Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cysylltu â gofal cymdeithasol plant

Rydyn ni’n gweithio gyda phlant a theuluoedd i warchod a chefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd neu eu gofalwyr i fyw bywydau llawn a diogel.

I wneud hyn, rydyn ni’n gwneud y canlynol:

  • darparu gwybodaeth, cyngor ac asesiadau
  • helpu i warchod plant rhag niwed neu esgeulustod
  • darparu cefnogaeth ddwysach i rai plant a theuluoedd

Os ydych chi’n dymuno siarad gyda rhywun am bryderon diogelu neu angen gwybodaeth neu gyngor am ofal cymdeithasol i blant, dewiswch un o’r opsiynau canlynol:

Cysylltwch:

Wardiau’r gogledd: Ffoniwch 01656 642454 a 01656 642499

Dyma wardiau’r gogledd: Abercynffig, Betws, Blackmill, Blaengarw, Bryncethin, Bryncoch, Caerau, Llangeinor, Maesteg, Nantymoel, Pontycymer, Cwm Ogwr, Llangynwyd, Penyfai, Sarn ac Ynysawdre.

Wardiau’r gorllewin: ffoniwch 01656 642488.

Dyma wardiau’r gorllewin: Pîl, Mynydd Cynffig, Cefn Cribwr, Gogledd a De Corneli a Phorthcawl.

Wardiau’r dwyrain: ffoniwch 01656 642473.

Dyma wardiau’r dwyrain: Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Bracla, Bryntirion, Cefn Glas, Coety, Llangrallo, Litchard, Hendre, Felindre, Llangewydd, Morfa, Penyfai, Pendre, Trelales a Merthyr Mawr.

Weithiau, mae angen ychydig o gymorth a chefnogaeth ychwanegol ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd i gael bywydau hapus, iach a llwyddiannus.

Mae'r Tîm Cymorth Cynnar yn wasanaeth gwirfoddol sy'n ceisio helpu i ddarparu'r cymorth cywir i chi a'ch teulu i helpu i greu newid positif. Rydym yn gosod y teulu’n ganolog yn y gefnogaeth o'r dechrau i'r diwedd gydag unrhyw ymwneud â'r gwasanaeth.

Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar y canlynol:

siarad am gryfderau yn ogystal â meysydd y gellid eu gwella
cael y cymorth cywir i chi ar yr adeg iawn
dod â thîm o bobl briodol at ei gilydd a all helpu eich teulu
gwrando arnoch a rhoi dewisiadau i chi.

Cysylltu
Gwasanaeth Cymorth Cynnar
E-bost: 
Ffôn: 01656 815420

Os oes arnoch chi angen cysylltu â ni y tu allan i’n horiau gwaith, cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar 01443 743665.

Ein horiau gwaith yw 8:30am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Chwilio A i Y