Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Maer 2023 i 2024: Y Cynghorydd William Kendall

Mae gan y maer sawl rôl. Mae’n cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor ac yn cynrychioli’r cyngor a’r gymuned leol mewn achlysuron ffurfiol a seremonïol yn lleol ac mewn mannau eraill. Mae’r maer yn gweithredu fel llysgennad y fwrdeistref mewn digwyddiadau fel y rhain:

  • seremonïau dinasyddiaeth ar gyfer trigolion sy’n cwblhau'r broses o ddod yn ddinesydd Prydeinig
  • seremonïau dinesig
  • digwyddiadau ar gyfer sefydliadau elusennol/gwirfoddol
  • digwyddiadau sy’n cydnabod cyflawniadau trigolion y fwrdeistref a staff y cyngor
  • derbyniadau ac achlysuron yn y swyddfa ddinesig ar gyfer digwyddiadau arbennig ac ar gyfer ymwelwyr â Phen-y-bont ar Ogwr
  • ymweliadau brenhinol

Mae'r dirprwy faer yn gweithredu fel cynrychiolydd y maer ym mhob digwyddiad, gan gynnwys cadeirio’r Cyngor os nad yw’r maer ar gael.

Cysylltu

Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643132 / 643130
Cyfeiriad: Parlwr y Maer, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer

Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer yw’r gwobrau cymunedol blynyddol mwyaf mawreddog sy’n dathlu dinasyddion eithriadol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rhowch rodd

Os hoffech chi roi rhodd i Gwasanaeth Ambiwlans Awyr, un o elusennau dewisol y Maer, cwblhewch ffurflen rodd ar-lein.

Ymweliad Maerol ar achlysuron a phen-blwyddi

Ar dderbyn gwahoddiad, bydd y maer yn ymweld â phreswylwyr sy’n dathlu achlysur o 60, 65 neu 70 mlynedd o briodas, neu eu pen-blwydd yn 100 a 105 blwydd oed - a phob pen-blwydd wedi hynny.

Protocol ar gyfer cwrdd â’r Maer

Maer: Anrhydeddus Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cynghorydd Enw Cyntaf Cyfenw)

Maeres neu gymar: Cymar (Teitl Enw Cyntaf Cyfenw)

Dirprwy Faer: Dirprwy Faer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cynghorydd Enw Cyntaf Cyfenw)

Dirprwy Faeres neu gymar: Cymar (Teitl Enw Cyntaf Cyfenw)

Mae maer gwryw yn cael ei alw yn ‘Mr Maer’ ac mae maer benyw, maeres, yn cael ei galw yn ‘Madam Maer’.

Y Maer sy’n cael blaenoriaeth ledled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Dim ond Arglwydd Raglaw neu aelod o’r teulu brenhinol sydd uwch nag ef. O ran eistedd, dylai safle'r Maer fod yn union i'r dde o'r person sy'n llywyddu, ac eithrio pan fo'r Maer yn y gadair honno. Pan fydd y Dirprwy Faer yn gweithredu ar ran y Maer, dylai gael yr un flaenoriaeth.

Dylai person enwebedig gwrdd â’r Maer wrth y fynedfa, a’i gyflwyno i’r sawl sy’n llywyddu. Bydd gyrrwr personol gyda’r Maer, a fydd ar ddyletswydd ac wrth law bob amser.

Os oes gofyn i’r Maer siarad, ef fydd yn siarad yn gyntaf neu'n gysylltiedig â'r llwncdestun cyntaf fel arfer. Dylech ofyn a yw’r Maer yn fodlon siarad ymhell o flaen llaw. Rhowch wybodaeth/bwyntiau am yr anerchiad ar y ffurflen manylion digwyddiad, ac os yw'n bosibl, ceisiwch gynnwys gwybodaeth am gefndir y digwyddiad. Dylid anfon yr holl wybodaeth am y digwyddiad i swyddfa’r Maer ei chymeradwyo gan nodi manylion unrhyw weithgareddau sy'n cynnwys y Maer.

Mae gan y Maer ddyletswydd ddinesig i gynrychioli a hyrwyddo Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Maer bob amser yn awyddus i gefnogi digwyddiadau ac achosion lleol sy’n codi proffil Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’i phobl, yn lleol a thu hwnt.

