Ymgynghoriadau
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i wrando ar farn trigolion ac ymateb iddi. Rydym am greu cyfleoedd i bobl leol gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.
Rydym yn croesawu ymatebion yn Gymraeg. Mae pob ymgynghoriad ar gael yn Gymraeg drwy ddefnyddio’r botwm Cymraeg.
Ymgynghoriadau cyfredol
Ymgynghoriad Neilltuo Porthcawl
Ar 20 Gorffennaf 2021, gwnaeth Cabinet y Cyngor benderfyniad “mewn egwyddor” i feddiannu o tua 19.84 hectar o dir ym Mae Sandy a Pharc Griffin at ddefnyddiau amgen, er mwyn adfywio glannau Porthcawl yn unol â’r Cynllun Datblygu Lleol a’r Strategaeth Creu Lleoedd a gymeradwywyd yn ddiweddar.
Dyddiad cau: 27 Mehefin 2022
Ymgynghoriad Strategaeth Di-Garbon Net
Fel sefydliad, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i'r targed Sero Net 2030 ac yn cydnabod ei rol arweiniol i alluogi a hwyluso camau gweithredu Sero Net ehangach ar gyfer busnesau a chymunedau'r sir.
Dyddiad cau: 30 Awst 2022