Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Troseddau Casineb

Beth yw Troseddau Casineb?

Mae troseddau casineb yn droseddau sy’n targedu person oherwydd atgasedd neu ragfarn tuag at y canlynol:

  • anabledd
  • hil neu ethnigrwydd
  • crefydd neu gred
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • hunaniaeth drawsrywiol

Gellir cyflawni trosedd casineb yn erbyn person neu eiddo. Gall hyn gynnwys y canlynol:

  • cam-drin geiriol
  • codi ofn
  • bygythiadau
  • aflonyddu
  • ymosod
  • bwlio
  • difrod i eiddo

Rhoi gwybod am drosedd casineb

Mae sawl ffordd i chi roi gwybod am drosedd casineb, fel dioddefwr, tyst neu ar ran rhywun arall.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

I roi gwybod am drosedd heb fod yn frys, ffoniwch 101.

Mae dioddefwyr yn cael eu hannog i gysylltu â’r heddlu bob amser ond efallai y byddwch eisiau rhoi gwybod am y digwyddiad yn uniongyrchol i’r gwasanaeth Cymorth i Droseddwyr. Bydd gwasanaethau cefnogi’n cael eu cynnig o fewn 48 awr.

Chwilio A i Y