Hwyl gwyliau’r haf
Gall plant a phobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr edrych ymlaen at raglen lawn gweithgareddau a digwyddiadau llawn egni yr haf hwn.
Mewn partneriaeth gydag Awen, Halo Leisure, yr Urdd, Menter Bro Ogwr a chynghorau trefi a chymunedau, mae’r rhaglen ‘Hwyl gwyliau haf’ yn fwrlwm o weithgareddau hwyliog ar gyfer plant a phobl ifanc gan gynnwys gweithgareddau a digwyddiadau celfyddydau a chreadigol, chwaraeon a gemau.
Mae gweithgareddau’n cynnwys y cynlluniau gwyliau ‘Actif am Oes’, her ddarllen yr haf a gweithgareddau llyfrgell, cyfleoedd nofio am ddim, a rhaglenni gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, a fydd yn helpu i gadw plant a phobl ifanc yn egnïol, ac yn rhoi rhyddid llwyr i’w dychymyg. Yn sicr mae rhywbeth at ddant pawb.
Caiff y tudalennau hyn eu diweddaru’n rheolaidd a gallant newid.