Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyfleoedd cyfartal

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ymrwymedig i greu diwylliant gweithle sy'n recriwtio, yn cadw ac yn datblygu staff o gefndiroedd amrywiol. Yn ei dro mae hyn yn cynrychioli ein cymunedau, ac felly yn eu gwasanaethu'n well.

Rydym yn frwdfrydig am gydraddoldeb, yn ymrwymedig i wella ein hamrywiaeth staff, a chefnogi diwylliant cynhwysol sy'n galluogi pawb i ddod â'u hunain llawn a dilys i'r gwaith.

Rydym yn ymrwymedig i recriwtio siaradwyr Cymraeg, pobl anabl, pobl sy'n uniaethu fel LHDTC+ a phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig fel rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â diffyg cynrychiolaeth ddigonol ar draws pob lefel y sefydliad.

I ni, ystyr ‘cydraddoldeb’ yw deall a mynd i'r afael â rhwystrau fel bod pawb yn cael cyfle teg i gyrraedd eu potensial. Mae gennym drefniadau ar waith sy'n helpu i greu proses recriwtio lle gall pob ymgeisydd wneud ei orau.

 

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Rydym yn gyflogwr hyderus o ran anabledd. Mae'r cynllun hwn yn ein helpu ni i ddangos ein hymrwymiad i recriwtio a chadw pobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd am eu sgiliau a'u talentau.

Dangosir yr ymrwymiad hwn drwy amrywiaeth o arferion fel:

  • proses recriwtio gwbl gynhwysol a hygyrch
  • cynnig cyfweliad i bobl anabl sy'n bodloni meini prawf sylfaenol swydd yn unol â’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad isod
  • gwneud addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn
  • sicrhau bod staff yn ddigon ymwybodol o gydraddoldeb i bobl anabl

 

Cynllun Gwarantu Cyfweliad

Fel cyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cynnig Cynllun Gwarantu Cyfweliad. Mae hyn yn golygu ein bod yn cyfweld ymgeiswyr ag anabledd fel y cânt eu diffinio yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy'n bodloni meini prawf hanfodol swydd a hysbysebir.

Gall ymgeiswyr cymwys ddewis ymuno â'r Cynllun Gwarantu Cyfweliad wrth lenwi ffurflen gais. Os ydych yn gwneud cais dan y cynllun, rhaid i chi ddangos ar eich ffurflen gais eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y rôl yn ôl manyleb y person. Byddwn yn eich ystyried yn seiliedig ar eich galluoedd.

 

Addasiadau rhesymol

Rydym yn cefnogi ymgeiswyr i berfformio ar eu gorau. Nodwch unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen yn ystod y broses recriwtio. Os oes unrhyw beth y dylem wybod amdano cyn y cyfweliad, megis materion mynediad neu addasiadau arbennig, byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar eu cyfer.

Hefyd, mae'n rhaid i ni ystyried addasiadau rhesymol i gefnogi gweithwyr yn y gweithle. Gall hyn fod yn berthnasol i gefnogi cyflogai newydd, atal absenoldeb, neu helpu rhywun i ddychwelyd i'r gwaith.

Gellid cyflwyno addasiadau dros dro neu'n barhaol. Maent yn cynnwys:

  • addasiadau i’r gweithle
  • newid oriau/patrymau gwaith
  • addasu dyletswyddau
  • dychwelyd yn raddol

Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr, gan y bydd yr addasiadau'n amrywio yn ôl amgylchiadau'r unigolyn. Gallant hefyd gynnwys cael cymorth drwy Mynediad i Waith.

 

Monitro cydraddoldeb wrth recriwtio

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb heb ystyried eu rhyw, hil, crefydd, cred, iaith, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, beichiogrwydd neu gyfnod mamolaeth. Rydym hefyd yn annog ymgeiswyr i ddarparu gwybodaeth monitro cydraddoldeb.

Mae hyn yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogi, a'u gwella lle bo hynny'n bosibl.

Mae'r wybodaeth yn gwbl gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio at ddibenion monitro yn unig. Ni fydd yn cael ei defnyddio yn y broses ddethol. Nodwch y bydd yr wybodaeth hon yn ddarostyngedig i'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.

Chwilio A i Y