Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft 2022-2032

Y nod yw cael sylwadau gan breswylwyr, ein gweithlu, aelodau etholedig a rhanddeiliaid ar y CSCA arfaethedig ar gyfer 2022-2032.

Caiff canlyniadau’r ymgynghoriad hwn eu defnyddio i baratoi’r CSCA terfynol a fydd yn cael ei roi ar waith ym mis Medi 2022.

Amcanion Cynllun drafft Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA)

I ddatblygu amcanion y Gymraeg byddwn yn ymgysylltu â phreswylwyr, aelodau etholedig a rhanddeiliaid ac yn defnyddio’r wybodaeth a’r polisïau perthnasol. Mae manylion amcanion drafft ein CSCA isod:

Amcan un: Nifer gynyddol o blant meithrin/tair oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Amcan dau: Nifer gynyddol o blant oedran derbyn/pump oed yn cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg

Amcan tri: Nifer gynyddol o blant yn parhau i wella’u sgiliau Cymraeg wrth drosglwyddo o un cam o’u haddysg statudol i’r llall

Amcan pedwar: Nifer gynyddol o ddysgwyr yn astudio ar gyfer cymhwyster a gaiff ei asesu yn y Gymraeg (y pwnc) a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg

Amcan pump: Mwy o gyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol

Amcan chwech: Cynnydd yn y ddarpariaeth ar gyfer addysg Gymraeg i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) (yn unol â’r dyletswyddau a osodir gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Amcan saith: Cynnydd yn nifer y staff addysgu sy’n gallu dysgu Cymraeg (y pwnc) ac yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r amcanion hyn? Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am yr amcanion neu'r cynigion hyn ar gyfer amcanion eraill? Cymerwch ran yn ein hymgynghoriad i leisio eich barn.

Am fwy o wybodaeth, darllenwch ddogfen ymgynghori Amcanion Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA) (doc. 301KB)

Sut i ymateb

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Cysylltu

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel,, CF31 4WB..

Chwilio A i Y