Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisiadau am fathodyn glas, adnewyddu, a chael bathodyn cyfnewid

Nid yw Bathodyn Glas yn drwydded i barcio yn unrhyw le. Os byddwch chi’n parcio lle byddai’n achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd, fe allech gael dirwy neu efallai y bydd eich cerbyd yn cael ei symud. Mewn llawer o leoliadau, ni chaniateir parcio dan unrhyw amgylchiadau. O ganlyniad, dylech wirio’r trefniadau lleol.

Am fwy o fanylion, darllenwch Llywodraeth Cymru ar hawliau a chyfrifoldebau deiliaid Bathodyn Glas. Byddwch wedi cael y ddogfen yma pan gawsoch eich Bathodyn Glas.

 

Camddefnyddio Bathodynnau Glas

Gellir camddefnyddio bathodynnau glas mewn sawl ffordd. Mae’r rhestr ganlynol yn nodi troseddau o ddifrifoldeb amrywiol, ond nid yw’n rhestr gynhwysfawr.

Ni ddylai deiliad Bathodyn Glas wneud y canlynol:

  • defnyddio Bathodyn Glas sydd â’r dyddiad arno wedi dod i ben
  • defnyddio bathodyn y cofnodwyd ei fod wedi ei golli neu ei ladrata
  • gadael i ffrind neu berthynas ddefnyddio’r Bathodyn Glas
  • defnyddio copi o Fathodyn Glas
  • addasu manylion y Bathodyn Glas, fel dyddiad dod i ben
  • gwneud cais twyllodrus, fel rhoi gwybodaeth anghywir ar y ffurflen gais
  • gwneud sawl cais defnyddio athodyn Glas a gafodd trwy dwyll

Ni ddylai trydydd parti wneud y canlynol:

  • defnyddio Bathodyn Glas rhywun arall heb i ddeiliad y bathodyn fod yn y cerbyd trwy gydol y daith, o dan unrhyw amgylchiadau
  • defnyddio Bathodyn Glas yn benodol er mwyn casglu presgripsiwn/siopa ac ati i rywun, heb i ddeiliad y bathodyn fod yn y cerbyd trwy gydol y daith
  • defnyddio Bathodyn Glas rhywun sydd wedi marw
  • copïo, addasu neu wneud Bathodynnau Glas
  • defnyddio bathodyn wedi ei golli neu ei ladrata
  • defnyddio Bathodyn Glas ffug

 

Deiliaid bathodyn sydd wedi marw

Os bydd deiliad bathodyn yn marw, dychwelwch y bathodyn atom yn y cyfeiriad isod, ynghyd ag atodi nodyn yn amlinellu'r rheswm dros y ffurflen:

Cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont at Ogwr
Ffôn: 01656 643643
Cyfnewid testun: Rhowch 18002 cyn unrhyw un o’n rhifau ffôn.
Cyfeiriad: Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Iau: 8:30am tan 5pm
Dydd Gwener 8:30am i 4:30pm

SMS: 07581 157014 (i gwsmeriaid byddar a thrwm eu clyw).

Chwilio A i Y