Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Y dogfennau rydych chi eu hangen i hawlio budd-daliadau

Bydd didyniadau’n cael eu gwneud o’ch hawliad os oes gennych chi oedolion eraill, gan gynnwys aelodau’r teulu yn byw gyda chi oni bai eich bod chi:

  • yn cael elfen gofal y lwfans byw i’r anabl
  • yn cael lwfans gweini
  • wedi’ch cofrestru fel rhywun dall

Os yw eu hincwm yn uchel ac y byddech chi’n disgwyl iddynt wynebu’r didyniad mwyaf posibl, nid oes angen i chi ddarparu manylion eu hincwm. Dim ond nodi hynny ar y ffurflen.

Fodd bynnag, os ydych chi eisiau cyfradd didyniad is, bydd angen i chi nodi manylion incwm gros yr holl bobl yn eich cartref nad ydynt yn ddibynnol arnoch chi. Rhaid i ni gael y dogfennau gwreiddiol sy’n dangos eu hincwm. Mae hyn yn cynnwys y cyflogau maent yn eu hennill yn ogystal ag incwm arall fel y credyd treth gwaith, a’r llog ar unrhyw gynilion. Mae’r adrannau blaenorol yn esbonio pa dystiolaeth/gwybodaeth y mae’n rhaid ei darparu.

Nodwch mai dim ond y dogfennau gwreiddiol y gellir eu darparu fel prawf. Nid yw llungopïau’n dderbyniol. Cewch lungopïo eich dogfennau am ddim mewn unrhyw lyfrgell neu yn y Swyddfeydd Dinesig.

Pobl nad ydynt yn ddibynnol arnoch chi

Ystyr pobl nad ydynt yn ddibynnol arnoch chi yw unrhyw un 18 oed neu’n hŷn sy’n byw yn eich cartref neu’n defnyddio eich cartref fel ei brif breswylfa neu at ddibenion heb fod yn fasnachol. Nid oes yn rhaid iddo fod yn aelod o’r teulu.

Effaith pobl nad ydynt yn ddibynnol arnoch chi ar eich budd-daliadau

Os oes gennych chi rywun nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n byw gyda chi, efallai bydd eich budd-dal yn cael ei leihau.

Beth y dylech chi ei wneud os bydd rhywun nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n symud i fyw atoch chi
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd rhywun yn symud i fyw atoch chi neu’n gadael eich cartref, gan y gallai hyn effeithio ar eich budd-daliadau.

Os oes rhywun nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n byw gyda chi ac y mae ei incwm yn cynyddu neu’n lleihau mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni. Gallai hynny gynyddu neu leihau’r didyniad y mae’n rhaid i ni ei wneud. Hyd yn oed os yw’r sawl nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n cael unrhyw fath o fudd-daliadau’r wladwriaeth, bydd angen i chi roi gwybod i ni.

Sut caiff y didyniad ei gyfrifo

Mae’r llywodraeth yn nodi didyniad wythnosol ar gyfer pobl nad ydynt yn ddibynyddion, yn dibynnu ar eu hincwm gros. Po fwyaf i’w hincwm, y mwyaf yw’r didyniad o’ch budd-dal.

Achosion lle na chaiff didyniad ei wneud

Ni chaiff didyniad ei wneud os:

  • ydych chi neu’ch partner yn cael lwfans gweini
  • ydych chi neu’ch partner yn cael elfen gofal y lwfans byw i’r anabl
  • ydych chi neu’ch partner wedi’ch cofrestru fel rhywun dall
  • yw’r unigolyn nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n fyfyriwr llawn amser neu’n cael lwfans hyfforddiant seiliedig ar waith
  • yw’r unigolyn nad yw’n ddibynnol arnoch chi yn yr ysbyty am 52 wythnos neu fwy
  • nad yw’r unigolyn nad yw’n ddibynnol arnoch chi yn y carchar neu’n byw yn rhywle arall fel arfer
  • yw’r unigolyn nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n cael unrhyw fath o gredyd pensiwn

Yr wybodaeth mae’n rhaid i chi ei darparu

Bydd angen i ni weld prawf o incwm y sawl nad yw’n ddibynnol arnoch chi, megis:

  • slipiau cyflog
  • tystysgrif enillion cyflogwr wedi’i chwblhau
  • llythyr dyfarnu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • llythyr dyfarnu myfyriwr
  • cyfrifon, os yw’r sawl nad yw’n ddibynnol arnoch chi’n hunangyflogedig

Chwilio A i Y