Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Panel y Dinasyddion

Mae’r Panel Dinasyddion yn cynnwys grŵp o bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ymgynghorir yn rheolaidd â hwy am y gwasanaethau sy’n cael eu gweithredu gan y cyngor.

Gall aelodau’r panel dderbyn hyd at dri arolwg y flwyddyn ar amrywiaeth o bynciau,  gwasanaethau a materion, yn ogystal â derbyn cylchlythyrau rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf.

Mae canlyniadau'r arolwg yn cael eu dadansoddi gan y tîm ymgynghori sy'n creu adroddiad yn tynnu sylw at y canfyddiadau allweddol. Mae pob ymateb a dderbynnir yn cael ei gynnwys ac mae’r adroddiad yn cael ei anfon at y gwasanaethau perthnasol i ystyried y canfyddiadau allweddol. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i'w helpu i gynllunio, cyflwyno ac adolygu gwasanaethau lleol.

 

Manteision bod yn rhan o’r Panel Dinasyddion

  • Rhoddir gwybod i aelodau'r panel pan fydd y cyngor yn cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ffurfiol o'r diwrnod cyntaf maent yn mynd yn fyw.
  • Yn ystod ymgynghoriadau cyhoeddus gwahoddir aelodau'r panel i fynychu digwyddiadau lle gallant drafod eu syniadau a'u pryderon gyda swyddogion gwasanaeth, aelodau’r cabinet a’r adrannau.
  • Caiff eich ymatebion eu dadansoddi a'u cynnwys mewn adroddiadau ymgynghori i'w hadolygu.
  • Mae’n sicrhau bod lleisiau niferus Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu clywed, eu hystyried a'u hintegreiddio mewn arferion bob dydd a datblygiadau yn y dyfodol.

 

Cwrdd â'r tîm

Mae’r Panel Dinasyddion yn cael ei weithredu gan y tîm Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, sy’n cydlynu ymgynghoriadau’r cyngor.

  • Zoe Edwards - Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb
  • Lucy King – Swyddog Ymgynghori ac Ymgysylltu
  • Emily Longley – Swyddog Iaith Gymraeg

Ymuno â’r Panel Dinasyddion

Mae’n hawdd dod yn aelod o’r panel, rhaid i chi fod yn breswylydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a thros 16 oed.

Gwahoddir pobl o bob oedran, hil a rhywedd i ymuno, fodd bynnag, mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl iau sydd rhwng 16 a 30 oed, fel dyfodol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - byddem wrth ein bodd yn clywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud.

Mae sawl ffordd o ymuno:

Chwilio A i Y