdod lleol wybodaeth am leoliad a pherchnogaeth unrhyw eiddo gwag tymor hir, ni allwn rannu’r wybodaeth hon gydag aelodau’r cyhoedd na sefydliadau eraill.

Dod o hyd i berchennog absennol/anhysbys yw’r cam cyntaf tuag at ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Mae’r camau canlynol yn amlinellu’r camau y gallwch eu cymryd er mwyn dod o hyd i enw a lleoliad perchennog.

  1. Siarad gyda phobl yn y gymuned, e.e. cymdogion neu grwpiau cymunedol, gan fod siawns y byddant yn gwybod rhywbeth am y perchennog.

 

  1. Gosod hysbysiad ar ddrws yr eiddo gwag yn dweud yr hoffech gysylltu â’r perchennog.

 

  1. Gallech archwilio’r Gofrestrfa Tir. Bydd y wefan yn cynnwys gwybodaeth am bob perchennog pob darn o dir cofrestredig. Dyma ffordd ddefnyddiol o ddod o hyd i enw’r perchennog, ond mae’r cyfeiriad sydd wedi cael ei nodi’n debygol o fod y cyferiaid ar gyfer yr eiddo gwag.

 

  1. Pan fyddwch yn gwybod enw’r perchennog, gallwch ddefnyddio nifer o wefannau i gael cymorth i ddod o hyd iddo.

   

  1. Os yw perchennog yr eiddo gwag wedi marw a bod anghydfod ynghylch yr ewyllys neu os nad oes etifeddion yn ei hawlio, gall yr eiddo fod ‘mewn limbo’. Mae hyn yn digwydd wrth geisio sefydlu pwy yw’r perchennog newydd a bydd marc cwestiwn ynghylch pwy sy’n gyfrifol am yr eiddo.

Rydym yn cydweithio â pherchnogion eiddo gwag er mwyn dechrau gwneud defnydd ohonynt eto. Fodd bynnag, mae ambell eiddo’n parhau’n wag, mewn cyflwr gwael ac yn niweidiol neu’n niwsans i’r gymuned. Yn yr achosion hyn, mae’n bosib y byddwn yn defnyddio ein pwerau deddfwriaethol i sicrhau bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio unwaith eto.

Gall hyn gynnwys y canlynol:

  • gorfodi gwerthiant
  • caffael gwirfoddol
  • gorchmynion rheoli eiddo gwag
  • gorchmynion prynu gorfodol

Bydd eich adroddiad yn cael ei brosesu o fewn 5 diwrnod gwaith. Bydd y tîm tai sector preifat yn ceisio gweithio’n agos gyda pherchennog yr eiddo gwag er mwyn ei annog i wneud defnydd o’r eiddo unwaith eto.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi nad yw gadael eiddo yn wag yn drosedd ac nid yw’n bosib cymryd camau gorfodi bob amser. Dim ond fel dewis olaf y gellir mynd ati i orfodi, pan mae’r eiddo’n achosi niwsans neu niwed i ardal.

Chwilio A i Y