Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adar

Cyngor Datblygu

Mae adar yn nythu mewn cynefinoedd amrywiol, gan gynnwys coed, llwyni, glaswelltiroedd a chlogwyni. Mae strwythurau o wneuthuriad dyn fel chwareli, adeiladau a waliau gwag yn darparu cyfleoedd nythu hefyd. Felly, gall sawl math o ddatblygiad effeithio ar adar, o ffermydd gwynt yr ucheldir i adfywio canol trefi. Mae awdurdodau cynllunio’n gofyn yn aml i ddatblygwyr asesu effeithiau eu cynllun ar adar a lliniaru ar gyfer hynny.

Mae gwahanol sefyllfaoedd datblygu’n gofyn am wahanol dechnegau arolygu adaregol a gwahanol ddulliau lliniaru a gwneud iawn. Mae’r wybodaeth ganlynol yn berthnasol i bob datblygiad. Fodd bynnag, mae angen asesiad penodol ar gyfer rhai datblygiadau mawr neu’r rhai’n agos at ardaloedd dan warchodaeth.

Nid yw caniatâd cynllunio’n gallu diystyru’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (WCA). Felly, hyd yn oed os oes caniatâd cynllunio, bydd rhaid i safleoedd datblygu gael eu hasesu ymlaen llaw gan ecolegydd gyda chymwysterau addas, a lliniaru yn unol â hynny. Mae hyn yn berthnasol os oes gan y safle nodweddion cynefin adar cymwys, fel coed, coetiroedd, llwyni, glaswelltir a gwrychoedd.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (WCA) fel y’i diwygiwyd yn gwarchod adar yn ogystal â’u nythod a’u wyau. Mae hyn yn golygu ei bod yn drosedd difrodi neu ddinistrio’n fwriadol neu’n ddiofal nyth sy’n cael defnydd gan aderyn, neu unrhyw ran ohoni. Mae gan adar Atodlen 1 o dan y WCA warchodaeth ychwanegol.

O dan y WCA, ni all camau gweithredu a fyddai’n drosedd fel arall mewn perthynas ag adar gwyllt gael eu trwyddedu at ddibenion datblygu.

Rhywogaethau adar Atodlen 1

Mae llawer o adar prin wedi’u rhestru yn Atodlen Un. Mae’r adar hyn yn cael y warchodaeth arferol a roddir i holl adar Prydain. Hynny yw, mae’n drosedd lladd neu anafu ein hadar brodorol, neu ddifrodi neu ddinistrio eu nythod neu eu wyau.

Fodd bynnag, yn ychwanegol mae adar Atodlen 1 yn cael gwarchodaeth bellach gan ei bod yn drosedd tarfu’n fwriadol neu’n ddiofal ar y canlynol:

  • aderyn o’r fath wrth iddo greu ei nyth, neu pan mae ynddi, neu’n agos at nyth sy’n cynnwys wyau neu gywion
  • y cywion sy’n dibynnu arno

Os yw’n debygol y byddwch yn tarfu ar rywogaethau Atodlen 1 at ddiben penodol, bydd rhaid i chi gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cosbau:

Y gosb fwyaf am beidio â chydymffurfio â WCA am bob trosedd yn y Llys Ynadon yw dirwy o £5000 a/neu chwe mis o garchar. Efallai y bydd rhaid ildio unrhyw offer a ddefnyddir i gyflawni’r drosedd. Mae modd dal y cwmni a’r unigolion yn atebol.

Nid oes angen arolwg bob amser. Er bod gan y rhan fwyaf o adeiladau a safleoedd datblygu botensial ar gyfer adar yn nythu, mae gan rai safleoedd fwy o botensial nag eraill. Mae’r rhain yn cynnwys datblygiadau sy’n effeithio ar goetiroedd, gwrychoedd, cyrff o ddŵr a llwyni.

