Tipio anghyfreithlon
Dympio gwastraff yn anghyfreithlon yw tipio anghyfreithlon. Gallai hyn fod ar ymyl y ffordd, ar dir preifat neu mewn afonydd.
Mae’n drosedd a gellir rhoi dirwy o hyd at £50,000 i unrhyw un a geir yn euog o dipio anghyfreithlon, yn ogystal â wynebu hyd at chwe mis yn y carchar. Gall hyn gael ei gynyddu i bum mlynedd os caiff gwastraff peryglus ei ddympio, megis gwastraff gwenwynig neu asbestos. Os caiff ei euogfarnu yn llys y goron, mae'r dirwyon heb derfyn a gellir gorfodi dedfryd o hyd at bum mlynedd.
Mae hefyd yn anghyfreithlon i berchennog neu feddiannwr tir ganiatáu i rywun ddympio sbwriel ar eu tir os nad oes ganddynt drwydded rheoli gwastraff neu eithriad.
Mae’n rhaid i breswylwyr gymryd gofal wrth gyflogi masnachwyr neu gontractwyr sy’n symud unrhyw wastraff o’u heiddo. Gallant gael dirwy o hyd at £5,000 os caiff eu sbwriel ei dipio’n anghyfreithlon, hyd yn oed os na wnaethant ei ddympio eu hunain.
Sut i atal tipio anghyfreithlon
Defnyddiwch gludwr gwastraff cofrestredig i symud gwastraff. Os byddwch yn defnyddio cwmni preifat, sicrhewch eich bod yn:
- gofyn i weld ei dystysgrif. Mae’n rhaid iddo fod yn gludwr gwastraff cofrestredig neu eithriedig i gymryd eich gwastraff i ffwrdd. Gallwch wneud hyn ar-lein ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
- gofynnwch iddynt lle byddant yn mynd â'r gwastraff. Dylai fod i safle awdurdodedig un unig. Ni fydd ots gan gludwr gwastraff cyfreithlon eich bod yn gofyn cwestiynau.
Os mai busnes ydych chi, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cael Nodyn Dyletswydd Gofal Trosglwyddo Gwastraff gan y cludwr gwastraff.
Os byddwch yn gweld sbwriel yn cael ei dipio’n anghyfreithlon
Os byddwch yn gweld sbwriel yn cael ei dipio’n anghyfreithlon, bydd yn ddefnyddiol gwybod:
- ble digwyddodd y digwyddiad
- dyddiad ac amser
- disgrifiad o’r hyn gafodd ei dipio a faint
- beth ddigwyddodd, faint o bobl oedd yn cymryd rhan, sut olwg oedd arnynt a beth wnaethon nhw
- a oedd cerbyd yn rhan ohono ac os felly, manylion y cerbyd
Peidiwch â mynd at unrhyw un y gwelwch chi’n tipio’n anghyfreithlon eich hun rhag ofn bod y sefyllfa’n mynd yn waeth.
Tipio’n anghyfreithlon ar dir preifat
Os caiff sbwriel ei dipio ar dir preifat ac nad oes unrhyw dystiolaeth o bwy a'i ddympiodd, gellir cymryd camau gweithredu yn erbyn perchennog neu feddiannwr y tir:
- os caniataodd y perchennog neu’r meddiannwr i rywun ddympio sbwriel ar ei dir
- os yw’r sbwriel yn denu fermin megis llygod mawr neu'n peryglu iechyd (nodwch nad yw hyn yn cynnwys y perygl o anaf).
Sut i adrodd am dipio anghyfreithlon
I roi gwybod am dipio anghyfreithlon ar dir o eiddo’r cyngor neu dir cyhoeddus, cysylltwch â ni.
I roi gwybod am dipio anghyfreithlon ar dir preifat, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir.