Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

3. Gwneud cais am warcheidiaeth arbennig

Rhaid i warcheidwad arbennig fod dros 18 oed ac ni ddylai fod yn rhiant i’r plentyn. Gall un person neu ymgeiswyr ar y cyd wneud cais.

Gallwch wneud cais i fod yn warcheidwad arbennig os ydych chi’n un o’r canlynol:

  • gwarcheidwad y plentyn
  • gofalwr maeth awdurdod lleol y mae’r plentyn wedi byw gydag ef am flwyddyn yn union cyn gwneud cais
  • perthynas y mae’r plentyn wedi byw gydag ef am o leiaf blwyddyn yn union cyn gwneud y cais
  • unrhyw un sydd wedi’i enwi mewn gorchymyn preswylio neu drefniadau plant fel rhywun y mae’r plentyn i fyw gydag ef,
  • neu sydd â chaniatâd pawb y mae gorchymyn preswylio neu drefniadau plant o’r fath ar waith o’u plaid
  • unrhyw un y mae’r plentyn wedi byw gydag ef am dair o’r pum mlynedd diwethaf
  • os yw’r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol, unrhyw un sydd â chaniatâd yr awdurdod lleol
  • unrhyw un sydd â chaniatâd pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant
  • unrhyw un sydd â chaniatâd y llys i wneud cais

Cyn i chi wneud cais

Rhaid i chi roi gwybod i’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig eich bod yn bwriadu gwneud cais am Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig o leiaf dri mis cyn i chi gyflwyno eich cais i’r llys. Bydd hyn yn rhoi amser iddo gwblhau eich adroddiad asesu a’ch cynllun cymorth. Ar ôl cwblhau’r rhain, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn eu rhannu â chi. Bydd angen yr asesiad a’r cynllun cymorth ar y llys er mwyn gwneud penderfyniad.

Os bydd yn penderfynu, gall y llys hefyd wneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn achosion teuluol sy’n ymwneud â lles plentyn. Gellir gwneud gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig lle nad oedd cais wedi’i wneud, ac mae’n cynnwys achosion mabwysiadu.

Cyswllt

Gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642674

Chwilio A i Y