Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Lles y plentyn yw ystyriaeth bwysicaf y llys. Ni fydd gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig yn cael ei wneud os nad yw’r llys yn teimlo ei fod er lles gorau’r plentyn.

Ar ôl i orchymyn gwarcheidiaeth arbennig gael ei wneud, fel arfer bydd y gwarcheidwad arbennig yn ofalwr parhaol i’r plentyn nes iddo/iddi gyrraedd 18 oed.

Pan fydd y llys teulu yn gwneud penderfyniad ar faterion a fydd yn effeithio ar blentyn, mae lles y plentyn yn hollbwysig. Mae’r rhestr wirio lles yn saith maen prawf statudol y mae’n rhaid i’r llysoedd eu hystyried dan Ddeddf Plant 1989 wrth ddod i’w benderfyniad mewn achosion sy’n ymwneud â phlant.

Dyma’r saith maen prawf a nodir yn y rhestr wirio lles dan a1(3) Deddf Plant 1989:

Mae’n rhaid i’r llys ystyried dymuniadau a theimladau’r plentyn, gan ystyried oedran a lefel dealltwriaeth y plentyn yn yr amgylchiadau. Gellir penodi Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd i adrodd i’r llys. Fel arall, gallai gweithiwr cymdeithasol gael barn y plentyn. Efallai y bydd anghytundeb rhwng barn y rhieni neu’r gwarcheidwaid, a barn y plentyn. Bydd y llys yn cydbwyso barn y partïon dan sylw, gan gynnwys barn plentyn sy’n gallu ffurfio ei farn ei hun.

Bydd y llys yn ystyried pwy sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu ar gyfer anghenion emosiynol, corfforol ac addysgol y plentyn. Bydd yn edrych ar y tymor byr a’r tymor hir.

Bydd y llys yn edrych ar effaith bosibl newidiadau i fywyd y plentyn. Bydd y llysoedd yn ceisio gorchymyn yr hyn sy’n tarfu lleiaf ar fywyd y plentyn. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei gydbwyso yn erbyn y ffactorau eraill.

Bydd y llys yn ystyried materion penodol fel crefydd, hil a diwylliant wrth wneud penderfyniad am blentyn. Efallai y bydd hefyd yn ystyried diddordebau a dewisiadau ffordd o fyw y gwarcheidwad os yw’n teimlo y bydd hyn yn effeithio ar fywyd y plentyn.

Bydd y llysoedd yn edrych ar y risg o niwed i’r plentyn. Mae hyn yn cynnwys:

  • y niwed mae’r plentyn wedi’i ddioddef
  • risg uniongyrchol o niwed
  • y risg o niwed yn y dyfodol

Mae niwed yn cynnwys niwed corfforol, emosiynol a meddyliol. Bydd y llysoedd yn pwyso a mesur y risg bosibl i’r plentyn yn y dyfodol. Gall gorchymyn gynnwys mesurau diogelwch i amddiffyn y plentyn.

Bydd y llys yn ystyried pa mor gymwys yw pob rhiant neu warcheidwad i ofalu am y plentyn, a diwallu ei anghenion. Bydd hyn yn oddrychol ac yn dibynnu ar ffeithiau ac amgylchiadau bob achos.

Mae’n rhaid i’r llys bwyso a mesur yr holl ffactorau dan y rhestr wirio lles, ac ystyried yr holl orchmynion y gall eu rhoi. Yna bydd yn gwneud gorchymyn er lles gorau’r plentyn.

Cyswllt

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642674

Chwilio A i Y