Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gofal cartref yn ystod tywydd drwg iawn

Mae gweithwyr gofal cartref yn helpu’r henoed a phobl fregus gydag amrywiaeth o dasgau gofal personol fel:

  • codi o’r gwely
  • ymolchi a gwisgo
  • bwyta ac yfed
  • paratoi ar gyfer mynd i’r gwely gyda’r nos
  • siopa
  • tasgau eraill yn y cartref

Mae gwasanaethau rheng flaen hanfodol fel gofal cartref yn parhau’n flaenoriaeth mewn tywydd drwg iawn, ac rydym yn ei ddarparu drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod eira trwm y blynyddoedd diwethaf, mae ein staff ni wedi gwneud pob ymdrech i ymweld â defnyddwyr, sy’n cynnwys defnyddio cerbydau gyriant pedair olwyn. Hefyd rydym yn rhoi blaenoriaeth i’n cwsmeriaid mwyaf bregus a’r rhai ag anghenion meddygol penodol.

Gallwch helpu eich cymuned drwy gadw llygad ar gymdogion, ffrindiau a pherthnasau bregus yn ystod tywydd drwg iawn.

Am ddiweddariadau, ewch i’n tudalen ni ar Facebook neu fonitro ein diweddariadau #BCBCwinter ar Twitter. Mae posib edrych ar ein tudalennau newyddion hefyd.

Chwilio A i Y