I wahodd y Maer i ddigwyddiad cysylltwch â swyddfa'r Maer cyn gynted â phosibl. Mae'r Maer yn brysur dros ben ac nid yw bob amser yn gallu bod yn bresennol mewn digwyddiadau ar fyr rybudd. Er hynny, byddwn bob amser yn ateb eich gwahoddiad i nodi a yw wedi'i dderbyn ai peidio.

Yn gyntaf, dylech holi a yw’r Maer ar gael drwy ffonio 01656 643132 neu 643130.

 

Dylech wahodd y Maer yn ysgrifenedig. Dechreuwch eich llythyr gydag ‘Annwyl Faer', a’i orffen gyda ‘Yn gywir’. Dylai’r gwahoddiad gynnwys y wybodaeth ganlynol am y digwyddiad:

  • dyddiad
  • lleoliad
  • gofynion arbennig, a oes angen rhoi anerchiad, cyflwyniadau ac ati.
  • amser
  • yn ogystal â natur y digwyddiad

Ar ôl i’r Maer dderbyn y gwahoddiad, caiff ‘ffurflen manylion digwyddiad' ei hanfon atoch i'w llenwi.

E-bost: mayor@bridgend.gov.uk  

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Parlwr y Maer
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB        

 

Rôl y maer

Mae gan y maer sawl rôl. Mae’n cadeirio cyfarfodydd llawn y Cyngor ac yn cynrychioli’r cyngor a’r gymuned leol mewn achlysuron ffurfiol a seremonïol yn lleol ac mewn mannau eraill. Mae’r maer yn gweithredu fel llysgennad y fwrdeistref mewn digwyddiadau fel y rhain:

  • seremonïau dinasyddiaeth ar gyfer trigolion sy’n cwblhau'r broses o ddod yn ddinesydd Prydeinig
  • seremonïau dinesig
  • digwyddiadau ar gyfer sefydliadau elusennol/gwirfoddol
  • digwyddiadau sy’n cydnabod cyflawniadau trigolion y fwrdeistref a staff y cyngor
  • derbyniadau ac achlysuron yn y swyddfa ddinesig ar gyfer digwyddiadau arbennig ac ar gyfer ymwelwyr â Phen-y-bont ar Ogwr
  • ymweliadau brenhinol

Mae'r dirprwy faer yn gweithredu fel cynrychiolydd y maer ym mhob digwyddiad, gan gynnwys cadeirio’r Cyngor os nad yw’r maer ar gael.

Gweld disgrifiad swydd y maer a’r dirprwy faer.

Mae gan ddinasoedd fel Caerdydd ac Abertawe Arglwydd Feiri, ond meiri sydd gan fwrdeistrefi sirol fel Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gan ein meiri rôl anweithredol ac anwleidyddol. Felly, maent yn wahanol iawn i feiri sy’n cael eu hethol yn uniongyrchol, fel Maer Llundain. Mae’r maer yn bennaeth dinesig ac yn cynrychioli’r fwrdeistref fel dinesydd cyntaf mewn rôl sy’n un seremonïol.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr weithrediaeth ar ffurf Arweinydd a Chabinet. Mae Arweinydd y Cyngor a’i gabinet yn cyfarwyddo'r cyngor, gyda phwyllgorau craffu’n monitro penderfyniadau’r cabinet yn fanwl. Mae aelodau'r Cabinet yn penderfynu ar bolisi ac yn cyflwyno eu penderfyniadau ger bron y Cyngor llawn.
Dyma swydd y maer yng nghyfarfodydd y Cyngor:

  • cadeirio’r cyfarfodydd
  • sicrhau bod pob eitem agenda’n cael ei thrafod yn deg
  • sicrhau bod pobl yn cadw at reolau trafod y fwrdeistref

Yn y Cyngor llawn, mae’n anarferol i'r maer siarad am fater, oherwydd mae’n rhaid iddo fod yn ddiduedd. Fodd bynnag, os oes angen, mae ganddo bleidlais benderfynu ar faterion.