Nodyn cyfarwyddyd dau:

Os ydym yn teimlo nad oes digon o risg o ddod o hyd i adar yn nythu i gynnal arolwg, mae cyfrifoldebau’r ymgeiswyr a/neu’r contractwyr o ran y gyfraith bywyd gwyllt berthnasol yn parhau.

Yn fwyaf cyffredin, bydd angen arolwg am adar yn nythu ar gyfer gwaith yn ystod y prif dymor nythu sydd, fel rheol, rhwng misoedd Mawrth ac Awst. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod rhai rhywogaethau o adar yn nythu y tu allan i’r cyfnod hwn. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod tylluanod gwynion yn nythu drwy gydol y flwyddyn. Bydd angen asesiad er mwyn gweld a oes nythod gweithredol yn bresennol ar y safle datblygu. Wedyn gwneir argymhellion gan yr ecolegydd arolygu cymwys, i sicrhau bod y datblygiad yn cadw at y fframwaith cyfreithiol.

Os credir ei bod yn afresymol gwneud cais am arolwg i gyd-fynd â chais, nid yw’n golygu na fydd adar yn nythu yn bresennol. Os canfyddir adar yn nythu yn ystod y datblygiad, cofiwch eu bod wedi’u gwarchod o dan y WCA yr un fath a’i bod yn anghyfreithlon tarfu arnynt.

Yn gyffredinol, creu oedi gyda datblygiad fydd adar yn nythu, nid ei atal.

Efallai y bydd angen arolygon os bydd gwaith a allai darfu ar adar yn nythu a thorri’r gyfraith yn cael ei gynnig ar gyfer y tymor nythu. Byddai hyn yn cynnwys gwaith fel tynnu llystyfiant neu ddymchwel.

Mathau o arolygon

Bydd yr arolwg penodol yn cael ei gynnal gan ddibynnu ar effaith debygol y datblygiad. Yn aml ar gyfer safleoedd mwy neu sensitif, bydd arolwg cynefin cam i estynedig neu asesiad ecoleg tebyg yn asesu potensial y safle ar gyfer adar. Wedyn bydd yn argymell gwaith arolygu ychwanegol.

Mae arolygon ar adar yn magu ac yn gaeafu’n cael eu cynnal yn aml iawn ar gyfer datblygiadau mwy. Felly mae’n ofynnol darparu data sylfaen adaregol cadarn sydd fel rheol yn sail i Asesiad o’r Effaith Ecolegol.

Mae angen arolygon ar adar yn magu ac yn gaeafu er mwyn asesu lefel y diddordeb a dewis cynigion lliniaru.

Y math mwyaf cyffredin o arolwg a gynhelir mae’n bur debyg fydd Arolwg Adar yn Magu. Mae hwn yn sefydlu’r defnydd gan adar yn magu. Gellir ei gynnal rhwng misoedd Mawrth ac Awst ond, yn ddelfrydol, rhwng misoedd Mawrth a Mehefin yn ystod y rhan fwyaf o flynyddoedd.

Hefyd gall arolygon ym misoedd Mawrth, Ebrill a dechrau Mai gofnodi defnydd adar sy’n mudo o’r safle.

Mae Arolwg Adar yn Gaeafu yn cael ei gynnal rhwng misoedd Tachwedd a Chwefror ac fel rheol mae’n cael ei gynnal er mwyn mesur defnydd adar sy’n gaeafu o safle. Efallai nad yw rhai o’r adar hynny, fel elyrch, y coch dan adain a’r gynffon sidan, yn bresennol yn ystod yr haf, ond eu bod yn dibynnu ar y safle am gynhaliaeth dros y gaeaf. Gellir ymestyn cyfnod yr arolwg i fisoedd Medi a Hydref er mwyn cofnodi adar yn mudo.

Nodyn cyfarwyddyd tri:

Nid yw WCA yn diffinio tymor magu aderyn. Mae’r gyfraith yn gwarchod pob nyth weithredol heb ystyried yr amser o’r flwyddyn. Felly, rydym yn disgwyl i ymgeiswyr ofyn am gyngor ecolegol cymwys ac addas ar gyfer amseru gwaith, a nodi mesurau lliniaru addas i sicrhau cydymffurfiaeth â WCA.

