Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Os ydych chi’n cael problemau gydag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ffoniwch 101 neu e-bostiwch swp101@south-wales.police.uk.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os mai mater i’r cyngor yw hwn, fel taflu sbwriel yn anghyfreithlon, dylech gysylltu â’r cyngor.

Os yw’n fater amddiffyn y cyhoedd, er enghraifft, llygredd sŵn, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir.

 

Beth yw Ymddygiad gwrth-gymdeithasol?

Mae Deddf Troseddau ac Anhrefn 1998 yn diffinio ymddygiad gwrth-gymdeithasol fel gweithredu mewn ffordd sy’n achosi neu’n debygol o achosi “aflonyddwch, pryder neu ofid i un neu fwy o bobl, heb fod o’r un teulu”.

Dyma esiamplau o ymddygiad gwrth-gymdeithasol:

  • cymdogion sy’n niwsans, swnllyd neu anystyriol
  • fandaliaeth, graffiti ac arwyddion anghyfreithlon
  • yfed ar y stryd neu anhrefn cysylltiedig ag alcohol
  • ymddygiad sy’n cam-drin
  • difrod amgylcheddol, gan gynnwys sbwriel, taflu sbwriel yn anghyfreithlon a gadael ceir
  • defnydd anystyriol neu amhriodol o gerbydau
  • gweithgarwch cysylltiedig â phuteiniaid
  • begera a chardota
  • camddefnyddio tân gwyllt

Ochr yn ochr â’n hasiantaethau diogelwch cymunedol partner, mae gennym gyfrifoldeb i ddelio ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol a helpu pobl sy’n dioddef ohono.

Mae’r bartneriaeth diogelwch cymunedol yn cydlynu ymateb amlasiantaeth i adroddiadau am ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Nid yw’r cyhoedd yn gallu cyfeirio atom ni; rhaid iddynt roi gwybod am achosion o ymddygiad gwrth-gymdeithasol i un o’n sefydliadau partner, fel yr heddlu.

Rydym yn derbyn adroddiadau am ymddygiad gwrth-gymdeithasol gan asiantaethau partner, gan gynnwys ysgolion, yr heddlu, y gwasanaeth iechyd a chymdeithasau tai.

 

Sbardun Cymunedol De Cymru/Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol

Mae Sbardun Cymunedol De Cymru’n/Adolygiad Achos Ymddygiad Gwrth-Gymdeithasol rhoi i ddioddefwyr ymddygiad gwrth-gymdeithasol yr hawl i gael adolygu eu hachos.

Gall rhywun sydd wedi profi ac adrodd am dri digwyddiad o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn chwe mis neu un digwyddiad neu drosedd wedi'i ysgogi gan gasineb (digwyddiad casineb/trosedd) a adroddwyd gan un person ddechrau adolygiad o'i achos.

Nid yw Adolygiad Achos ASB yn broses gwyno. Os ydych am wneud cwyn am ymddygiad unigolyn neu sefydliad, rhaid i chi ddefnyddio trefn gwyno'r sefydliad penodol hwnnw.

Mae mwy o wybodaeth am sbardunau cymunedol ar gael ar wefan comisiynydd yr heddlu.

Gallwch gysylltu â’ch cydlynydd sbardun cymunedol ar gyfer bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddefnyddio’r wybodaeth ganlynol.

Cyswllt

Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol
Ffôn: 01656 306051

Chwilio A i Y