Actif Am Oes
Cyfle i ddarganfod sesiynau hwyliog i blant 8 i 11 oed mewn lleoliadau ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd plant sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael cyfle i fwynhau llond gwlad o hwyl am ddim fel rhan o gynlluniau Actif Am Oes yr haf yma mewn nifer o leoliadau diogel. Yn addas i blant rhwng 8 ac 11 oed, bydd y sesiynau hwyliog ac amrywiol yn canolbwyntio ar chwaraeon, gemau, a gweithgareddau celf a chreadigol.
Yn cael eu cyflwyno gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’u cefnogi gan gynghorau tref, byddant yn cael eu gweithredu am 4 wythnos rhwng dydd Llun 24 Gorffennaf a dydd Gwener 1 Medi. Bydd y sesiynau’n cael eu rhannu yn ddau sesiwn y dydd er mwyn rheoli’r niferoedd.
Lleoliadau Actif am Oes | Dyddiadau’r sesiwn | Amserau’r sesiwn |
---|---|---|
Canolfan Chwaraeon Bracla (gyda chefnogaeth Cyngor Cymuned Bracla)
|
Dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 18 Awst Mae digwyddiad cofrestru wedi’i drefnu ar gyfer Dydd Llun 17 Gorffennaf, ar y safle rhwng @ 4:30- 6:30pm |
10am i 2pm
|
Canolfan Gymunedol Caerau (gyda chefnogaeth Cyngor Tref Maesteg) |
Dydd Llun, Mawrth, Mercher a Iau 24 Gorffennaf i 17 Awst |
10am i 2pm |
Ysgol Gyfun Pencoed (gyda chefnogaeth Cyngor Tref Pencoed) |
Dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 18 Awst Mae digwyddiad cofrestru wedi’i drefnu ar gyfer Dydd Llun 17 Gorffennaf, ar y safle rhwng @ 4:30- 6:30pm |
10am i 2pm |
Ysgol Gyfun Porthcawl (gyda chefnogaeth Cyngor Tref Porthcawl) |
Dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 18 Awst Mae digwyddiad cofrestru wedi’i drefnu ar gyfer Dydd Llun 17 Gorffennaf, ar y safle rhwng @ 4:30- 6:30pm |
10am i 2pm |
Mae Halo Leisure yn rheoli'r rhaglenni a restrir isod ac mae manylion am ddyddiadau, amseroedd a threfniadau archebu i'w gweld ar wefan Halo. Bydd angen i blant sy'n mynychu rhaglenni Halo fod wedi cofrestru gyda Halo yn uniongyrchol. Bydd pob ymholiad ynglŷn â'r rhaglenni hyn yn uniongyrchol i Halo.
Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr Cefnogir gan Halo a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr |
Dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 1 Medi Cysylltwch â Halo i gadarnhau amseroedd |
Canolfan Chwaraeon Maesteg Cefnogir gan Halo a Chyngor Tref Maesteg |
Dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 1 Medi Cysylltwch â Halo i gadarnhau amseroedd |
Canolfan Bywyd Cwm Ogwr Cefnogir gan Halo a Chymuned Cwm Ogwr |
Dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 1 Medi Cysylltwch â Halo i gadarnhau amseroedd |
Canolfan Cwm Garw Cefnogir gan Halo a Chymuned Cwm Ogwr |
Dyddiau’r wythnos 24 Gorffennaf i 1 Medi Cysylltwch â Halo i gadarnhau amseroedd |
Canolfan Fywyd Bettws (a gefnogir gan Gyngor Cymunedol Cwm Garw a Hamdden Halo) |
Dydd Llun, Mercher, Iau a Gwener, 24 Gorffennaf i 1 Medi Cysylltwch â Halo i gadarnhau amseroedd |
Sylwch nad yw’r sesiynau hyn yn opsiwn arall i ofal plant, a rhaid i rieni a gofalwr fod ar gael i gasglu eu plant ar bob adeg. Ni fydd modd i blant ddefnyddio eu ffonau symudol yn ystod y sesiynau.
Pe bai angen gwneud gwaith cynnal a chadw ar safleoedd ysgolion efallai y bydd angen addasu rhaglenni.