I helpu i osgoi effeithio ar adar yn nythu, rydym yn argymell y dylid gwneud gwaith y tu allan i’r tymor nythu, sydd rhwng misoedd Mawrth ac Awst yn gyffredinol.

Er yn sicrhau osgoi niwed i adar yn nythu, efallai na fydd cynnal yr holl waith y tu allan i’r tymor nythu yn briodol. Er hynny, dim ond canllaw yw’r dyddiadau hyn, gan y bydd rhai adar yn nythu y tu allan i’r cyfnod hwn.    

Fel dewis arall, gall ymgeiswyr sicrhau yn aml eu bod yn osgoi niwed i adar yn nythu drwy ddangos nad oes unrhyw adar yn nythu ar y safle yn syth cyn i’r gwaith ddechrau. Gwneir hyn drwy gael ecolegydd cymwys ac addas i gynnal arolwg adar yn nythu. Dylid cyflwyno’r arolwg hwn a rhaid i’r Awdurdod Cynllunio Lleol gytuno iddo.

Nodyn cyfarwyddyd pedwar:

Os gwelir adar yn nythu ar unrhyw adeg, rhaid i waith a allai darfu arnynt ddod i ben ar unwaith a rhaid gofyn am gyngor. Dylid gwarchod unrhyw nythod gweithredol a ganfyddir nes bod y cywion wedi hedfan yn nyth. Gyda rhywogaethau Atodlen 1, dylid dyfeisio a gweithredu camau lliniaru ar gyfer effeithiau fel colli safle nythu. 

Bydd gan rai datblygiadau nodweddion niferus sy’n addas ar gyfer adar yn nythu. Wedyn er mwyn cydymffurfio â deddfau a pholisïau cynllunio fel Polisi ENV 6 CDLl Pen-y-bont ar Ogwr, bydd amod yn cael ei gynnwys i sicrhau eu gwarchodaeth yn y tymor hir. Mae’r amod hwn o gymorth i’r awdurdod lleol ddangos ei ymrwymiad i gadwraeth bioamrywiaeth o dan Adran 40 Deddf Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006.

Caiff person awdurdodedig, rhywun sydd wedi cael caniatâd ysgrifenedig y perchennog neu’r preswylydd, dorri neu docio coeden beryglus er mwyn gwarchod iechyd a diogelwch y cyhoedd. Pe bai adar Atodlen 1(3) yn cael eu heffeithio, mae angen trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Yn yr un modd, mae angen trwydded ar gyfer y gwaith ar goed sy’n cael ei ystyried yn angenrheidiol am resymau ar wahân i iechyd a diogelwch.
Efallai na fydd anaf, lladd neu darfu damweiniol ar aderyn gwyllt oherwydd defnydd anghyfreithlon o goeden yn drosedd. Hynny yw, ar yr amod bod posib dangos na allai’r niwed fod wedi’i osgoi yn rhesymol. 

Peidiwch â chlirio llystyfiant yn ystod y tymor nythu, sydd fel rheol rhwng misoedd Mawrth ac Awst.

Efallai bod gan eich safle chi goed neu lwyni neu nodweddion eraill sy’n bwysig i adar. Os ydynt yn mynd i gael eu colli fel rhan o ddatblygiad, amserwch ddechrau’r gwaith i osgoi gwrthdaro â thymhorau magu adar a mamaliaid bychain. Dyma’r cam cyntaf at atal gofid a niwed diangen, neu gyflawni trosedd.

Yn ogystal â chynnal gwaith ar yr amseroedd cywir o’r flwyddyn, mae cynllun datblygu sensitif yn defnyddio asedau safle fel rhan o seilwaith gwyrdd sydd wedi’i gynllunio’n dda. Gall hyn helpu i osgoi tarfu ar adar a gwarchod safleoedd nythu posib ar gyfer y dyfodol. Hefyd, gall datblygiadau wella cynefinoedd presennol ar gyfer adar drwy gynlluniau tirlunio a darparu bocsys nythu.

