Ymgynghoriadau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wrando ar farn trigolion ac ymateb iddi. Rydym am greu cyfleoedd i bobl leol gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.
Rydym yn croesawu ymatebion yn Gymraeg. Mae pob ymgynghoriad ar gael yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r botwm Cymraeg.
Ymgynghoriadau cyfredol
Ymgynghoriad Ysgol Egin cyfrwng Cymraeg Porthcawl a darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg
Y cynnig yw creu Ysgol Egin Cyfrwng Cymraeg (hynny yw, 'dosbarth dechrau' i 30 o leoedd cyfwerth â llawn amser ar gyfer disgyblion Meithrin a 30 o leoedd ar gyfer disgyblion Derbyn) wedi eu lleoli ar y cyd â darpariaeth gofal plant ym Mhorthcawl ar ran o dir ar safle presennol Ysgol Gynradd Porthcawl.
Dyddiad Cau: 11 Ebrill 2023
Ymgynghoriad man agored ar gyfer Glannau Porthcawl
Mae’r ymgynghoriad man agored ar gyfer Glannau Porthcawl yn gyfle i fusnesau a phreswylwyr fynegi barn ar gynigion ar gyfer y lleoliad, naill ai ar-lein neu drwy fynd i sesiynau galw heibio, lle bydd byrddau arddangos a staff y gwasanaeth adfywio yno i helpu.
Dyddiad cau: 6pm ddydd Gwener, 7 Ebrill 2023.