Mae baich gwaith y maer yn gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n dibynnu ar beth sy’n digwydd yn ystod ei dymor gwasanaethu, ei ddiddordebau a’i amgylchiadau personol, fel a yw’n gweithio, wedi ymddeol, neu oes ganddo gyfrifoldebau gofalu. Mae ei “apwyntiadau” yn cynnwys cymysgedd o’r canlynol:

  • mynychu seremonïau dinasyddiaeth ar gyfer trigolion y fwrdeistref sy’n cwblhau'r broses o ddod yn ddinesydd Prydeinig
  • mynychu digwyddiadau cymunedol lleol
  • mynychu perfformiadau a chyngherddau
  • achlysuron dinesig ar gyfer pobl bwysig sy’n ymweld, fel aelodau o'r teulu brenhinol
  • cyfarfodydd fel cadeirio’r Cyngor llawn, neu gyfarfodydd o bwyllgorau elusennau
  • adeiladau sydd wedi’u hagor o’r newydd neu adeiladau sydd wedi’u hadnewyddu
  • cyflwyno gwobrau a dyfarniadau
  • cyflwyno Dyfarniadau Dinasyddiaeth y Maer
  • cynrychioli’r fwrdeistref mewn digwyddiadau sy’n cael eu cynnal mewn ardaloedd eraill
  • ymweliadau fel ymweld â thrigolion y fwrdeistref sy’n dathlu pen blwyddi priodas arbennig, neu ben blwyddi arbennig, ysgolion, wardiau ysbyty, cartrefi preswyl, a chanolfannau dydd adeg y Nadolig

Rheolau swydd y maer

Mae’r maer yn aelod o’r cyngor bob amser. Mae cydweithwyr o’i blaid wleidyddol yn ei wahodd i sefyll ac, os caiff ei ethol, mae’n dal swydd y maer am flwyddyn. Yn aml, mae’r maer wedi bod yn ddirprwy faer yn ystod y flwyddyn flaenorol. Etholir y dirprwy faer newydd ar yr un pryd â’r maer.

Pleidleisir dros faer yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, sydd ym mis Mai fel rheol. Pan mae gan y Cyngor fwyafrif clir, gall yr ymgeisydd ddisgwyl cael ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Fodd bynnag, os oes mwy nag un ymgeisydd am swydd y maer a’r dirprwy faer, gall yr etholiad fod yn agos iawn, a gellir cael Cyngor crog.

Gellir ethol unrhyw gynghorydd o’r naill ryw neu’r llall yn faer neu’n ddirprwy faer. Y maer a'r dirprwy faer sy’n penodi eu cyfaill. Gallant ddewis priod, partner, mab, merch neu ffrind.

Nid yw yn erbyn y rheolau ond, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, dim ond am flwyddyn mae maer yn dal y teitl fel rheol.

Mae’r maer a’r consort yn gwisgo eu cadwyni pan maent yn mynychu digwyddiadau ar ran y Cyngor. Mae’r maer bob amser yn gwisgo’r gadwyn ar fusnes swyddogol, oni bai y gwneir cais penodol iddo beidio â gwneud hynny. Mae dirprwy feiri’n gwisgo eu cadwyn pan maent yn cynrychioli’r maer.

Ar ddiwedd eu tymor gwasanaethu, caiff pob maer a chonsort fedalau ‘cyn faer’. Mae ganddynt hawl i wisgo'r medalau hyn mewn digwyddiadau dinesig ac os gofynnir iddynt weithredu fel cynrychiolydd y maer mewn digwyddiad.

Ystafell yn y Swyddfeydd Dinesig yw Parlwr y Maer sy’n cael ei defnyddio ar gyfer cyfarfod pobl bwysig a gwesteion eraill. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r maer wedi rhoi croeso swyddogol i'r parlwr i westeion o Zambia, Canada, Japan, Ffrainc, Rwsia, Sweden, Norwy, Ecwador a llawer o wledydd eraill.

Mae’r parlwr yn arddangos detholiad o roddion mae’r meiri wedi’u derbyn, gan gynnwys platiau coffa, placiau, sgroliau a ffotograffau o ddigwyddiadau cofiadwy, fel jiwbilîs y Frenhines.

Mae’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi'r maer, a’r dirprwy faer.

Mae pob cynghorydd yn derbyn cyflog sylfaenol. Ond eto mae'r maer a’r dirprwy faer yn derbyn tâl ychwanegol i alluogi iddynt gyflawni eu dyletswyddau ychwanegol.

Chwilio A i Y