Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cwestiynau Cyffredin Tywydd y Gaeaf

Mae’r atebion yma’n ateb y cwestiynau cyffredin am dywydd y gaeaf. Yn ystod tywydd drwg iawn, rydym hefyd yn rhoi gwybod i drigolion am unrhyw newidiadau dros dro i gasgliadau sbwriel ac ailgylchu ar:

Ewch i’n tudalen cau ysgolion i weld a yw’r ysgol ar agor. Mae’r dudalen yn cael ei diweddaru’n uniongyrchol yn gyson.

Hefyd, gwrandewch am unrhyw gyhoeddiadau ar BridgeFM ar 106.3 FM a hefyd ar orsafoedd radio lleol eraill. Gallwch wirio gwybodaeth BBC Cymru Wales am gau ysgolion hefyd.

Gall tywydd drwg iawn effeithio ar ysgolion lleol mewn gwahanol ffyrdd. Yn ogystal â gorfodi ysgolion i gau, gall eira trwm atal staff rhag teithio i’r gwaith, yn enwedig os ydynt yn byw ymhell i ffwrdd.

Gall problemau eraill cyffredin orfodi ysgolion i gau eu drysau hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys systemau gwresogi ddim yn gweithio neu bibellau wedi byrstio, a all achosi llifogydd mewn ystafelloedd dosbarth.

Os yw hi’n ddiogel i weithwyr a thrigolion, fe fyddwn ni a’n partneriaid gwastraff, Kier, yn gwneud ein gorau i gasglu sbwriel a deunyddiau i’w hailgylchu.

Er hynny, gyda 65,000 o gartrefi ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd rhywfaint o oedi’n anochel mewn tywydd drwg iawn. Yn ystod y cyfnodau hyn, byddwn yn rhoi gwybod i drigolion am unrhyw newidiadau dros dro i gasgliadau ar ein tudalennau newyddion ac ar ein sianel Twitter.

Os bydd rhew neu eira’n canslo casgliad, byddwn yn rhoi gwybod am hynny:

  • ar y tudalennau newyddion
  • ar Facebook
  • ar Twitter
  • ar y cyfryngau lleol

Os caiff eich casgliad ei ganslo, peidiwch â rhoi unrhyw beth allan ar y palmant, oherwydd ni fydd yn cael ei gasglu tan eich casgliad nesaf – felly bydd deunyddiau i’w hailgylchu’n cael eu casglu yr wythnos ganlynol a’r sbwriel ymhen pythefnos.
Ni chewch eich cosbi am roi dwbl y lwfans o fagiau allan:

  • os oes casgliadau bagiau sbwriel wedi’u canslo
  • os oes gwastraff gormodol i’w gasglu fel rhan o’r dyddiad nesaf sydd wedi’i drefnu ar eich cyfer

Mae rhew ac eira’n gallu gwneud unrhyw siwrnai yn beryglus, yn arbennig felly ar rai o’n ffyrdd culach a serthach. Hefyd mae’n beryglus iawn pan mae cerbyd yn lori ailgylchu drom a llawn. Hyd yn oed pan mae ein cerbydau’n gallu defnyddio ffyrdd gyda gofal, gall palmentydd a llwybrau troed fod wedi’u heffeithio o hyd gan rew. Mae hyn yn eu gwneud yn beryglus i gasglwyr sbwriel a deunyddiau i’w hailgylchu.

Yn ystod tywydd oer, rydym yn cael rhagolygon penodol y tywydd deirgwaith y dydd gan MeteoGroup UK. Mae gan ein bwrdeistref sirol gymysgedd ddaearyddol amrywiol o gymoedd ac arfordir ac felly mae’r rhagolygon ar gyfer mewndir uchel neu isel ac ardaloedd arfordirol.

Hefyd, rydym yn gyfrifol am bum gorsaf dywydd. Mae’r rhain yn defnyddio offer fel synwyryddion rhew i roi manylion fel amodau atmosfferig a thymheredd arwynebau ffyrdd lleol.

Rydym yn defnyddio’r holl wybodaeth yma i ddarogan y tywydd. Os oes disgwyl rhew, rydym yn trin y rhannau a ddefnyddir fwyaf o rwydwaith y ffyrdd ymlaen llaw gyda halen craig er mwyn atal barrug a rhew.

Rydym yn trin y rhannau a ddefnyddir fwyaf o rwydwaith y ffyrdd ymlaen llaw gyda halen craig er mwyn atal barrug a rhew.

Ar gyfer ardaloedd i gerddwyr, mae gweithwyr y cyngor yn defnyddio offer arbenigol i chwistrellu dŵr hallt, toddiant halen sy’n helpu i doddi rhew. Hefyd rydym yn clirio eira gyda llaw a gyda pheiriannau chwythu eira.

Nid yw’n effeithiol rhoi halen ar eira ffres. O ganlyniad, ni fyddwch yn gweld lori raeanu pan mae hi’n bwrw eira, oherwydd byddai’n rhaid clirio’r ffyrdd gydag aradr cyn eu trin.