Wrth weithio ar nodweddion fel toeau, wynebfyrddau neu fondoeau, byddwch yn ymwybodol o adar yn nythu sy’n rhannu ein cartrefi ni.

Mae adnewyddu, uwchraddio a chadwraeth adeiladau’n weithgareddau datblygu cyffredin, yn enwedig mewn ardaloedd adfywio trefol.

Rhowch sylw arbennig i unrhyw waith clirio/datblygu safle sy’n effeithio ar adeiladau, oherwydd dyma ble mae gwenoliaid duon, gwenoliaid, gwenoliaid y bondo a thylluanod gwynion yn ffafrio nythu.

Mae tai mawr, adeiladau fferm ac adeiladau hanesyddol yn gallu darparu cynefinoedd nythu a chysgodi pwysig i sawl rhywogaeth bwysig o adar. Hefyd mae adeiladau’n darparu cyfleoedd clwydo i ystlumod.

Fel rhan o ddatblygiad, gellir dod ar draws rhywogaethau o adar sy’n bwysig o safbwynt cadwraeth. Ymhlith y rhain mae tylluanod gwynion, adar y to, drudwy a gwenoliaid. Hefyd, mae llawer o adar eraill nad ydynt yn peri pryder o ran cadwraeth ond sy’n cael gwarchodaeth gyfreithiol ar y nyth, fel pincod a’r robin. Os oes adar yn nythu mewn adeilad, dylid trefnu’r gwaith i ddechrau y tu allan i’r tymor nythu, sydd fel rheol rhwng misoedd Mawrth ac Awst, yn gynwysedig.

Y dylluan wen yw’r rhywogaeth o aderyn y byddwn yn dod ar ei thraws amlaf yn ystod datblygiad.

Mae’n nythu mewn lleoliadau amrywiol ond yn ffafrio lleoliadau cysgodol, eang. Mae tylluanod gwynion yn tueddu i fyw mewn ysguboriau a hen adeiladau fel rheol, mewn ardaloedd o wlad agored sy’n cynnwys glaswelltir garw a thwmpathog. Uwch ben y tir yma, mae tylluanod gwynion yn hela am eu hoff ysglyfaeth, sy’n cynnwys llygod pengron y gwair, llygod eraill o bob math a llyg. Mae lleoliadau o’r fath i’w gweld yn agos iawn at ardaloedd trefol ac felly nid dim ond mewn ardaloedd gwledig mae tylluanod gwynion i’w gweld.

Cynefin yn diflannu

Yn ystod y ganrif ddiwethaf, roedd ysguboriau carreg yn cael eu hadeiladu’n aml, gyda ‘ffenestri tylluanod gwynion’ i annog yr adar i nythu. Roedd hyn o help i reoli llygod o bob math.

Mae’r hen ysguboriau a ddefnyddir gan dylluanod gwynion yn diflannu o gefn gwlad o  ganlyniad i’w dymchwel a’u dirywiad. Hefyd, mae trawsnewid ysguboriau a bythynnod gwag wedi lleihau nifer y safleoedd. Mae ymchwil Ymddiriedolaeth y Dylluan Wen wedi dangos effaith negyddol trawsnewid ysguboriau, a hefyd defnyddioldeb darparu ar gyfer tylluanod gwynion.

Eich prosiect trawsnewid ysgubor

Os ydych chi’n gwneud gwaith i drawsnewid ysgubor, edrychwch a oes tylluanod gwynion neu ystlumod yn defnyddio’r safle, neu a oeddent yn arfer gwneud hynny. Mae mwy o wybodaeth am arolygon ar dylluanod gwynion, ystyriaethau cyfreithiol, materion cynllunio, lliniaru, gwella, bocsys nythu a llety arall ar gael yn Llawlyfr Cadwraeth y Dylluan Wen.

