Canolfannau hamdden a ffitrwydd Halo
Ers 2012, buom yn gweithio mewn partneriaeth â GLL/Halo Leisure i reoli wyth canolfan hamdden a phwll nofio. Ein nod yw gwella llesiant Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Sefydlwyd y Bartneriaeth Byw’n Iach er mwyn datblygu:
- cymunedau iachach
- plant a phobl ifanc
- cymunedau cryfach
Yn ogystal â rheoli’r cyfleusterau hyn, mae GLL/Halo hefyd yn gweithredu’n llwyddiannus y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff a’r Fenter Genedlaethol Nofio Am Ddim. Sefydlwyd y bartneriaeth am gyfnod o 15 mlynedd.