Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Swyddi ym maes Gofal Cymdeithasol

Mae gweithwyr gofal yn helpu pobl fregus i reoli eu gweithgareddau dyddiol ac i fyw mor annibynnol â phosibl.

Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref – Gwasanaeth Cymorth Gartref

Cyflog: £12.59 yr awr yn yr wythnos £16.78 yr awr ar y penwythnos

Dyddiad cau: 24/04/2024

Gweithiwr Gofal Cymdeithasol a Gweithiwr Gofal Nos

Cyflog: Gofal Cymdeithasol: £13.02 - £13.47 yr awr yn yr wythnos £17.36 – £17.95 yr awr ar y penwythnos Gofal Nos: £16.51 yr awr yn yr wythnos £20.64 yr awr ar y penwythnos

Dyddiad cau: 24/04/2024

Gweithiwr Cefnogi Pobl Ifanc

Cyflog: Gofal Cymdeithasol: £13.02 - £13.47 yr awr yn yr wythnos £17.36 - £17.95 yr awr ar y penwythnos Gofal Nos: £16.51 yr awr yn yr wythnos £20.64 yr awr ar y penwythnos

Dyddiad cau: 24/04/2024

Gweithiwr Gofal Cymdeithasol - Gwasanaethau Byw â Chymorth

Cyflog: £12.59 yr awr yn yr wythnos £16.78 yr awr ar y penwythnos Gweithiwr Gofal Nos £16.50 yr awr yn yr wythnos. £20.62 yr awr ar y penwythnos.

Dyddiad cau: 24/04/2024

Swyddog Datblygu'r Gweithlu - Tîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Cyflog: £20,709 - £21,710 y flwyddyn

Dyddiad cau: 24/04/2024

Swyddog Arweiniol Datblygu'r Gweithlu - Gofal Cymdeithasol Plant

Cyflog: £44,428 - £46,464 y flwyddyn

Dyddiad cau: 24/04/2024

Rhaglen Hyfforddiant Llwybrau at Ofal

Cyflog:

Dyddiad cau: 06/05/2024

Cynorthwyydd Gweinyddol Teleofal - Tîm Adnoddau Cymunedol - Mewnol yn Unig

Cyflog: £23,151.50 y flwyddyn

Dyddiad cau: 01/05/2024

Rheolwr Preswyl Cofrestredig - Bryn Y Cae - Darparwr Gofal Uniongyrchol

Cyflog: £41,418 - £43,421 y flwyddyn

Dyddiad cau: 24/04/2024

Arbenigwr Adsefydlu Golwg - Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Cyflog: £38,223 - £40,221 y flwyddyn

Dyddiad cau: 08/05/2024

Cwestiynau Cyffredin Gweithiwr Gofal Cymdeithasol

Nac oes, does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o weithio ym maes gofal cymdeithasol i gael eich cyflogi mewn rôl gwaith gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, os oes gennych chi unrhyw brofiad blaenorol o ofalu am rywun, fel aelod o'r teulu er enghraifft, cofiwch sôn am hynny yn eich cais a'ch cyfweliad.

Dim o reidrwydd. Mae angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer rhai swyddi penodol ar hyn o bryd, sef yr un gofyniad â Gweithiwr Cymdeithasol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi cofrestru gyda’r GIG. Os nad oes gennych y cymhwyster perthnasol ar hyn o bryd, byddwn yn eich cofrestru ar QCF lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae llawer o gefnogaeth yr ydym yn ei darparu i'ch helpu drwy'r holl brosesau yma, gan gynnwys cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chwblhau eich cymhwyster.

Mae chwe chwrs gorfodol y byddwch yn eu cwblhau fel rhan o'ch cyflwyniad i ofal cymdeithasol. Y rhain yw Diogelu, Symud a Thrin, Gofal a Meddyginiaeth, Cymorth Cyntaf, Rheoli Heintiau, a Chofnodi Gwybodaeth. Byddwch hefyd yn derbyn hyfforddiant gloywi yn y rhain ar yr adegau priodol, yn dibynnu ar y cwrs. Bydd hyn yn cael ei esbonio i chi fel rhan o'r hyfforddiant. Nid dyma'r cyfan sy’n rhan o'ch cyflwyniad, oherwydd mae hefyd yn cynnwys Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddwch yn cael cymorth i'w gwblhau. Mae hyn yn rhoi lefel sylfaenol o wybodaeth i chi ar gyfer gweithio naill ai ym maes gofal cymdeithasol oedolion neu blant. Byddwch hefyd yn cwblhau cyfnod o gysgodi aelodau profiadol o staff i'ch cefnogi i setlo yn y rôl. Mae hefyd ystod eang o hyfforddiant pwrpasol yn ychwanegol at yr uchod a fydd yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd arnoch eu hangen wrth gefnogi anghenion gofal a chymorth pobl.

Nac oes, nid yw hwn yn ofyniad hanfodol. Fodd bynnag, mewn rhai lleoliadau cymunedol byddai'n cael ei ffafrio.