Nid yw ceisiadau am drawsnewid ysguboriau’n cael eu gwrthod byth oherwydd tylluanod gwynion a gall presenoldeb tylluanod gwynion gefnogi datblygiad gyda darpariaeth mewn gwirionedd. Y rheswm am hyn yw y gall helpu i ddiogelu dyfodol tymor hir y safle ar gyfer y rhywogaeth. Lawrlwythwch gopi o gyfarwyddyd diweddaraf Ymddiriedolaeth y Dylluan Wen "Barn Owls and Rural Planning Applications: a Guide".

Mae coed yn gynefin posib i lawer o rywogaethau o adar yn nythu. I osgoi niwed a gofid diangen, dylid gwneud gwaith ar goed y tu allan i dymor nythu adar Prydain sydd fel rheol rhwng misoedd Mawrth ac Awst. Os yw hyn yn amhosib, dylai ecolegydd cymwys wneud archwiliad manwl ar bob coeden yn syth cyn i’r gwaith ddechrau.      
Os canfyddir nyth weithredol - yn cael ei hadeiladu neu’n cynnwys wyau neu gywion – rhaid atal unrhyw waith sy’n debygol o effeithio ar y nyth. Dylid gadael ffin waith o bum metr o leiaf yn ei lle o amgylch y nyth nes ei bod yn dod yn anweithredol. Efallai y bydd angen pellter byffer mwy gan ddibynnu ar y lleoliad neu’r rhywogaeth, ac yn enwedig os yw’n rhywogaeth atodlen un. 

Fel gyda choed, dylid amseru’r rheolaeth ar wrychoedd er mwyn osgoi’r tymor nythu. Os nad oes modd cwblhau’r gwaith y tu allan i’r tymor, mae rhai mesurau osgoi ar gael.

  1. Cynnal archwiliad am adar yn nythu cyn dechrau ar y gwaith. Fodd bynnag, rhaid pwysleisio mai ateb munud olaf yw hwn a allai arwain at oedi yr un fath gyda’r gwaith os canfyddir adar yn nythu.
  2. Atal y gwrych rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer nythu drwy orchuddio’r gwrych gyda rhwyd atal adar cyn i’r tymor nythu ddechrau ym mis Mawrth.
  3. Rhaid i ecolegydd cymwys asesu’r gwaith bob amser. Os bydd yn cael ei weithredu, dylai’r ecolegydd wneud hynny, neu oruchwylio’r gwaith.

Bydd y lliniaru sydd ei angen i leihau effeithiau negyddol datblygiad ar adar yn amrywio yn unol â maint a natur y safle, a’r rhywogaethau penodol yno. Bydd yr ecolegydd a ddewisir gennych chi’n gallu cynghori am anghenion lliniaru’r safle. Gallai’r mesurau lliniaru allweddol gynnwys y canlynol:

  • gwarchod ardaloedd sy’n cynnwys adar yn nythu fel coed neu wrychoedd
  • cynnal coridor o lystyfiant naturiol ar y safle
  • creu cynefin newydd addas ar gyfer y rhywogaethau sy’n defnyddio’r safle, neu’n agos ato
  • amseru’r gwaith y tu allan i’r tymor nythu
  • cynnal gweithgarwch adeiladu yn ystod golau dydd yn unig
  • peidio â datblygu bob cam at ymyl cyrff o ddŵr / dyfrffyrdd.

Efallai y bydd rhai mesurau lliniaru angen ecolegydd i gadarnhau bod yr holl weithdrefnau wedi cael eu dilyn.

