Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer
Enwebiadau nawr ar gau
Gwobrau Dinasyddiaeth y Maer yw’r gwobrau cymunedol blynyddol mwyaf mawreddog sy’n dathlu dinasyddion eithriadol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r Gwobrau yn agored i bob dinesydd sy’n byw neu’n gweithio yn y fwrdeistref sirol.
Rhaid i enwebeion fyw, gweithio, neu fod wedi'u lleoli yn lleol, ac wedi dangos y math o werthoedd sy'n gwneud Pen-y-bont ar Ogwr yn wych. Efallai eu bod wedi gwneud y canlynol:
- codi swm rhagorol o arian i elusen
- cyflawni gweithred o ddewrder mawr
- mynd yr ail filltir er mwyn eraill yn rheolaidd
- rhoi’r ardal leol ar y map
- cyflawni rhywbeth arbennig iawn yn ystod y 18 mis diwethaf
Rhaid i enwebiadau gyd-fynd â’r meini prawf a nodir yn unrhyw un o’r tri chategori:
Unigolyn eithriadol sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’w gymuned, naill ai drwy wirfoddoli, codi arian at elusen, cyflawni gweithred o ddewrder, cyflawniad rhagorol, neu drwy helpu i roi ei gymuned ar y map mewn ffordd gadarnhaol.
Grŵp (dau berson neu fwy) sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i’w cymuned, naill ai drwy wirfoddoli ar y cyd, codi arian i elusen, cyflawni gweithred o ddewrder, cyflawniad rhagorol, neu drwy helpu i roi eu cymuned ar y map mewn ffordd gadarnhaol .
Busnes lleol sydd wedi cael effaith naill ai drwy weithio gyda chymuned i wella’r hyn sydd o’i hamgylch neu drwy noddi cyfleuster , tîm neu sefydliad cymunedol. Fel arall, efallai bod y busnes wedi gwneud peth gwaith codi arian rhagorol i elusen.
Meini Prawf
- Dim ond am un dyfarniad y flwyddyn mae enwebeion yn gymwys.
- Dim ond ar gyfer cyflawniadau newydd y gellir enwebu cyn enillwyr.
- Mae'r gwobrau hyn yn agored i bob dinesydd. Fodd bynnag, rhaid i bobl a enwebir am waith cyflogedig fod wedi gwneud gwaith eithriadol y tu hwnt i ddisgwyliadau eu swydd.
Sylwch bod pob dyfarniad o werth cyfartal.