Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y dogfennau rydych chi eu hangen i hawlio budd-daliadau

2. Y dogfennau sylfaenol sydd angen eu darparu

Rhaid i chi ddarparu prawf dogfennol ar eich cyfer chi’ch hun, ac, os oes gennych un, eich partner, o’r canlynol:

  • rhifau yswiriant gwladol
  • pwy ydych chi
  • rhent
  • incwm a chyfalaf, gan gynnwys rhai aelodau’r cartref

Os na fydd gennych brawf, fydd dim modd prosesu eich hawliad.

Y dogfennau sydd eu hangen i brofi pwy ydych chi

Fel y gwelwch o’r rhestr isod, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth benodol i brofi pwy ydych chi. Rhaid i chi ddarparu o leiaf dwy eitem o dystiolaeth. Rhaid i o leiaf un ddod o’r rhestr tystiolaeth sylfaenol, a dylai un gynnwys cadarnhad o’ch rhif yswiriant gwladol.

  • pasbortau, y mae’n rhaid iddynt fod yn gyfredol ac yn ddilys
  • Llythyrau Cydnabod Safonol y Swyddfa Gartref (SAL 1 neu 2)
  • trwyddedau gyrru
  • tystysgrifau geni, priodas, neu farwolaeth
  • tystysgrifau mabwysiadu
  • papurau ysgariad neu ddirymiad
  • cardiau adnabod cenedlaethol
  • cardiau NINO gyda rhif yswiriant gwladol
  • ffurflenni cyfraniadau yswiriant gwladol
  • cardiau meddygol sy’n cynnwys rhif y GIG
  • tystysgrifau cyflogaeth y lluoedd arfog
  • dogfennau newid enw
  • llythyrau hysbysu budd-dal y wladwriaeth
  • tystysgrifau is-gontractwyr
  • ffurflenni P45
  • ffurflenni E111
  • slipiau cyflog
  • cytundebau tenantiaeth, llyfrau rhent neu gardiau rhent
  • biliau cyfleustodau, fel rhai ar gyfer nwy, trydan a dŵr
  • biliau ffôn sefydlog
  • cardiau rheilffordd, cardiau teithio a thocynnau bws
  • tocynnau tymor
  • cardiau debyd neu gredyd banc neu gymdeithas adeiladu
  • cardiau tâl siopau
  • cyfriflenni/paslyfrau banc neu gymdeithas adeiladu
  • tystysgrifau cyfranddaliadau
  • polisïau yswiriant bywyd
  • cardiau aelodaeth undeb llafur

Chwilio A i Y