Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ceisiadau am fathodyn glas, adnewyddu, a chael bathodyn cyfnewid

Gallwch fod yn gymwys yn awtomatig i gael Bathodyn Glas os ydych chi:

  • yn cael elfen symudedd cyfradd uwch lwfans byw i’r anabl, nad yw’n lwfans gweini nac yn elfen ofal y lwfans byw i’r anabl
  • yn cael Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP)
    • ac yn sgorio 12 pwynt am gynllunio a dilyn taith
    • neu’n sgorio 8 pwynt am symud o gwmpas
  • wedi’ch cofrestru’n ddall (Nam Difrifol ar y Golwg)
  • yn cael atodiad symudedd pensiwn rhyfel
  • wedi cal cyfandaliad budd-dal gan Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (o fewn lefelau tariff 1 i 8)
    • ac wedi cael eich cadarnhau fel rhywun sydd ag anabledd parhaol a sylweddol sy’n eich atal rhag cerdded neu’n gwneud hynny’n anodd iawn
  • yn cael tariff 6 ar Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog ar gyfer Anhwylder Meddyliol Parhaol

Os nad yw unigolyn yn gymwys yn awtomatig, efallai y bydd yn gymwys o hyd i gael Bathodyn Glas os yw dros ddwy oed, ac os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae ganddo anabledd parhaol a sylweddol sy’n golygu nad yw’n gallu cerdded neu mae cerdded yn anodd iawn iddo
  • mae ganddo salwch angheuol sy’n cyfyngu ar ei allu i symud
  • nid yw’n gallu cynllunio na dilyn unrhyw daith heb help gan rywun arall, a allai gynnwys pobl:
    • ag awtistiaeth
    • â chlefyd Alzheimer neu ddementia
    • sydd wedi goroesi strôc
    • ag anawsterau dysgu
    • ag anafiadau pen
  • pobl sydd ag anabledd difrifol yn y ddwy fraich sy’n ei gwneud yn anodd iawn neu’n amhosibl gweithredu offer parcio fel peiriannau talu am barcio, a’u bod yn gyrru’n rheolaidd

Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o’r cyflyrau perthnasol.

Hefyd, bydd plentyn dan dair oed yn gymwys os oes ganddo gyflwr meddygol sy’n golygu bod rhaid iddo wneud y canlynol bob amser:

  • cario offer meddygol swmpus nad oes modd ei gario gyda’r plentyn yn ddidrafferth
  • bod yn agos at gerbyd sydd â thriniaeth feddygol a all achub ei fywyd, neu fod posib mynd ag ef yn gyflym yn y cerbyd i rywle lle rhoddir triniaeth o’r fath

Nid ydych yn gymwys:

  • os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf uchod
  • os oes gennych chi anabledd dros dro sy’n annhebygol o bara o leiaf 12 mis ac nad yw’n sylweddol, fel coes wedi torri
  • os mai dim ond pan fyddwch chi’n cario eitemau, fel wrth siopa, ydych chi’n cael problemau cerdded
  • os nad yw eich cyflwr yn cyfyngu eich gallu i gerdded yn barhaus nac yn ddifrifol

Bathodynnau glas dros dro

Efallai y byddwch yn gymwys i gael bathodyn glas dros dro am 12 mis os ydych chi’n gwella neu’n aros am driniaeth ar gyfer salwch neu anaf difrifol. Bydd eich anabledd dros dro ond yn sylweddol ac yn debygol o bara o leiaf 12 mis.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fathodynnau dros dro yn y llyfryn ‘Pwy sy’n gymwys i gael bathodyn glas?’.

Chwilio A i Y