Mae dechrau rôl fel gweithiwr gofal nid yn unig yn rhoi cyfle i ddatblygu gyrfa yn y Sector Gofal Cymdeithasol, ond hefyd ystod eang o lwybrau gyrfa eraill o fewn y Cyngor. Mae pobl sydd wedi cael eu cyflogi fel gweithwyr gofal wedi mynd ymlaen i fod yn arweinwyr tîm, rheolwyr cofrestredig, gweithwyr cymdeithasol a mwy. Yn CBS Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn cynnig cynllun secondiad i gefnogi unigolion sy'n dymuno gwneud cais a chwblhau eu gradd mewn Gwaith Cymdeithasol.

Mae llawer o fanteision o weithio i CBS Pen-y-bont ar Ogwr, fel y cynllun pensiwn, lles staff, hawl i wyliau, gweithio ar wyliau banc lle byddwch yn cael amser yn ôl yn lle hynny yn ychwanegol at eich hawl i wyliau, yr opsiwn i brynu gwyliau ychwanegol a llawer mwy.

Bydd gan bob gwasanaeth gofal ei batrymau shifft ei hun ac mae hyn yn seiliedig ar y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu ganddo. Un enghraifft o batrymau shifft a weithir mewn gwasanaethau gofal a chymorth yw 7.30am-3pm, 3-10pm a 10pm-7.30am, mae lwfans gofal nos yn cael ei dalu hefyd os ydych chi’n gweithio shifft nos rhwng 10pm a 7.30am. Mae lleoliadau cymunedol, fel ein gwasanaeth Cymorth yn y Cartref, yn gweithredu ychydig yn wahanol. Mae’r patrymau shifft yn weithredol rhwng 7.30am ac 11pm. Fodd bynnag, rhennir hyn yn ddwy shifft, o'r bore i amser cinio ac amser te i'r nos. Ni fyddai disgwyl i chi weithio’r ddwy shifft yma mewn un diwrnod o reidrwydd, ond efallai y bydd gennych gymysgedd o’r shifftiau hyn fel rhan o’ch rota wythnosol.

Ydyn, ond bydd hyn yn dibynnu ar ofynion y gwasanaeth rydych yn gweithio iddo.

Mae'n dibynnu ar y rôl ofalu rydych chi’n gwneud cais amdani. Mae gan rai gwasanaethau gontractau penodol ar gyfer gwaith shifft nos.

Efallai eich bod yn gwneud cais am rôl yn y gwasanaethau plant lle rydych yn cefnogi plant rhwng 0 a 18 oed neu wasanaethau oedolion sy’n cefnogi’r rhai rhwng 18 oed a thros 100 oed. Bydd gan blant ac oedolion lefelau amrywiol o anghenion lle mae angen gofal a chymorth yn unol â’u hanghenion a aseswyd, fel anghenion corfforol symudedd, anableddau dysgu, anghenion cyfathrebu, AAA, Dementia, ac anghenion iechyd a gofal cymdeithasol cymhleth.

Mae hyn yn dibynnu ar y rôl ofalu rydych yn gwneud cais amdani. Efallai y byddwch yn gweithio mewn lleoliad preswyl, Cymorth yn y Cartref (cartref rhywun yn y gymuned), ailalluogi yn cefnogi'r rhai sy'n gadael yr ysbyty, byw â chymorth a gwasanaethau Gofal Ychwanegol. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm o weithwyr proffesiynol aml-sgiliau fel Therapyddion Galwedigaethol, Therapyddion Corfforol, Therapyddion Lleferydd ac Iaith, Nyrsys Ardal, a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i enwi dim ond rhai.

Bydd angen i chi fod yn rhywun sy'n dangos tosturi a pharch, ac sydd â sylfaen dda o werthoedd. Bydd sgiliau cyfathrebu a gwrando yn allweddol wrth weithio yn y sector gofal cymdeithasol ac, yn bennaf oll, gwneud gwahaniaeth i fywyd person.

Oes, mae hyn oherwydd natur eich rôl. Byddwch yn cefnogi plant/oedolion bregus sydd angen gofal a chefnogaeth y bobl rydym yn gofalu amdanynt ac yn eu cefnogi. Byddwn yn trefnu hyn ar eich cyfer, ond bydd angen i chi ddarparu'r ddogfennaeth berthnasol pan ofynnir amdani.

Byw a Gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymunedau ffyniannus sy'n byw ac yn gweithio yn nhrefi marchnad prysur Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg a thref glan môr Porthcawl.

Mae pobl yng Nghymru yn adnabyddus am eu natur groesawgar, ac mae’r fwrdeistref sirol yn cynnig cartref i bobl o bob cenedl gyda grwpiau ffydd ar gyfer pob crefydd a siopau bwyd arbenigol i bob diwylliant. Mae ein bwrdeistref sirol yn le gwych i fyw, i weithio, i astudio, i ymweld â hi, neu i symud iddi.

Chwilio A i Y