Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor ar ddigartrefedd ac atal digartrefedd

Mae bod yn ddigartref yn bryder mawr ac yn achosi llawer o straen, neu’n creu risg o hynny. Po gyntaf yr ydyn ni’n gwybod am eich sefyllfa chi, y mwyaf tebygol ydyw y gallwn ni helpu, a’ch atal chi rhag bod yn ddigartref.

Cofiwch ddweud wrthyn ni cyn gynted â phosib os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n dod yn ddigartref.

Pobl sy’n wynebu bygythiad o ddigartrefedd

Ystyr ‘bygythiad o ddigartrefedd’ yw na fydd gennych chi gartref o fewn y 56 diwrnod nesaf.

Er enghraifft, efallai bod gennych chi gartref nawr, ond os gofynnir i chi adael, gallech wynebu ‘bygythiad o ddigartrefedd’. Os ydych chi’n wynebu risg o ddigartrefedd, mae gennych chi hawl i gymorth cynnar.

Gallwch ein hysbysu ni ar-lein drwy’r Porth Tai

Ar ôl creu cyfrif, gallwch hefyd:

  • gweld eich Cynllun Tai Personol ar-lein yn hwylus, sy’n fap ffordd y byddwn yn ei greu i’ch helpu chi i gael llety
  • cael gwybod pa wybodaeth sydd raid i chi ei rhoi i ni er mwyn i ni allu eich helpu chi
  • diweddaru eich gwybodaeth gyswllt fel ein bod yn gallu cael gafael arnoch chi i ddarparu help pan mae angen
  • rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni am eich cynnydd gyda’r tasgau rydyn ni wedi’u rhoi i chi, sy’n haws ei wneud ar-lein

Fel arall, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Ffôn: 01656 643643
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

StreetLink

Os ydych chi'n poeni am rywun rydych chi wedi'i weld yn cysgu ar y stryd, gallwch roi gwybod drwy ddefnyddio ap neu wefan StreetLink.

Bydd y manylion a roddwch yn cael eu hanfon at yr awdurdod lleol neu gymorth allgymorth a fydd yn ceisio dod o hyd i'r unigolyn a'i gysylltu â chymorth

Beth sy’n digwydd nesaf

Pan fyddwch yn ein hysbysu, byddwch yn gallu cwblhau rhai o adrannau’r cais eich hun. Ond ni allwch gwblhau’r cais yn gyflawn cyn i ni ddweud wrthych chi y bydd Cynghorydd Datrysiadau Tai yn cysylltu â chi i gwblhau’r gweddill. Bydd y Tîm Datrysiadau Tai yn cael gwybod pan fyddwch yn ein hysbysu ni am fod yn ddigartref neu am fygythiad o hynny.

Ymhen 48 awr, bydd y cynghorydd yn cysylltu â chi i drafod eich sefyllfa dros y ffôn neu i’ch gwahodd i gyfarfod yn y Swyddfeydd Dinesig. Yn y cyfarfod, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • gwrando arnoch chi a chael yr holl wybodaeth y mae arnom angen ei gwybod am eich sefyllfa
  • cwblhau asesiad o’ch sefyllfa a gweithio gyda chi i adnabod pa gamau sydd angen eu cymryd er mwyn datrys eich problem tai
  • gofyn i chi ddarparu rhywfaint o waith papur efallai

I’ch helpu chi, rhaid i chi fod yn agored a gonest gyda ni a’n helpu drwy roi’r wybodaeth rydym yn gofyn amdani. Fe fyddwn ni hefyd yn agored a gonest gyda chi. Cofiwch grybwyll unrhyw broblemau penodol y dylem fod yn ymwybodol ohonyn nhw yn eich barn chi. Gall y rhain gynnwys:

  • dyled
  • anawsterau dysgu
  • problemau iechyd meddwl
  • unrhyw beth arall sy’n bwysig yn eich barn chi

Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd gyda’ch achos.

Mae hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa chi. Os ydych chi’n wynebu risg o ddigartrefedd, efallai y byddwn yn eich helpu chi i aros yn eich cartref. Ond ni fyddwch yn cael eich gorfodi i aros os nad dyma’r opsiwn addas. Hefyd efallai y byddwn yn eich helpu chi drwy chwilio am lety arall. Os nad yw hyn yn bosib, byddwn yn eich helpu chi i ddod o hyd i rywle arall i fyw sy’n addas i’ch anghenion chi.

Byddwn yn gweithio gyda chi i greu Cynllun Tai Personol gyda phob cam ar gyfer datrys eich problem dai. Ond efallai na fyddwn yn gallu nodi’r holl gamau ar unwaith. Os na allwn lunio’r cynllun ar unwaith, rydym yn addo dod yn ôl atoch chi cyn gynted â phosib. Bydd yr union gamau’n dibynnu ar eich amgylchiadau, a gall gynnwys camau gweithredu fel y rhain:

  • siarad gyda’ch landlord i geisio sortio unrhyw broblemau
  • cyfryngu i ddatrys anghydfod teuluol
  • help gyda chostau sefydlu ar gyfer tenantiaeth newydd
  • eich cyfeirio chi at wasanaethau cefnogi

Os oes arnoch chi angen rhywle arall i fyw, efallai y byddwn yn edrych i weld a oes llety rhent preifat addas a fforddiadwy ar gael i chi.

Os ydym yn cytuno eich bod yn ddigartref, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol ac yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i lety addas a fforddiadwy. Mae gennym ni 56 diwrnod i wneud hyn.

Os oes arnoch chi angen llety ar unwaith, bydd rhaid i ni ystyried a ydych yn gymwys am lety dros dro. Byddwn yn ei ddarparu os ydym yn credu eich bod mewn ‘grŵp angen blaenoriaeth’ sydd ag angen penodol am help yn ôl y gyfraith. Bydd y cynghorydd yn trafod a ydych chi yn y grŵp hwn ai peidio.

Ym mhob cam o’ch digartrefedd, byddwn yn anfon llythyr cynghori atoch chi sydd ar gael ar y Porthol Jig-sô Tai.

 

Os yw eich cynghorydd wedi gwneud popeth mae wedi’i ddweud y byddai’n ei wneud, byddwn yn parhau i’ch helpu chi i chwilio am gartref newydd, ar yr amod:

  • eich bod wedi gwneud popeth mae’r cynghorydd wedi gofyn i chi ei wneud
  • nad yw’r digartrefedd oherwydd unrhyw fai ar eich rhan chi

Hefyd byddwn yn ymchwilio ac yn cadarnhau a ydych chi mewn ‘grŵp angen blaenoriaeth’.

 

 

Chwilio A i Y