Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Addasu ac atgyweirio tai

Mae angen atgyweirio a gwella miloedd o eiddo preifat ledled y fwrdeistref sirol er mwyn eu codi i safonau byw presennol. Rydym yn cynnig sawl grant i helpu i wneud hyn.

Rydym yn defnyddio Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat i'n helpu i benderfynu sut i ddyfarnu'r grantiau hyn. Mae’r polisi’n rhoi blaenoriaeth i breswylwyr hŷn a phreswylwyr agored i niwed ac yn canolbwyntio ar ardaloedd difreintiedig.

Rhan un – Polisi Adnewyddu’r Sector Preifat

Rhan dau – Safon Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer Addasiadau a Chymorth

Cynigir y grantiau canlynol, yn ddibynnol ar amodau penodol:

Mae’r grant hwn, sydd yn helpu i dalu am addasu eiddo ar gyfer unigolyn anabl, yn seiliedig ar brawf modd. Gall perchenogion, meddianwyr a thenantiaid wneud cais am y grant. Gall eiddo gynnwys cartrefi symudol a chartrefi ar gwch.

Efallai y bydd angen i’r ymgeisydd gyfrannu at gost y gwaith. Bydd y cyfraniad, os o gwbl, yn cael ei benderfynu ar sail prawf modd.

Rhaid i’r addasiadau y mae’r grant yn talu amdanynt ateb anghenion penodol yr unigolyn anabl. Bydd ein therapyddion galwedigaethol yn helpu i gadarnhau'r anghenion hyn.

Mae hwn yn grant dewisol i dalu am waith a gymeradwywyd dan Grant Cyfleusterau i'r Anabl sy'n fwy na'r uchafswm gorfodol, sef £36,000. Mae'n berthnasol i gynigion o grant a wnaed ar adeg mabwysiadu'r polisi hwn neu ar ôl hynny.

Dyfernir y grant hwn ddim ond os gellir profi y byddai peidio â gwneud hynny’n arwain at golli annibyniaeth a bod angen am gymorth gofal cymdeithasol a fyddai’n costio mwy na’r grant.

Gellir rhoi’r grant ddim ond ar ôl i’r therapydd galwedigaethol gytuno na fydd lleihau’r gwaith na symud yr unigolyn i eiddo mwy addas yn ddewis gwell.

Gellir defnyddio’r grant ar gyfer ffioedd proffesiynol ac ategol yn unig.

Mae hwn yn grant dewisol i helpu pobl anabl i symud o’u cartrefi os yw hyn yn fwy cost-effeithiol na Grant Cyfleusterau i'r Anabl. Gall helpu gyda’r gost o symud cartref a chyflawni mân addasiadau. Mae’r grant hwn ar sail prawf modd.

Gall y grant helpu unigolyn anabl i symud i safle y gellir ei addasu’n haws, neu i safle sydd eisoes wedi'i addasu. Gall hefyd helpu tenantiaid cymdeithasol presennol sy’n byw mewn eiddo addasedig yn ddiangen i symud i rywle arall er mwyn rhoi’r cartref i unigolyn anabl.

Mae hyn yn helpu i gynnal mân atgyweiriadau i gartref neu i atal peryglon difrifol i iechyd neu i ddiogelwch, megis baglu neu gwympo. Mae’n helpu i wneud eiddo’n ddiogel i’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned. Ar gyfer perchen-feddianwyr sy'n gleientiaid Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr mae’r grant hwn. Caiff y gwaith ei gyflawni gan wasanaeth Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr, neu gan yr asiant.

Mae’r grant hwn yn rhoi help i berchen-feddianwyr i wneud mân waith atgyweirio i eiddo os ydynt yn agored i niwed ac yn methu â threfnu’r gwaith eu hunain.

Rhoddir y grant hwn i berchen-feddianwyr sy'n gleientiaid Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cyflawni mân waith atgyweirio. Caiff y gwaith ei gyflawni gan wasanaeth Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr, neu gan yr asiant.

Pwrpas y grant hwn yw helpu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, gan gynyddu'r cyflenwad o dai rhent fforddiadwy sydd mawr eu hangen. Byddwn yn asesu pa waith sydd angen ei gynnal er mwyn dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd. Ni cheir dechrau'r gwaith cyn i’r cais gael ei gymeradwyo, a rhaid iddo gael ei gwblhau o fewn chwe mis o gymeradwyo'r grant.

Mae benthyciadau eiddo gwag ar gael drwy gynllun Troi Tai’n Gartrefi Llywodraeth Cymru. Byddwn yn gweithio ar y cyd â’r perchennog i ganfod pa waith sydd angen ei gyflawni er mwyn dod â’r eiddo yn ôl i ddefnydd. Cytunir ar raglen waith cyn rhoi unrhyw gynnig o fenthyciad a bydd hynny’n rhan o amodau’r benthyciad. Ni cheir dechrau’r gwaith cyn bod y rhaglen waith wedi cael ei chyflwyno, a rhaid dechrau a gorffen o fewn y dyddiadau a nodir yn y cytundeb benthyciad.

Pwrpas cynlluniau atgyweirio grŵp Pen-y-bont ar Ogwr yw atgyweirio ac adnewyddu grŵp o eiddo. Rhaid i’r eiddo fod o fewn yr ardal adnewyddu sydd wedi’i datgan cyn y gellir ei gynnwys yn y cynllun atgyweirio grŵp.

Mae’r grant hwn yn annog pobl i fyw yng nghanol y dref, ac mae’n weithredol ledled y fwrdeistref sirol. Mae’n helpu i fynd i’r afael â llefydd gwag yng nghanol tref Pen-y-bont ac yn cynyddu’r cyflenwad o lety fforddiadwy. Blaenoriaethir eiddo sydd yn ardal y Fenter Treftadaeth Treflun, ond gellir ystyried adeiladau allweddol yn ardal ehangach canol y dref hefyd. Rhoddir ystyriaeth i'r cais ddim ond os yw’r eiddo yn addas i’w roi ar osod yn unol â’n hamodau.

Byddwn yn asesu pa waith sydd angen ei gyflawni er mwyn dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd. Ni cheir dechrau'r gwaith cyn i’r cais gael ei gymeradwyo, ond rhaid dechrau o fewn chwe mis a gorffen o fewn 12 mis o gymeradwyo'r grant.

Gellir cyfuno’r grant hwn â grantiau eraill.

Pwrpas y grant hwn yw helpu â’r gost o ‘wella diogelwch' eiddo er mwyn galluogi unigolyn sy’n dioddef o gam-drin domestig neu drais domestig i aros yn eu cartrefi ac i helpu i atal y cyflawnwr rhag dychwelyd i'r eiddo.

Gall gwella diogelwch fod yn ffordd effeithiol o alluogi dioddefwyr a’u plant sy'n medru aros yn eu cartrefi i fod yn ddiogel a pharhau i gael cymorth gan deulu a ffrindiau lleol.

Bydd y grant ar gael i unrhyw un sydd wedi dioddef o gam-drin domestig neu sy’n dioddef ohono ar hyn o bryd, ac sydd wedi cael ei atgyfeirio ar gyfer gwella diogelwch drwy Wasanaeth Cam-drin Domestig Un Stop neu drwy'r Cydlynydd Cam-drin Domestig lleol.

Cyswllt

I wneud cais am asesiad addasu gan therapydd galwedigaethol neu am Grant Cyfleusterau i’r Anabl, cysylltwch â:

Y Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642279

Am ymholiadau ynghylch grantiau, cysylltwch ag:

Adran Adnewyddu Cynaliadwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643442

Chwilio A i Y