Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cymorth i ddysgwyr

Rydym am i chi elwa i'r eithaf ar eich dysgu. Rydym yn gwneud ein gorau i gefnogi dysgwyr i oresgyn rhwystrau sydd yn eu hatal rhag cyrraedd eu potensial. Trafodwch unrhyw broblemau gyda'ch tiwtor wrth i chi gwblhau eich Cynllun Dysgu Unigol.

Neu, os nad ydych yn gallu trafod rhywbeth gyda'ch tiwtor, cysylltwch â'n swyddfa ganolog gan ddefnyddio'r manylion isod. Byddwn yn ceisio gweithio gyda chi i roi'r cymorth sydd ei angen arnoch.

Mae gennym offer i gefnogi dysgwyr sydd â dyslecsia ac anghenion llythrennedd. Mae'r dewisiadau yn cynnwys cael ysgrifennydd os nad ydych yn gallu rhoi atebion yn ysgrifenedig, ac rydym yn cynnig cymorth gyda llythrennedd a rhifedd drwy gyrsiau am ddim.

Dim iPad? Dim problem! - Os hoffech chi gael mynediad at un o'n cyrsiau ar-lein ond nad oes gennych ddyfais addas neu gysylltiad Wifi, cysylltwch â ni, oherwydd gallwn eich cefnogi gyda hyn efallai. Mae gennym amrywiaeth o ddyfeisiau cludadwy, ychwanegiadau symudol a chysylltiadau Wifi cludadwy y gellir eu benthyca pan fo angen. 

Ceisiwch gymorth

Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’n tîm Dysgu Cymunedol i Oedolion:

Ffôn: 01656 642746
Cyfeiriad: Lefel 3, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
Dydd Mawrth i Ddydd Iau 9am i 3.30pm. (Mae peiriant ateb yn gweithredu tu allan i'r oriau hyn).

Chwilio A i Y