Swyddi gwag ym maes gofal cymdeithasol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo. Gallwch ddisgwyl cyfleoedd gwych ac amgylchedd gwaith cefnogol.
Gan ddibynnu ar y rôl, nid oes angen cymwysterau bob amser. Yr hyn sydd wir yn bwysig yw bod â’r gwerthoedd, yr ymddygiad a’r agweddau priodol i weithio’n effeithiol gyda phobl sydd angen gofal a chefnogaeth.
Digwyddiadau
Rhaglen Hyfforddiant Llwybrau at Ofal
Dathlu Tosturi: Cymerwch ran yn ein cwrs hyfforddiant Llwybrau at Ofal sydd ar y gweill, wedi’i lunio i rymuso’r rhai sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol, a meithrin newid cadarnhaol o ran recriwtio gweithwyr gofal.
Swyddi Gofal Cymdeithasol
Mae gweithwyr gofal yn helpu pobl fregus i reoli eu gweithgareddau dyddiol a byw mor annibynnol â phosibl.
Nid gyrfa mewn gofal oedd fy mwriad, a chwilio am yr her nesaf oedd yn bennaf gyfrifol am fy natblygiad, ond mae’n amlwg mai dyna oedd y cam gorau a gymerais erioed.
Rheolwr Cartref Gofal
Swyddi Gwaith Cymdeithasol
Mae gweithwyr cymdeithasol yn helpu i ddiogelu plant ac oedolion bregus rhag niwed neu gamdriniaeth, a chefnogi pobl i fyw’n annibynnol.
I rywun a adawodd yr ysgol gydag ychydig iawn o gymwysterau ac o’r farn na fyddwn fyth yn cael y cyfle i gwblhau gradd, rwy’n hynod o ddiolchgar am y cyfleoedd a roddodd yr awdurdod i mi.
Leon, Gweithiwr Cymdeithasol
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i alluogi pobl i gael mwy o lais a rheolaeth ar eu bywydau. Rydym yn darparu gofal a chefnogaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys eu cartrefi eu hunain neu ddarpariaeth breswyl.
Rydym eisiau penodi staff sy’n gallu gwneud y canlynol:
- darparu gofal personol a chefnogaeth i unigolion yn eu cartref eu hunain neu eu cymuned
- hybu ac annog annibyniaeth a hefyd grymuso unigolion i fynegi eu barn a’u safbwyntiau, a gwneud dewisiadau doeth
- arsylwi unigolion a llenwi dogfennau yn ôl yr angen
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd i holl weithwyr cyflogedig y Cyngor.
Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Cyswllt
Byw a Gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymunedau ffyniannus sy'n byw ac yn gweithio yn nhrefi marchnad prysur Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg a thref glan môr Porthcawl.
Mae pobl yng Nghymru yn adnabyddus am eu natur groesawgar, ac mae’r fwrdeistref sirol yn cynnig cartref i bobl o bob cenedl gyda grwpiau ffydd ar gyfer pob crefydd a siopau bwyd arbenigol i bob diwylliant. Mae ein bwrdeistref sirol yn le gwych i fyw, i weithio, i astudio, i ymweld â hi, neu i symud iddi.