A dweud y gwir, mae halennu ffyrdd yn dibynnu ar sawl ffactor, fel lleithder a chlosrwydd. Er enghraifft, mae halen yn llawer llai effeithiol ar dymheredd is na -10 gradd Celsius.

Mae gennym ni hyd at 4,500 o dunelli o halen yn ein canolfan yn Waterton. Hefyd rydym yn ail-lenwi’r stoc mewn cyfnod estynedig o dywydd drwg dros y gaeaf ac mae gennym gytundebau gydag awdurdodau cyfagos i roi a derbyn help, yn ôl yr angen.

Gyda’r cynghorau cymuned lleol, rydym yn darparu tua 400 o finiau graeanu ar safleoedd sydd wedi’u dewis yn ofalus ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Fel rheol mae’r rhain ar ochr ffyrdd preswyl ac ar fân lwybrau eraill. Fel rheol maent ar gyffyrdd neu lethrau serth, a chan eu bod yn felyn llachar, mae’n hawdd eu gweld.

Na. Adnodd cymunedol yw’r biniau graeanu ac ni ddylid eu defnyddio ar dir nac eiddo preifat. Maent i drigolion a gyrwyr eu defnyddio ar ffyrdd cyhoeddus mewn tywydd oer. Mae’r gymysgedd o halen a thywod bras yn ei gwneud yn haws gyrru ar strydoedd lleol a byddwn yn ail-lenwi’r biniau at y diben hwn cyn pob gaeaf.

Gall tywydd drwg iawn effeithio ar lyfrgelloedd, canolfannau hamdden, pyllau nofio, canolfannau dydd, meysydd parcio ac eiddo arall y cyngor, fel Swyddfa Gofrestru Pen-y-bont ar Ogwr neu Amlosgfa Llangrallo.

Er y byddwn ni a’n partneriaid yn gwneud pob ymdrech i gadw cyfleusterau o’r fath ar agor, ni fydd hyn yn bosib bob amser. Mae hynny’n hynod wir os bydd tywydd drwg iawn yn atal staff rhag cyrraedd y gwaith.

Pan mae angen cau dros dro, ein nod ni yw ailagor yr eiddo ac adfer y gwasanaeth arferol cyn gynted â phosib pan mae hynny’n ddiogel.

Yn ystod tywydd drwg iawn, byddwn yn rhoi gwybodaeth gyson i drigolion am unrhyw wasanaethau sy’n cau neu unrhyw darfu ar wasanaethau. Edrychwch ar ein tudalennau newyddion a’n sianel Twitter am ddiweddariadau.

Mae darparu gwasanaethau rheng flaen hanfodol fel gofal cartref yn flaenoriaeth mewn tywydd drwg iawn. Mae ein cynllunio ymlaen llaw yn ein helpu i gyflawni hyn drwy gydol y flwyddyn.

Yn ystod eira trwm y blynyddoedd diwethaf, mae ein staff ni wedi gwneud pob ymdrech, gan gynnwys defnyddio cerbydau gyriant pedair olwyn, i ymweld â defnyddwyr a sicrhau nad oes neb ar eu colled. Hefyd rydym yn rhoi blaenoriaeth i’n cwsmeriaid mwyaf bregus a’r rhai ag anghenion meddygol penodol.

Mae’n bwysig bod trigolion yn gofalu am ei gilydd yn ystod tywydd drwg iawn, ac yn enwedig y bobl mwyaf agored i niwed. Gallwch wneud hyn drwy ystyried pwy sydd mewn perygl mwyaf oherwydd tywydd drwg iawn, fel cymdogion mewn oed neu anabl. Wedyn, gwnewch drefniadau gyda nhw i’w cefnogi gyda siopa am fwyd neu wneud tasgau eraill pwysig.

Efallai y bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn cynlluniau gwirfoddoli lleol yn ystod tywydd drwg iawn. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwirfoddoli Cymru.

Gall cymunedau baratoi ar gyfer tywydd drwg iawn drwy benderfynu a oes modd gwneud tasgau ar y cyd yn hytrach nag yn unigol. Gall hyn leihau effeithiau tywydd drwg iawn yn y cartref ac yn y gwaith, drwy glirio eira o fynedfeydd neu lefydd parcio, er enghraifft.

Dim ond gan bobl rydych chi’n eu hadnabod ddylech chi dderbyn help, ac aelodau o sefydliad gwirfoddol cyfarwydd i chi. Os nad ydych yn adnabod rhywun, gofynnwch iddyn nhw am fathodyn adnabod a’i wirio cyn eu gadael i mewn i’ch tŷ. Ni fydd cynorthwywyr didwyll yn poeni am orfod aros pan rydych chi’n gwneud hyn, ac mae mwy o wybodaeth am leihau’r risg o ymwelwyr twyllodrus ar gael yma.

Chwilio A i Y