Swyddi Gwaith Cymdeithasol
Mae ein gwasanaethau plant ac oedolion yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn angerddol ynglŷn â darparu ymarfer gwaith cymdeithasol o ansawdd, gyda’r amcan o feithrin perthnasau gwerthfawr gyda’n plant, teuluoedd, oedolion a gofalwyr.
Rydym wedi ymrwymo’n fawr i gefnogi a datblygu ein gweithwyr cymdeithasol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ymrwymo i gefnogi plant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wrth hefyd gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Uwch Ymarferydd - Hyb Ymyrraeth Gynnar ac Atal
Cyflog: £44,428 - £46,464 y flwyddyn
Dyddiad cau: 08/05/2024
Gweithiwr Cymdeithasol - EIPH - Gwasanaethau Tymor Byr
Cyflog: £34,834 - £43,421 y flwyddyn
Dyddiad cau: 15/05/2024
Gweithiwr Cymdeithasol - Asesiad IAA
Cyflog: £39,834 - £48,421 y flwyddyn (yn cynnwys atodiad marchnad o £5,000). Pennir man cychwyn yn unol â'r Fframwaith Dilyniant Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 15/05/2024
Gweithiwr Cymdeithasol - Hybiau Ardal y Dwyrain i Blant
Cyflog: £39,834 - £48,421 y flwyddyn (yn cynnwys atodiad marchnad o £5,000). Pennir man cychwyn yn unol â'r Fframwaith Dilyniant Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 15/05/2024
Gweithiwr Cymdeithasol - Iechyd Meddwl Fforensig
Cyflog: £33,228 - £43,421 y flwyddyn Bydd pecyn adleoli hyd at £8,000 yn cael ei ystyried ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad cau: 08/05/2024
Byw a Gweithio ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae gan Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gymunedau ffyniannus sy'n byw ac yn gweithio yn nhrefi marchnad prysur Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg a thref glan môr Porthcawl.
Mae pobl yng Nghymru yn adnabyddus am eu natur groesawgar, ac mae’r fwrdeistref sirol yn cynnig cartref i bobl o bob cenedl gyda grwpiau ffydd ar gyfer pob crefydd a siopau bwyd arbenigol i bob diwylliant. Mae ein bwrdeistref sirol yn le gwych i fyw, i weithio, i astudio, i ymweld â hi, neu i symud iddi.