Fel gyda gofynion lliniaru, bydd y mesurau gwneud iawn yn dibynnu ar faint a natur y safle, ac anghenion y rhywogaethau sydd neu oedd yn ei ddefnyddio. Dylid defnyddio dull budd net o weithredu wrth gynllunio unrhyw fesurau gwneud iawn. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn rhoi sylw i’r problemau presennol sy’n ymwneud â gwarchod ein hadar a’n bywyd gwyllt yn gyffredinol, fel colli cynefin. Hefyd mae’n cynnwys unrhyw fethiant i greu cynefin newydd fel plannu coed yn aflwyddiannus.

Er ein bod wedi ymrwymo i warchod a gwella bioamrywiaeth ac adnoddau tirlun, mae’n debygol y bydd digwyddiadau lle nad oes modd osgoi colledion. I osgoi colledion cynyddol ledled y fwrdeistref sirol, dylid gwneud iawn am ddarnau bychain o gynefin a gollir hyd yn oed. Dylai hyn ddigwydd ar y safle os yw’r cynllun yn caniatáu, neu ar lefel seilwaith neu oddi ar y safle, fel gwneud iawn am golli bioamrywiaeth fel rhan o gytundeb gyda pherchennog y tir.

Yn achlysurol, gall cynllun sydd wedi’i baratoi’n dda gynyddu bioamrywiaeth ac ansawdd tirlun safle i fod yn well na’r hyn oedd yn bodoli cyn y datblygiad. 

Mae sawl opsiwn gwneud iawn ar gael ar gyfer colli cynefinoedd:

  1. Ail-greu cynefinoedd ar y safle ar lefel gyfartal neu fwy na’r cynefin a gollwyd.
  2. Gwella cynefin o ansawdd gwael ar y safle, fel pan mae glaswelltir heb lawer o rywogaethau’n cael ei droi’n laswelltir gyda llawer o rywogaethau.
  3. Creu a/neu wella cynefinoedd oddi ar y safle. Mae’n syniad da gwneud hyn gan ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ymddiriedolaethau natur lleol.
  4. Cyfraniad ariannol tuag at greu, gwella a/neu reoli cynefinoedd oddi ar y safle.

Gwneud iawn ar y safle

Wrth ail-greu cynefinoedd ar y safle, mae’n bwysig deall y cyd-destun lleol ar gyfer creu’r cynefinoedd. Mae rhai cynefinoedd yn fwy priodol i ardal nag eraill. Yn yr un modd, gall creu’r cynefin priodol wella cysylltedd cyffredinol y rhwydwaith ecolegol a gwella’r budd i fywyd gwyllt yn fawr iawn. Gellir gweld cyfarwyddyd ar gynnwys cynefinoedd bywyd gwyllt mewn datblygiadau drwy seilwaith gwyrdd yn Adran A: Dull o Weithredu’r Seilwaith Gwyrdd.

Mae rhai mesurau gwneud iawn yn syml a gellir eu cyflawni heb fawr ddim cost ychwanegol. Mae defnyddio llwyni aeron brodorol ar gyfer cynlluniau tirlunio a gerddi’n esiampl dda. Yn aml gall wella ar beth oedd yno’n wreiddiol yn achos rhai safleoedd trefol.

Bydd colledion mawr ar gynefin yn gofyn yn naturiol am fesurau gwneud iawn yr un mor fawr fel plannu coetiroedd/llwyni newydd neu greu pyllau newydd. Dylai colledion mawr disgwyliedig a’r gwneud iawn o ganlyniad gael eu hystyried ar ddechrau un y broses gynllunio a’r prosiect. Mae hyn yn galluogi cyfraniad o sawl ffynhonnell am y mesurau gwneud iawn mwyaf addas ac effeithiol. Hefyd, gall nodi lleoliadau oddi ar y safle lle gellir defnyddio gwneud iawn am fioamrywiaeth fel adnodd gwneud iawn. Yn ddelfrydol, byddai’r safle gerllaw i sicrhau’r budd mwyaf.

Yn aml mae creu cynefin yn cael ei sbarduno gan golli cynefin. Eto, o dan rai amgylchiadau, gellir cael mwy o fudd drwy greu cynefinoedd prinnach neu fwy arbenigol os bydd y cyfle’n codi.

