Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymweliadau gan y Maer ar ben-blwyddi a dathliadau eraill

Ar dderbyn gwahoddiad, bydd y maer yn ymweld â phreswylwyr sy’n dathlu achlysur o 60, 65 neu 70 mlynedd o briodas, neu eu pen-blwydd yn 100 a 105 blwydd oed - a phob pen-blwydd wedi hynny.

Yn rhan o’r diwrnod, bydd y chauffeur yn tynnu eich llun, ar gyfer eich albwm personol chi a’r maer yn unig.

Os dymunwch gael papur newydd yn bresennol, bydd angen i chi gysylltu â nhw’n uniongyrchol.

Gwnewch gais am ymweliad Maerol 

I wneud cais am ymweliad maerol, cysylltwch â Pharlwr y Maer.

Er mwyn i’r maer gael bod yn ymwybodol o bwy mae’n ymweld, byddwn yn gofyn am ychydig o wybodaeth gefndirol. Mae’r wybodaeth yn gwbl gyfrinachol ac er defnydd y maer yn unig.

Neges gan Balas Buckingham ar achlysuron

Bob blwyddyn, maent yn anfon miloedd o gardiau ar gyfer pen-blwyddi a phen-blwyddi priodas i’r rheiny sy’n dathlu achlysuron arbennig.

Gallwch wneud cais am neges arbennig gan y palas ar-lein.

Chwilio A i Y