Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cofrestr tai

Mae pedair prif gymdeithas dai Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio un gofrestr tai er mwyn neilltuo tai cymdeithasol. Yr enw ar y gofrestr yma yw Cofrestr Tai Cyffredin Pen-y-bont ar Ogwr.

Gall unrhyw un wneud cais am dai rhent cymdeithasol. Yn gyffredinol, rhaid i chi fod yn gymwys ac mewn angen tŷ er mwyn cael eich ychwanegu at y gofrestr. Hefyd gallech gael eich ychwanegu os ydych eisiau byw mewn ardal galw isel, neu os ydych yn bodloni gofynion y Polisi Gosod Lleol. Mae'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol yn manylu ar beth sy’n cyfrif fel angen am dŷ ar dudalennau wyth a naw, ac mae’n esbonio sut mae tai rhent cymdeithasol yn cael eu neilltuo.

Os na chewch eich ychwanegu at y gofrestr tai cyffredin, byddwn yn rhoi cyngor i chi am yr opsiynau eraill sydd ar gael i chi efallai o ran tai. Hefyd gallwch ofyn i ni adolygu ein penderfyniad.

Gwneud cais i fod ar y gofrestr tai

Ewch i'r Porth Housing Jigsaw i greu cyfrif. Mae gwneud cais ar-lein yn golygu y gallwch weld eich statws cais yn rhwydd. 

Bydd gwneud hynny’n eich arbed rhag gorfod ffonio neu ymweld â’r Swyddfeydd Dinesig, ac mae gwneud cais ar-lein yn golygu y gallwch weld statws eich cais yn hwylus.

Byddwch yn cael gwybod yn gyflym am unrhyw wybodaeth y bydd rhaid i chi ei rhoi i ni efallai. Gallwch ddiweddaru eich manylion cysylltu ar-lein hefyd fel ein bod yn gwybod sut i gysylltu â chi pan ddaw eiddo ar gael.

Hefyd mae ailgofrestru’n haws ar-lein. Mae’r broses yn awtomatig ac mae’n haws i ymgeiswyr ymateb i ni. Mae ailgofrestru’n rheolaidd yn bwysig oherwydd mae’n sicrhau eich bod yn cael y flaenoriaeth briodol ar gyfer eich anghenion tai cyfredol.

Ar gyfer pobl sy’n methu defnyddio’r rhyngrwyd, mae cyfweliadau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ar gael o hyd.

Cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid testun: 18001 01656 643643
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Y llwybr at dŷ cymdeithasol

  1. Mae’r Tîm Datrysiadau Tai yn derbyn eich cais.
  2. Mae’n ei roi i Gynghorydd Datrysiadau Tai, a fydd yn cyflwyno ei hun i chi yn ysgrifenedig fel eich bod yn gwybod bod rhywun yn gweithio ar eich cais.
  3. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth. Fyddwn ni ddim yn allu gwneud penderfyniad ynghylch eich cais nes bydd y wybodaeth yn cael ei darparu.
  4. Byddwn yn eich hysbysu yn ysgrifenedig pan fydd eich cais wedi cael ei brosesu a phan rydych wedi cael eich cofrestru. Os yw'n llwyddiannus, bydd eich cofrestriad yn cael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad y gwnaed eich cais. Byddwn yn dweud wrthych chi pa fand ydych chi wedi cael eich cofrestru oddi tano ar y gofrestr tai cyffredin. Neu, efallai y cewch wybod nad ydych yn gymwys neu nad oes arnoch angen tŷ. Byddwn yn dweud wrthych sut gallwch ofyn i ni adolygu ein penderfyniad.

Amcangyfrif faint o amser fydd raid i chi ei aros am dŷ cymdeithasol

Gallwch amcangyfrif faint o amser fydd raid i chi ei aros am dŷ cymdeithasol gan ddefnyddio’r ddolen uchod. Mae pobl yn synnu’n aml at gyn lleied o eiddo sydd gan gymdeithasau tai ar gael i’w gosod, a pha mor hir yw’r rhestr aros. Mae’r telerau’n esbonio sut mae’r gyfrifiannell yn gweithio a bydd rhaid i chi gytuno iddynt cyn ei defnyddio.

Gall y gyfrifiannell amser aros ddweud y canlynol wrthych chi:

  • ble mae eiddo’r gymdeithas dai
  • nifer yr eiddo sydd wedi’u neilltuo yn ardaloedd y fwrdeistref sirol
  • nifer y bobl sy’n aros am dŷ mewn ardal
  • amcangyfrif o’r amser aros

Yn anffodus ni allwn gynnig tŷ i bawb drwy’r gofrestr tai. Mae prinder tai cymdeithasol a rhaid i ni eu neilltuo yn ôl angen.

Opsiynau eraill

Mae llawer o opsiynau eraill os ydych chi’n chwilio am dai fforddiadwy. Gallech roi cynnig ar y canlynol:

  • prynu tŷ fforddiadwy
  • edrych mewn ardaloedd eraill
  • rhentu yn y sector preifat
  • cyfnewid eich cartref, os ydych eisoes yn denant gyda chyngor neu gymdeithas dai

Cyfnewid eich cartref

Os ydych chi’n denant gyda chyngor neu gymdeithas dai ar hyn o bryd ac eisiau symud i fyw, gallwch wneud cais am drosglwyddo neu gyfnewid.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio’r gwasanaeth cyfnewid cenedlaethol sy’n cael ei ddarparu gan Homeswapper. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Homeswapper.

Cymdeithasau tai ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y