Gwneud iawn oddi ar y safle

Dylai creu cynefinoedd yn lle’r rhai a gollwyd oddi ar y safle fod yn ddewis olaf bob amser a dylai cymaint o werth naturiol â phosib barhau ar y safle. Mae hyn nid yn unig er budd bywyd gwyllt, ond hefyd er lles y bobl sy’n byw ar y safle a gerllaw. Mae seilwaith gwyrdd yn darparu manteision niferus a gallai ei golli arwain at golli budd a swyddogaeth ar gyfer y gymuned leol.

Fodd bynnag, rydym yn deall y bydd yr angen mawr am ddatblygiad yn arwain at wrthdaro yn aml gyda’n nodau bioamrywiaeth. Nid yw bob amser yn ymarferol newid cynefinoedd a seilwaith gwyrdd yn llwyr oddi mewn i becyn y datblygiad. I roi sylw i hyn, rhaid gwneud iawn am unrhyw golledion oddi ar y safle.

Dylai’r holl wneud iawn am golli bioamrywiaeth gael ei wneud gan ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ymddiriedolaethau natur lleol.

Mae sawl ffordd o gyflawni hyn, fel y canlynol:

  • gwneud iawn am golli bioamrywiaeth gan gynnwys creu/gwella/adfer cynefin oddi ar y safle mewn trefniant gyda pherchennog y tir
  • cyfraniad tuag at greu/gwella cynefinoedd gan bartïon eraill, fel Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Sicrheir y budd mwyaf o wneud iawn pan mae’r gwaith o greu, adfer a/neu wella cynefinoedd yn digwydd mewn cyswllt agos â’r cynefinoedd presennol. Po fwyaf yw’r darn o gynefin a’i gysylltedd â chynefinoedd eraill, y gorau yw hynny i fywyd gwyllt.

Gwella cynefinoedd presennol

Un o’r ffyrdd symlaf o ychwanegu bioamrywiaeth at ddatblygiad yw drwy wella beth sydd ar y safle eisoes. Gall hyn fod drwy greu pwll newydd, plannu coed, atgyweirio gwrych neu newid rheolaeth ar laswelltir ar safle. Gyda rhai datblygiadau mwy, mae’n bosib creu ardaloedd bywyd gwyllt penodol o laswelltir, coetir, llwyni neu hyd yn oed gyrff o ddŵr.

Bocsys adar

Mae dewis a gosod bocsys adar yn eu lle yn ffordd gymharol rad a syml o gefnogi bywyd gwyllt mewn datblygiad ar bob raddfa. Mae llawer o wahanol fathau wedi’u cynllunio i gefnogi gwahanol rywogaethau fel gwenoliaid y bondo ac adar y to. Nid oes angen cynnal a chadw’r rhan fwyaf ohonynt, maent yn hawdd eu gosod yn eu lle ac, yn dibynnu ar y deunyddiau, byddant yn para am fwy na 25 mlynedd fel rheol. Gellir gosod rhai ar adeiladau ac maent wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’u hamgylchedd.

Toeau gwyrdd/llwyd

Mewn rhai datblygiadau, gall fod yn bosib cynnwys toeau gwyrdd/llwyd ar dai a garejys, sy’n gallu bod o fudd i sawl rhywogaeth o aderyn. Mae toeau llwyd yn ffordd syml ac amgylcheddol gyfeillgar o ailgylchu deunyddiau adeiladu ar y safle a chreu cynefin heb ymyrryd i rywogaethau amrywiol, gan gynnwys y tingoch du.

Wrth gynllunio datblygiad yn agos at ddŵr neu mewn dŵr, mae’n ddefnyddiol cynnwys nodweddion cyfeillgar i adar fel planhigion dŵr, tyllau nythu a physt clwydo.

Credyd llun: 'Feeding the blue tit' gan 'Tambako the Jaguar'. Credyd trwydded.

Chwilio A i Y